Roedd melin yn y gorffennol yn L么n y Pentre, Rhuddlan, a dyma'r man neu'r pandy hynaf a gofnodir yng Nghymru. Yn anffodus dim ond safle'r felin sydd ar 么l ond fe ellir gweld ar adegau olion Llyn y Felin yn ystod y gaeaf. Yr afonig fechan o'r enw Afon Goch sy'n rhedeg drwy gwrs golff Rhuddlan a roddai b诺er i'r felin. Rhyw hanner milltir yn uwch i fyny'r afon fe ddown at Fferm y Pentre. Dyma fferm tra adnabyddus yn hanes Rhuddlan ac un o safleoedd melinau Castell Rhuddlan yn ystod nerth neu rym y castell.
Gweithredu fel melin meillion
Malu 欧d a wneid yma am y rhan fwyaf o'i hoes ond cefais wybodaeth y bu'n gweithredu fel melin meillion am rai blynyddoedd cyn iddi gael ei chau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dyfeisiwyd peiriannau newydd ar 么l hyn a fyddai'n gallu malu'r meillion gan adael yr hadau ar 么l i'w plannu yn y flwyddyn ddilynol.
Rhyw filltir ymhellach i fyny'r afon fe ddown at Felin Llewerllyd. Mae'r adeilad bellach yn dy annedd ond mae plac ar yr adeilad sy'n honni mai ei ddyddiad adeiladu oedd 1785.
Gellir gweld golygfa dda o l么n Dyserth i Ruddlan o safle'r felin yma.
Y melinydd olaf
Y dyddiad olaf i'r felin falu oedd 1960. Gwr o'r enw Mr. Williams oedd ei melinydd olaf a phreswyliai yno gyda'i chwaer Miss Edith Williams.
Cefais sgwrs hir gyda hi yn 1977 a dywedodd ei bod yn bedair oed yn symud yno. Roedd Miss Williams yn 82 ar y pryd ac felly fe symudodd y teulu yno yn 1899 o Abergele.
Ei thad oedd Thomas Williams a anwyd yn Tyddyn Uchaf Bach tra'r oedd ei mam yn hanu o Ty'n y Caeau, Betws yn Rhos. Prentisiwyd ei thad gyda Lloyd Llwyd ym Melin Llanfair Talhaearn a phan ddaeth Melin Llewerllyd yn wag manteisiwyd ar y cyfle i symud yno.
Dal yslywod ac eogiaid
Ni chofiai Miss Williams yr olwyn ddwr erioed wedi rhewi ond cofiai'r teulu'n dal yslywod ac eogiaid yn ffrwd y felin. Arferai ei brawd ddefnyddio picfforch i'w dal.
Arhosodd Miss Williams gyda'i brodyr yn y felin hyd ei chau.
Roedd fflodiart yn y cae ac yn ystod llifeiriant gadawyd i'r dwr ychwanegol lifo tuag at Aber Rinsey.
Cofiai Miss Williams gerdded bob gyda'r nos gyda pheint a hanner o lefrith i wr o'r enw Mr. Kirkham a oedd yn byw yn Nyserth.
Cerddai drwy'r caeau gyda llefrith a ch芒i geiniog a dimai amdano. Credai Mr. Kirkham fod llefrith hwyr y p'nawn yn fwy maethlon na llefrith bore.
Dywedodd Miss Williams hefyd fod ffermwyr cylch y Rhyl yn talu am falu eu hyd ond byddai'n well gan ffermwyr cylch Trelawnyd, Cwm ac Abergele dalu toll. Felly roedd yn y felin bob amser rywfaint o rawn.
Dywedodd Miss Williams wrthyf ei bod wedi rhoddi'r Tirpec a'r Ffiol i'r Amgueddfa yn Sain Ffagan.
Gweithio ddydd a nos
Fe gymerai ddwy awr i lyn y felin lenwi ac ar adegau rhaid oedd gweithio ddydd a nos. Roedd perygl i'r meini malu boethi gormod a rhoi'r lle ar d芒n.
Fe gofiai Miss Williams un flwyddyn pan roedd black blight ar yr 欧d gan ei wneud yn anodd i'w falu ac roedd y gwragedd i gyd yn cwyno nad oedd y bara'n codi wrth ei bobi.
Ambell ddiwrnod fe fyddai pum fferm wedi dod 芒'u cynnyrch yno ac fe welid pedair trol a'u ceffylau ar y buarth yn eithaf aml.
Cedwid buwch a moch ganddi hi a'i brawd a defnyddir yr eisin i fwydo'r anifeiliaid.