Peidiwch gwympo oddi ar eich cadair wrth ddarllen y frawddeg nesaf. Un peth sy'n drawiadol am yr etholiad yma yw'r gonestrwydd. Nid gonestrwydd y gwleidyddion ond gonestrwydd y sylwebyddion, y colofnwyr ac academyddion.
Gellir darllen pob colofn, siarad â phob guru ac anorac a dod i'r casgliad mai cyfanswm ffrwyth eu gwybodaeth yw hyn; "Does dim blydi clem 'da ni beth sy'n mynd i ddigwydd".
Fe ddywedodd cyfaill i mi, un o bobol fawr dadansoddi polau Prydeinig, fod y ddadl deledu gyntaf fel yr ergyd gyntaf mewn gem o snwcer. Mae'r peli wedi eu gwasgaru i bobman a neb yn gwybod ymhle y byddan nhw'n diweddu. Un peth yn unig sy'n sicr. Ni fydd y driongl wreiddiol yn ail-ymddangos.
Dw i am drafod yn fan hyn dau senario posib, o'r naill ben a'r llall o'r ystod eang o ganlyniadau. Mae un yn cynnig achubiaeth i Lafur a'r llall yn drychineb iddi.
Daw'r wers fach gyntaf o etholiadau taleithiol yn Ne Awstralia rhyw fis yn ôl. Y disgwyl oedd y byddai Llafur yn colli grym ond ni ddigwyddodd hynny, yn bennaf oherwydd camgymeriad strategol difrifol gan y brif wrthblaid, y blaid Ryddfrydol.
Fe gymerodd y blaid honno yn ganiataol y byddai'n ennill y rheng flaen o etholaethau a chanolbwyntio'i hadnoddau yn yr ail reng y seddi, y rhai oedd yn rhaid eu hennill er mwyn cael mwyafrif. Fe enillwyd y seddi hynny ar y cyfan.
Yn y cyfamser fe wnaeth Llafur arllwys arian mewn i'r rheng flaen- y seddi anoddaf eu cadw. Fe gadwon pedair allan o'r pump gan sicrhau tymor arall mewn llywodraeth.
Fel y blaid Ryddfrydol yn Ne Awstralia mae rhan helaeth o fantais ariannol y Ceidwadwyr yn cael ei buddsoddi mewn seddi ail reng. Mae nifer o'r etholaethau hynny yn rhai lle y gallai ymchwydd ym mhleidlais Y Democratiaid Rhyddfrydol gael effaith.
Mae hynny'n llai tebygol yn y rheng flaen, seddi sydd, ar y cyfan, yn "rasys dau geffyl" go iawn a lle mae'r etholwyr yn gwybod hynny.
Fe ddywedodd un o fois ystafell gefn Llafur wrtha i fis yn ôl nad oedd y blaid yn "ildio modfedd yn un man". Mae'n bosib mai sbin neu siarad gwag oedd hynny ond os ydy Llafur wedi bod yn brwydro'n galed mewn etholaethau lle mae'r Ceidwadwyr yn cymryd buddugoliaeth yn ganiataol... wel, pwy a ŵyr?
I'r eithaf arall nesaf... I Ganada. Nid yn llythrennol wrth gwrs ond i gymryd cipolwg ar etholiad enwog 1993 pan gollodd y blaid lywodraethol 167 o'i 169 sedd. Dros nos fe drodd y Ceidwadwyr o fod yn blaid y llywodraeth i blaid ymylol hynny yn rhannol oherwydd cefnogaeth sylweddol i dan siafins o drydedd blaid o'r enw "Reform".
Nawr mae'n anodd credu y gallai Llafur wneud mor wael â hynny ond y gwir plaen yw bod Llafur wedi bod yn gyson yn y trydydd safle yn y rhan fwyaf o arolygon ers y ddadl deledu gyntaf. Does 'na ddim gwarant na allai pethau waethygu iddi os oes 'na deimlad yn cynyddu bod dyddiau'r blaid fel un o ddwy brif blaid "naturiol" yn dirwyn i ben.
Mae Llafur Cymru wedi bod yn dawnsio wrth ymyl y dibyn hwnnw'n ddiweddar. Yn etholiad cynulliad 2007, er enghraifft, dim ond llond dwrn o bleidleisiau mewn rhes o etholaethau wnaeth wneud i'r canlyniad ymddangos yn barchus i'r blaid.
Y peryg i Lafur yw y gallai hi ddiflannu fel plaid berthnasol o rannau helaeth o Gymru a Lloegr gan awgrymu bod cyfnod hir yn y diffeithwch o'i blaen. Meddyliwch am 1983 ac yna ei lluosi.
Dyna i chi ddau senario, y ddau yn eithafol ac yn annhebygol, ond yn bosib. Mae 'na nifer o rai eraill. P'un sydd fwyaf tebygol o ddigwydd? Fe ychwanegaf fy llais at y rheiny sy'n dweud;"does dim blydi clem 'da fi"!
Yn y cyfamser mae papurau Llundain yn dechrau defnyddio geiriau fel "confidence and supply" a'r "New Zealand option". Deja Vu!