|
|
Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!
Beks yn sgrifennu o Hong Kong, Tachwedd 2006
|
Rwy'n hen gyfarwydd â thymor typhoon a minnau'n awr wedi bod yn Honkers ers pedair blynedd - ond eleni rwy'n teimlo i deiffŵn daro ein tŷ ni yn benodol dros y tri mis diwethaf!!!
Yn wahanol i'r tywydd - nid oedd yn fwriad gan y teiffŵn hwn i adael a bwrw de China. Na, mae e yma i aros - ond bois mae e werth e!
Mop o wallt coch Cafodd Harri Tweli James ei eni yn Ysbyty Matilda Hong Kong, Awst 8, gyda mop o wallt coch ac yn Geltaidd iawn ei wedd!
Mae e'n greadur sy'n denu tipyn o sylw ymhlith y bobl leol - yn bennaf oherwydd ei wallt - ac yn ôl traddodiad "cochyn" mae'n gymeriad cryf er nad yw ond yn dri mis oed!!!
Mae Ela Mai a Joni Teifi yn ei addoli a'n fflat ni bellach yn lle swnllyd, bishi, y rhan fwyaf o'r amser gyda thri "bych" o dan bump oed!!!!
Yn ogystal â rhoi genedigaeth i un babi, collais un arall i'r byd mawr pan ddechreuodd Ela Mai "ysgol fawr" bythefnos wedi geni Harri.
Do, fe lefais y glaw ddwywaith - bron gymaint â'r tro y rhoddais Ela ar y bws am y tro cyntaf i fynd i ysgol Bradbury a phan gydiais yn Harri yn fy mreichiau am y tro cyntaf!
Dwi'n beio'r cwbwl ar yr hormonau ac fel Haf yr Hormonau a Teiffwnau y bydd 2006 yn cael ei gofio - rhai naturiol a rhai yn y cartref!!!!
Yn naturiol, roedd y teulu yng Nghymru yn awyddus iawn i weld y newydd ddyfodiad ac rydym wedi croesawu sawl un i'n cartref ers genedigaeth "y dyn bach sinsir" fel mae'n cael ei alw!!!!
Mynd i weld Kylie Pan ddaeth Mam-gu draw i aros am gyfnod fe benderfynom adael y plant yn ei gofal hi a bwrw draw am benwythnos yn Oz - yn enwedig gan fod un atyniad mawr yno - y dywysoges bop a gwaed Cymreig yn ei gwythiennau, Kylie Minogue!!!
Roedd hi'n fwriad gennym i weld Kylie yn perfformio yn HK yn ystod ei thaith Asiaidd y llynedd ond gohiriwyd y cyngerdd wedi iddi ddarganfod ei bod yn dioddef o gancr y fron.
Pan ddarganfyddais ei bod hi ac U2 yn chwarae yn Sydney y penwythnos cyn diwethaf bu'n rhaid mynd ta beth fyddai'r gost!
Yn anffodus, nid oedd tocynnau U2 ar ôl ond wedi siarad â ffrindiau yn Sydney roeddwn yn obeithiol o fedru cael tocynnau Kylie!
Pe byddai raid, buaswn wedi canu I should be so lucky yn borcyn ar do y Tŷ Opera er mwyn cael tocyn!!!
Diolch I'r drefn, roedd lwc o'n hochr ni ac wedi ambell i alwad ffôn fe lwyddon ni i sicrhau tocyn i Kylie ar gyfer y nos Sul. Perffaith!
Perfformiad cyntaf Roedd tipyn o gynnwrf yn arwain at y cyngerdd gan mai hwn oedd ei pherfformiad cyntaf ers gwella a hithau'n cychwyn ar y daith Showgirl - The Homecoming Tour adref yn Awstralia ac yn ei chartref, Sydney.
Golygai hynny lot fawr i'r Sydneysiders!!!!
Roedd ei llun yn y papurau i gyd a'r rheini yn frith o erthyglau amdani gyda The Australian a'r Sydney Herald a'r gweddill yn gofyn yr un cwestiwn - a fyddai Kylie yn llwyddo i "ail greu" ei hun eto?
Fel Madonna, bu'r ddifa fach o Oz yn dipyn o gameleon dros y blynyddoedd yn newid ei delwedd, ei hedrychiad a'i sŵn flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Tybed a fyddai hi'n medru gwneud yr un peth yn dilyn ei gwaeledd?
Y mwyaf trawiadol Roedd tipyn o bwysau ar y fenyw fach ac yr oedd yr awyrgylch yn y ganolfan yn China Town, Sydney, yn gwbl drydanol cyn i'r cyngerdd ddechrau.
A minnau eisoes wedi gweld Kylie yn perfformio yn y CIA yng Nghaerdydd ychydig cyn inni symud i Honkers yr oedd gen i syniad go dda beth i'w ddisgwyl ac ni chefais fy siomi yn Syders.
A dweud y gwir dyma un o'r perfformiadau pop mwyaf trawiadol imi ei weld erioed.
Roedd hon yn sioe 'camp' hynod weledol gyda gwisgoedd arallfydol yn cynnwys sequins, plu a staesiau yn hedfan ym mhobman.
Pan ymddangosodd Kylie gyntaf roedd dagrau yn llifo'i lawr ei boch wrth iddi gyfarch y gynulleidfa - y cyfan yn emosiynol iawn iddi hi ac i'r gynulleidfa.
Oedd, roedd hi'n amlwg yn gwerthfawrogi'r ffaith ei bod yn medru perfformio ar lwyfan adref unwaith eto.
Roedd hon yn sioe a hanner gyda Kylie, y band, a'r tîm cryf o ddawnswyr yn rhoi mwy na'u cant y cant i'r gynulleidfa.
Rhywbeth syfrdanol A phan yr oeddem yn teimlo na allai pethau wella fe ddigwyddodd rhywbeth syfrdanol iawn.
Ar ddiwedd rhan gyntaf y sioe gofynnodd Kylie i bawb sefyll gan ei bod am gyflwyno rhywun inni a phrin y gallwn gredu fy llygaid pan gyflwynodd gawr y byd roc a pop ... Bono!!!!!!!
Ie, dyna beth oedd diweddglo i ran gyntaf sioe - Kylie a Bono yn canu'r ddeuawd a ganodd gyda Robbie Williams, Kids.
I'r rhai hynny fel fi a fethodd â gweld U2 roedd hyn yn wyrth a'r ddau yn amlwg yn mwynhau pob eiliad o'r perfformiad a hithau wedi'i phlesio'n fawr gyda phresenoldeb ac ymdrech ei ffrind.
Y ddau ohonynt yn amlwg yn gwir fwynhau a dathlu bywyd i'r eithaf.
Diolch i'r teulu Mae Sydney yn un o fy hoff ddinasoedd ond roedd bod yno y tro hwn a gweld cyngerdd oedd mor emosiynol yn brofiad na fyddaf byth yn ei anghofio.
Pan ddiolchodd Kylie i'w theulu - roedd ei mam, ei thad, ei chwaer a'i chariad yn y gynulleidfa - a phan ddiolchodd yn arbennig i'w thad ar ddiwedd y cyngerdd roedd agosatrwydd ei theulu a'i gefnogaeth yn amlwg wedi bod yn rhan hynod o bwysig o'i gwellhad.
Oedd, roedd yn gyngerdd a hanner a theithiais adref i HK ar y dydd Llun yn hapus fy myd - yn gwybod bod fy nyth yn gyflawn a'r cywion bach yn hapus o weld mam a dad - er ei bod hi megis teiffŵn yn y nyth y rhan fwyaf o'r amser!!!!
|
|