|
|
O briodas i briodas
Beks yn crwydro o'i chartref yn Hong Kong i ddwy briodas go arbennig
|
Mae rheswm da pam fy mod bron i bythefnos yn hwyr yn sgrifennu hwn. Rydw i wedi bod ymhlith criw y jetset gydol fis Medi yn hedfan o un cyfandir i'r llall!
Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ddod i arfer ag ef yn hawdd iawn!!!
Fu hi ddim yn fater o ddeffro un bore a phenderfynu fy mod am fynd ar wyliau - na, roedd gennym ddwy briodas gyda fy ffrind gorau o'r coleg yn priodi yn Florence yn yr Eidal a Rod yn MC mewn priodas ffrind agos oedd yn priodi ar ynys brydferth Koh Samui, Thailand.
Taith bell Mae'n dipyn o daith o HK i Florence gan na allwch hedfan yn syth yno ond gorfod newid o Heathrow i Gatwick yn Llundain.
Dim rhyfedd fy mod yn teimlo imi fod yn teithio am wythnos erbyn cyrraedd yno!
Ta beth, fe anghofiais am y siwrne unwaith y dechreuais flasu'r Chianti lleol!
Roeddem yn aros mewn gwinllan hyfryd gyda phwll nofio preifat a chriw o bobol oedd wedi hedfan i'r Eidal ar gyfer y briodas.
Mae fy ffrind Sophie, y briodferch, yn gynhyrchydd rhaglen deledu foreol Loraine Kelly ar GMTV a chan fod ei gŵr, Gary, yn yr un maes yr oedd un gornel bach o Tuscanny yn llawn cyfryngis!
Druan o'r bobl leol,.. doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd wedi eu taro nhw!
Mewn Eidaleg Mewn neuadd bentref mewn lle bach or enw Castelino y bu'r briodas gyda'r gwasanaeth i gyd mewn Eidaleg ond gyda chyfieithydd yn egluro beth oedd yn digwydd. Doniol iawn ar adegau!
Roeddwn i'n darllen yn y briodas - rhywbeth dwi wastad yn ei ystyried yn fraint.
Ond mae'n beth hynod o emosiynol hefyd ac fe ddaeth deigryn i'm llygaid wrth imi fwrw mewn i'r Keats.
Ta beth, wedi i'r dagrau gilio, bant a ni i'r winllan gyda'r Mr a Mrs. Simpson newydd - a dyna beth oedd gwledd!
Bwyd gorau erioed Mae bwyd Eidalaidd wastad wedi bod yn un o fy ffefrynnau ond gallaf ddweud gyda fy llaw ar fy nghalon na chefais i erioed ddim i'w gymharu â hwn.
Mae rhywbeth arbennig iawn am fwyd Twscan a chawsom ein sbwylio gyda phrydau lleol o basta trwchus a chaws lleol, cyw iâr lleol wedi'i goginio mewn lemwn a pherlysiau gyda llysiau ffres lleol, bara garlleg oedd dal yn dwym o'r ffwrn, cacen briodas fel tŵr Pisa wedi ei gwneud yn llwyr o tiramisù.
Nefoedd! Ond rwy'n credu imi adael yr Eidal sawl pwys yn drymach. Fe fyddwn faint Pavarotti pe byddwn i'n byw yno!
Roedd gweld Sophie yn eistedd ar y brif ford yn yfed champers gyda'i theulu o'i chwmpas a gwyrdd y gwinllannoedd tu cefn iddi yn un o'r pethau mwyaf rhamantus imi weld erioed ac er imi deithio yno ar fy mhen fy hun a gweld ishe fy nheulu bach yr oedd hi'n sicr yn daith gofiadwy.
Paradwys Dim ond deuddydd wedi dychwelyd i HK roedd Koh Samui yn galw ond diolch i'r drefn gellid teithio yno yn syth.
Roedd hyn yn gwneud bywyd dipyn haws gan fod Joni Teifi James yn teithio gyda ni, yn defnyddio ei basport am y tro cyntaf!
Ym maes awyr Koh Samui dim ond ambell sied do gwelllt sydd yno gydag arywdd International arrivals!
Mae yno goed palmwydd ym mhobman ac mae'r bobol bob amser yn falch o'ch gweld ac yn gwenu'n braf.
Sdim syndod mai fel gwlad y gwenau yr adnabyddir y wlad.
Y tro hwn, ein teulu ni oedd gafodd y daith feraf i'r briodas gan fod Rachel y briodferch yn dod o Seland Newydd a'i gŵr, Rob, yn dod o Iwerddon.
Roedd y 60 o bobol a ddaeth yno wedi teithio hanner ffordd ar draws y byd a chan ein bod ni yno am ddeng niwrnod trefnwyd llwyth o bethau ar gyfer y dyddiau a'r gyda'r nosau gan gynnyws hen/bucks night, barbi ar y traeth, taith bysgota ac ati.
Ar gefn eliffant Uchafbwynt y gwyliau i Ela oedd mynd ar gefn eliffant a mynd ar daith eliffantod!
Ar y llaw arall roeddwn i wrth fy modd yn mynd am fy massage dyddiol ar y traeth gan ei fod mor rhad yno - dim ond un rhan o dair o'r hyn fyddwn i'n ei dalu yn HK.
Anffurfiol iawn oedd y briodas ei hun a'r gwasanaeth mewn gardd breifat yn y gwesty gyda gwledd anferthol uwchben y traeth gyda thân gwyllt a cherddoriaeth I gadw pawb yn hapus tan oriau mân y bore.
Gyda chyfuniad o westeion Kiwi a Gwyddelig roedd y craic yn un da iawn a phawb yn dychwelyd adref wedi gwneud ffrindiau newydd.
Yn bersonol, mae'r bywyd jetset yn grêt am gyfnod ond rwyf wrth fy modd hefyd cael clirio customs wrth ddychwelyd i HK gan wybod y gallaf ymlacio a gofalu am fy mhlanhigion ar do fy nghartref bach fy hun!!!
|
|