|
|
Pryderon salwch SARS
Beks Walters yn sgrifennu o Hong Kong lle mae salwch difrifol wedi troi byw bob dydd yn hunllef
|
Rwy'n teimlo mod i mewn ffilm afreal - yn gymeriad mewn ffilm arswyd!
Mae bywyd wedi newid dipyn dros y dyddiau diwethaf i'r rhai hynny ohonom sy'n byw yn Hong Kong gan ein bod ni fwy neu lai yn gaeth i'n cartrefi oherwydd y salwch SARS - Severe Acute Respiratory Syndrome.
Gyda dyfodiad y salwch diflannodd sbonc, egni, brwydfrydedd ac hapusrwydd y bobol ac rwyf innau yn hiraethu am yr hen Honkers.
Nosweithiau cynnar a mwgwd! Ond cyn mynd ymlaen i sôn am SARS a'i effeithiau gwell son am un o benwythnosau mwyaf y flwyddyn yng nghalendr HK penwythnos y Sevens a gynhaliwyd er gwaetha'r salwch.
Roeddem ni rhwng dau feddwl mynd neu beidio gan fod y Mini Seven's wedi'u canslo ar ôl i dri thîm dynnu'n ôl a'r rhai hynny a fentrodd yma yn gaeth i'w gwestai y gyda'r nosau.
Na, doedd dim nosweithiau mawr yn Lan Kwai Fong iddyn nhw dim ond nosweithiau cynnar gyda'u masgiau yn gwmni iddynt!
Er gwaethaf hyn, a'r ffaith fod y stiwardiaid yn rhannu mygydau i wylwyr yr achlysur, bu'n garnifal o benwythnos credwch neu beidio gyda'r South Stand sef stand y bobol wallgof hynny sy'n tywallt siwgeidiau o Heineken lawr eu llwnc! - dan ei sang fel afrer. Yn wir, yr oedd 30,000 yno ar y dydd Sul yn gwylio Lloegr yn curo Seland Newydd am yr eildro'n olynnol.
Gwell peidio â son am berfformiad Cymru ond o ystyried ein bod mewn grwp hynod o hawdd yn cynnwys Ynysyoedd Cook, yr Iseldiroedd a Samoa roedd hi'n gawl potsh arnynt fel y SARS!!!
Caeth i'n cartrefi Bellach mae pob ysgol, coleg a meithrinfa yn HK wedi cau tan ar ôl y Pasg gydag 18 o frarwolaethau ar yr ynys.
Rydym ni gystal a bod yn gaeth i'n cartrefi a'r dyddiau o dreulio oriau yn y parc, yn y sw, Ocean Park, canolfannau siopa, bariau a thai bwyta drosodd.
Awyr iach y môr Diolch i'r drefn fod awyr iach glan môr Stanley ar ein rhiniog ni gan mai'r cwbwl allwn ni ei wneud ar hyn o bryd ydi cerdded o'r ty i'r traeth neu chwarae ar y to.
Rydym wedi rhoi'r gorau i deithio mewn bws neu dacsi a phrin ein bod yn mynd i le'n byd lle ma llawer o bobol.
Dwi heb fod yng nghanol y dre ers dros wythnos ac ni fyddwn yn breuddwydio ar hyn o bryd fynd ag Els i Park N Shop ein harchfarchnad.
Ydw rwyf i'n dal i fynd wrth gwrs ond wastod yn edrych fel rial lemwn yn fy mwgwd!
Yn anffodus aeth nifer fawr o blant bach ex-pat yn ôl i'r Unol Daleithiau, Awstralia a Phrydain yn gynnar am y Pasg.
Rwyf innau'n ystyried hedfan yn ôl y penwythnos yma ond yn pryderu ar yr un pryd bod ar awyren am 13 awr.
Mae'n gryn benbleth.
Pêl-droed yn gysur Cysur bychan, fodd bynnag, y dyddiau poenus hyn yw fod tîm pêl-droed Cymru yn dal i ennill.
Perfformiad y bois ydy'r unig beth sydd wedi rhoi gwên ar fy wyneb yr wythnos bryderus hon.
Daliwch ati bois!
|
|