|
|
Nadolig a Rolling Stones
Beks yn sgrifennu o Hong Kong
Mae'r Nadolig wedi cyrraedd Hong Kong yn barod! Mae'n teimlo felly, ta beth, gan imi fod yn gweithio ar "photo shoot" Nadoligaidd i gylchgrawn Playtimes!
|
Dwi di gwneud dipyn o bethau gwahanol yn ystod fy ngyrfa ond erioed wedi cael y cyfle i gynllunio a threfnu shoot, felly pan gefais i'r cyfle i drefnu darn ffasiwn am ddillad tylwyth teg i blant bach fe neidiais at y cyfle hwn i wireddu breuddwydion o fynd yn hollol bananas a thros ben llestri gyda phethau benywaidd fel feather boas, milltiroedd o silc pinc, swigod, wands, ond, yn bwysicach, dillad tylwyth teg!
Yn naturiol roedd Ela Mai yn mynd i wneud ymddangosiad yn y cylchgrawn fel y brif dylwythen deg!!!!
Nadolig heb eira Mae braidd yn ffals ceisio creu Nadolig oer ar gyfer plant a rhieni HK gan ei bod hi, wedi'r cyfan, tua deg gradd ar hugain oddi allan a dim gobaith caneri gennym ni i weld eira pan ddaw Sion Corn.
Felly, penderfynais beidio ag ail-greu eira ac ati ar gyfer y set ond, yn hytrach, fynd am liwiau a theimlad Nadoligaidd drwy brynu llwyth o ddefnydd melfedaidd, coch, a thrawsnewid swyddfa fishi yn Central i edrych fel Gwlad y Tylwyth Teg!
Roedd her enfawr o fy mlaen - cadw wyth merch fach rhwng deunaw mis a phump oed yn hapus am bedair awr.
Nid y peth hawsaf yn y byd pan fo rhai yng nghanol potty training ac eraill wedi blino'n swps yn dilyn ysgol feithrin drwy'r bore a phawb yn brwydro am gael gwisgo'r wisg bertaf!!!
Diolch i'r drefn, daeth Julie, y fenyw oedd yn gyfrifol am y dillad a dewis o tua 30 gwisg dylwyth teg gwahanol mewn câs enfawr ynghyd a choronau diri, hudlathau, adenydd a phopeth arall y gellid meddwl amdano sy'n gysylltiedig â thylwyth teg!!
Yn fendith ar adegau Mae'n anghredadwy faint y gall mam ei ddysgu yn ystod ei blynyddoedd cynnar - ac un o'r pethau rwyf i wedi'i ddysgu yw, fod cymeriadau o'r enw The Wiggles yn medru bod yn fendith ar adegau.
Pedwar dyn sy'n canu a dawnsio'n fflat owt ydy'r Wiggles ag am rhyw reswm nad ydw i'n ei ddeall mae plant HK wedi dwli arnyn nhw!
Ta beth, mi wnes sicrhau fod VCD y swyddfa roeddwn i wedi'i throi yn stiwdio wedi'i lwytho drwy'r adeg gyda'r Wiggles ac fe gadwodd hyn bawb yn hapus iawn diolch yn fawr yn ystod y cyfnod o ddisgwyl eich tro!
Rwy'n hapus dros ben gyda'r canlyniadau gan ei bod yn amlwg o wynebau'r merched iddynt joio pob eiliad o fod yn dylwyth teg.
Bu'r peiriant swigod yn llwyddiant mawr hefyd a neb ishe newid nôl i'w dillad arferol ar ddiwedd eu sesiwn fodelu!
Ers y diwrnod hwnnw dydi Ela Mai ddim wedi bod ishe gwisgo dim ond dillad tylwyth teg bob bore!!!!
Disgwyl y Rolling Stones Sôn am Nadolig yn dod yn gynnar - rydym ni wedi bod yn ffodus iawn yn HK o gael gwyl enfawr sydd wedi denu rhai o sêr mwyaf y byd yma dros yr wythnosau diwethaf fel rhan o Harbour Fest sef gwyl sy'n dathlu'r ffaith i HK "ddod drwyddi" fel petai.
Mae SARS bellach wedi myned ac yr ydym ni'n awr yn barod i groesawu twristiaid i'n plith gyda chyfle i fandiau fel The Rolling Stones ymweld â HK ar ôl gorfod gohirio sawl tro eleni.
Rydw i wastad wedi bod yn ffan enfawr o Prince a'r tro diwethaf y gwelais i'r corrach bach talentog yn perfformio oedd yn Earl's Court, Llundain ddeng mlynedd yn ôl a minnau'n dal yn y brifysgol.
Pan ddarganfyddais mai ef oedd yn agor yr wyl roeddew yn fy seithfed nen ac ni chefais fy siomi gan fod ei bresenoldeb ar y llwyfan yn gwbl drydanol fel yr oeddwn yn disgwyl gyda HK yn cael gwledd o berfformiad o glasuron fel Purple Rain ac When Doves Cryyn atseinio dros borthladd Victoria ac hefyd, Craig David, Westlife, Tatau, Jose Carreas, Santana a Michelle Branch.
O ie - a'r Wiggles, wrth gwrs!!!!
Mae'r rhestr o berfformwyr yn un felly rhaid dewis yn ofalus.
Yn bersonol, gan nad wyf wedi gweld y Stones yn perfformio bydd gweld yr hen Rubber Lips yn mynd amdani siwr o fod yn un o uchafbwyntiau'r wledd ac yn ffordd berffaith i gloi tair wythnos o berfformiadau.
I ddweud y gwir, dwi di prynu tocyn yn anrheg pen-blwydd i RJ ac ar gyfer dydd ei ben-blwydd, trefnais barti syrpreis iddo ar fy hoff draeth, St. Stephens sydd ond tafliad carreg o'n cartref.
Mae'r eskie wedi'i lwytho gyda iâ â Sangria; mae'r haul yn tywynnu, yr anrhegion yn barod i'w hagor, ffrindiau yn barod i weiddi "syrpreis
Dim ond un peth sydd ishe nawr i RJ ddeffro!!!!
|
|