|
|
Lanteri a theisennau atgas
Beks Walters yn sgrifennu o Hong Kong am Wyl y Lloer - gwyl y teisennau atgas!
|
Rwy'n dal i fod yn bwyta, bob dydd, ddigon i deulu o saith!!
A'r rheswm da am hyn yw fy mod yn dal i ffilmio'r sioe Cooking up a Dragon.
A diolch i'r drefn, rydym ni'n paratoi i fynd bant i Thailand i orwedd yn yr haul ym mharadwys yr unig siom yw na fyddaf yn gallu mynd yn agos i'r bicinis rwy'n arfer wisgo ar draethau Hong Kong.
Ydw, rwyf bob amser yn dwli ar fy ngwaith ond mae hyn bron a bod yn jôc. Mmmm.
Rhwng nawr a Thailand rwy'n ffilmio yn Nhy bwyta Ffrengig Petrus yng ngwesty pum seren Island Shangri-la ac allan ar long hwylio yn mynd i ynys Potoi i fwyta pysgod mewn ty bwyta Chineaidd traddodiadol ar y traeth.
Ac i goroni'r cwbwl mae cogydd enwog yn HK yn dod draw i'n ty ni i baratoi pwdinau Chineaidd traddodiadol!!!
Ie, dyfalwch pwy fydd yn rolio ar yr awyren 'na i Thailand?
Bwyd yn bwysig Rhaid cyfaddef fod bwyd a'r ochor gymdeithasol sydd yn ymwneud â bwyd yn ganolog i fywyd Hong Kong - nid yn unig i'r ex pats fel ni ond i'r bobol leol hefyd.
Bu'r mis diwethaf yma yn enghraifft berffaith o hynny a ninnau'n dathlu Gwyl Leuad Canol Hydref - y Mid Autumn Moon Festival - rhwng canol Awst a chanol Medi.
Mae'n arferiad fan hyn i fwyta cacennau lloer arbennig i ddathlu'r - moon cakes
Cacen i gymdogion Mae'n arferiad rhoi cacennau lloer i gymdogion, ffrindiau a chydweithwyr ac mae'n amhosib dianc rhag hysbysebion teledu amdanyn nhw.
Yr unig ddrwg yw eu bod yn bethau cwbl ffiaidd ac mae'n gas gen i'r pethau bach crwn, drewllyd!
Ac er bod gan Ela ddant at bob math o bethau melys mae hithau hyd yn oed yn troi ei thrwyn ar rhain!
Ond mae'r ffaith i $420m gael ei wario arnyn nhw yn Hong Kong eleni yn dangos pa mor boblogaidd ydyn nhw.
Neb yn hoffi'r pethau atgas Serch hynny, dydw i ddim yn adnabod neb sy'n hoffi blas y danteithion bach diflas y mae eu canol wedi ei wneud o felynwy wedi gymysgu a phâst lotws a llwyth o siwgr ynddo.
Y peth diddorol yw i gwmnïau mawrion fel Hagen Daz sylweddoli fod modd gwella arnyn nhw a mynd ati i greu math arbenig o mooncake hufen iâ.
Rhinwedd y rhain yw y gellir eu bwyta nhw heb orfod rhedeg i chwydu yn y ty bach!
Dathlu ar y traeth Uchafbwynt yr Wyl oedd dathliadau mawr ar y traeth.
Mae'n arferiad i addurno cartrefi ac adeiladau gyda lanteri chineaidd o bob math.
Er mai rhai papur yw'r rhai mwyaf cyffredin gellir cael rhai trydan, halogen ac eleni adeiladwyd lantern fwyaf y byd yn Victoria Park gan greu golygfa arallfydol.
Rydyn ni'n ffodus iawn ein bod yn byw ar lan y môr yn Stanley gan fod dathliadau diri ar y traeth bron bob mis a rhaid cyfaddef fod yr olygfa ar y traeth y nos Wener o'r blaen yn un o'r rhai prydferthaf a welais i ers symud i Asia.
Wrth iddi nosi, rhedai'r plant i bobman gyda'u lanteri yng ngolau'r lleuad.
Roedd Ela Mai wrth ei bodd gyda'i lantern bapur hi ac yn syllu'n geg agored ar rai crand plant eraill.
Ond er y byddaf yn colli prydferthwch y lanteri ni fyddaf yn gweld ishe y cacennau bach cas sy'n rhan mor bwysig o fywyd HK y cyfnod hwn.
|
|