|
|
Yn y bore mae dal hi . . .
. . . yn ysgolion Hong Kong meddai Beks Walters sy'n byw ac yn gweithio yno. Yma mae'n sôn am swydd newydd a boreau rhieni.
|
Roeddwn i'r un fath pan yn blentyn. Yn casau y teimlad yna o ddechrau nôl yn yr ysgol wedi gwyliau hir yr haf - cymaint o bethau newydd ar y gorwel.
Pobol newydd, gwersi newydd, gwisg ysgol newydd.
Ac mae'r un peth yn wir gyda swydd newydd. Y nerfau yn clymu yng ngwaelod y bol o boeni am yr hyn sydd o'm blaen.
Mae'n syndod meddwl mod i'n teimlo fel hyn yn enwedig gan ei fod yn gysylltiedig a fy swydd yn gyflwynydd.
Ond, rhaid cyfaddef; ar fy ffordd I stiwdio Radio 3/ RTHK (Radio Televsion Hong Kong) am saith y bore roeddwn yn ysu am ofyn i'r gyrrwr bws adael imi neidio i ffwrdd ac estyn am fag plastig i daflu lan ynddo!
Sioe bedair awr Bum yn gwneud tipyn o waith cyflwyno yn Honkers yr wythnos hon gan gychwyn gyda sioe bedair awr rhwng naw ac un fore Sadwrn diwethaf.
Rhyngddo chi a fi, mae bod ar yr awyr cyn hired â hyn heb gynhyrchydd yn her i unrhyw gyflwynydd - yn enwedig gan nad yw'r ddesg yn gyfarwydd imi.
Ta waeth, dim ond un peth oedd amdani a chanolbwyntio, siarad, (nid yw hyn yn broblem fel rheol!) a mwynhau'r gerddoriaeth oedd hynny.
A minnau wedi arfer cyflwyno yn y Gymraeg bu'n gryn demtasiwn i lithro'n ôl i'r famiaith ar adegau!
Ond wnes i ddim atgoffa'r gwrandawyr mai gwrando arnaf yn darlledu o Gaerdydd oedden nhw yn hytrach nac o Hong Kong!
Erbyn hyn, bum ar yr awyr am 16 awr yr wythnos hon ac mae'n syndod pa mor glou y mae dyn yn cyfarwyddo a minnau, bellach, yn 'ddisgybl' arferol yn yr 'ysgol' newydd hon!!!
Boreau rhieni Sôn am ysgolion; yn ogystal â phigo lan dipyn o waith radio freelance mae fy nyletswyddau fel mam arferol wedi bod yn galw arnaf hefyd.
Am y tro cyntaf erioed, mynychais fy noson rieni gyntaf.
Y gwahaniaeth mawr rhwng Cymru a HK yw bod y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal beth cyntaf yn y bore yma yn hytrach na'r gyda'r nos.
Hynny oherwydd bod pobol yn dechrau gwaith peth cyntaf yn aml tua 7.30 ag yn gorffen yn hwyr y nos.
Mae Honkers y math o le ble mae pawb yn gweithio'n galed a phartio yr un mor galed.
Felly, ar fore poeth o wanwyn roeddwn yn cerdded ar hyd y traeth ar gyfer bod yn Ysgol Montesori Stanley am saith!!!!
Mae pob mam yn gwybod pa mor anodd yw hi i adael plentyn yn yr ysgol ac er mai ond teirawr y dydd o ysgol mae Els yn ei gael rwy'n dal i'w cholli ac, wrth gwrs, bu'r dagrau yn treiglo ambell i ddiwrnod ar ruddiau Mami yn ogystal ag Ela!
Yn un teulu Mae ysgol Els yn un fach hyfryd ar lan y môr a phawb yn un teulu bach.
Mae'r athrawon o dras Srilankaidd a Chineaidd ac yn gariadus tu hwnt ac yn hynod o falch o ddeall fod eu myfyrwraig newydd yn mwyhau'r ysgol yn fawr ac wedi wir ymdaflu ei hun i'r gweithgareddau dyddiol!
Roeddwn innau yn arbennig o browd o gael gwybod ei bod yn annibynnol a bod y dagrau crocodeil wrth gât yr ysgol yn diflannu'n gloi wedi i Mam fynd!
Am y tro cyntaf ers symud i Honkers mae'n deimlad braf cael gwybod fod pawb wedi setlo mor glyd yma - Mama ac Els!
|
|