|
|
Diflastod teisennau'r lloer
Beks wedi cael llond bol ar deisennau gŵyl yr hydref yn Hong Kong - ond yn taro ar fargen go arbennig ar y tir mawr
|
Mae rhai pethau y gallwch eu bwyta er nad ydych yn rhy hoff o'u blas! Er enghraifft, dydw i ddim yn ffan mawr o gig coch ond yn aml pan fo rhywun wedi mynd allan o'i ffordd i goginio stêc mewn barbiciw fan hyn rwy'n gallu ei fwyta, gan amlaf.
Ond ni allaf ddweud yr un peth am mooncakes!!!!
Mae'n arferiad bwyta'r rhain yn HK a China yr adeg hon o'r flwyddyn gan ein bod yn dathlu'r ŵyl ganol hydref!
Mae'r hysbysebion mooncakes i'w gweld gyntaf ddiwedd Awst gan gyrraedd rhyw benllanw ddiwedd Medi a fy atgoffa o hysbysebion Dolig yng Nghymru a'r gystadleuaeth frwd rhwng y gwahanol gynhyrchwyr.
Blas wyau Mae hyd yn oed Starbucks wedi creu mooncake blas coffi.
Y drwg yw, fod pob mooncake yn blasu o wyau sydd wedi gweld dyddiau gwell yn fy nhyb i.
Melynwy a phast lotws coch yw'r prif cynhwysion - oes angen dweud rhagor?
Er gwaetha'r mooncakes mae'r ŵyl hydrefol yn un o fy hoff wyliau gan ei bod yn adeg pan fo'r rhai bach yn gwneud lanteri a chystadlu mewn gwahanol orymdeithiau lanteri.
Rydyn yn mynd I'r traeth ar noson lleuad llawn gyda photel neu ddwy o win, bwyd deche a lanteri ac mae'n arferiad i bobl ifainc lleol aros ar y traeth drwy'r nos tan doriad gwawr.
Eleni, fe wnaeth Ela wir fwynhau'r dathliadau a fy helpu i addurno'r tŷ a'r to gyda lanteri bach papur. "Mae fel Dolig!" Dwi'n siŵr ei bod hi'n disgwyl i Sion Corn gyrraedd unrhyw ddiwrnod!!!
Prysur ar y radio Yn ogystal â dathliadau'r ŵyl dwi hefyd wedi bod yn fishi gyda fy sioe radio.
Mae'n braf dechrau cael gwrandawyr cyson yn ffonio neu'n e-bostio i leisio barn am hyn neu'r llall ... gan gynnwys mooncakes!
Rwy'n teimlo'n eithaf cartrefol ar yr awyr yn Honkers er mae'n aml yn fy nharo fy mod i'n swnio'n od iawn ar adegau yn dweud "live across Hong Kong ... this is Beks on radio. 3!" Teimlad sydd braidd yn afreal!!
Mentro i brynu Ta beth - mentrais ymhellach na Honkers yr wythnos hon!
Bum yn ysu am fynd i'r "tir mawr" ers tro a chan fod mam nawr yn y dre roedd hwn yn ymddangos fel yr amser delfrydol i fynd yno gan na fu mam erioed yn China.
Roeddwn innau'n awyddus iawn iddi brofi pa mor wahanol yw Honkers a China.
Un rheswm dros ymweld â China oedd i brynu ambell i ddodrefnyn traddodiadol o China.
Rydw i wedi gwirioni â chelfi antique Chineaidd ac roedd gwir angen darn mawr fel dresel Gymreig arnaf i ddal y llwyth o anrhegion priodas sy'n dal i gyrraedd dros y môr.
Zhuhai yn Guandong, de China amdani felly!
Paradwys siopa Dim ond taith awr a chwarter yw hi ar long hofran o Honkers i Zuhai, lle sy'n baradwys i siopwraig ddodrefn broffesiynol fel finnau a lle sy'n denu llwyth o bobol o Honkers gan fod popeth, gan gynnwys dodrefn, mor ddrud yma.
Roedd BB, fy ffrind o HK, wedi bod yn chwilio am ford fwyta ers wythnosau ond heb weld yr hyn yr oedd yn gwir ateb y diben.
Rwyf wedi gwneud eithaf ffrindiau gyda merch sy'n byw yn Zuhai a diolch i'r drefn roedd hi a'i chariad yn ddigon hapus i ddod yn gwmni gyda mi i'r gwahanol farchnadoedd gan gyfieithu ar fy rhan. Byddai'r holl beth yn dipyn o her hebddi!
Mae Gimme yn gwybod hefyd lle mae'r caffis da pai dong's gorau ar gyfer sum da amser cinio pan fo'r traed yn dechrau blino.
Roedd hyn yn dipyn o brofiad i mam: golchi eich llestri a'ch chopsticks mewn te gwyrdd cyn dechrau bwyta!
Wedi llond bol o reis wedi ffrio, corgimychiaid, bean curd, bak choi a te gwyrdd mae'r traed a'r bol yn barod i siopa unwaith eto.
Yr union beth Wedi crwydro ambell warws canfyddais yr union beth oeddwn ishe; hen gist 200 oed o ardal Shanxi.
Yr oedd hi yng nghefn siop hen bethau ac mae angen ychydig o waith trwsio arni ond dwi'n siŵr, ar ôl i Gimme a'i chariad roi laquer arni a gwneud y silffoedd yn sâff y bydd yn ddelfrydol er mwyn dal fy holl "lestri gorau."
Nid chostiodd ond $300 i'w hanfon ar y môr i HK (£20) a thua 48 igludo'r peth o un drws I'r llall.
Roedd yn ormod o demtasiwn ac yn ogystal â'r gist prynais anrheg ben-blwydd i Rod ond allai ddim sôn am hynny ar hyn o bryd!
Cefais stôl fach i Ela Mai, bocs teganau I faban bach sy'n dathlu ei ben-blwydd cyntaf ddydd Sul ac anrheg ddyweddïo i fy ffrindiau.
Bu BB yn llwyddiannus gyda'r bwrdd wedi gwaith cynllunio gofalus ac rwyf nawr yn dechrau cyfri'r doleri ar gyfer y trip nesa i dde China.
|
|