Wel dyna ni. Fy Nadolig cyntaf yn Honkers. Rhyngddo chi a fi, dwi'n teimlo ychydig o wacter yn fy mywyd ar ddechrau'r flwyddyn. Mae'n ty ni wedi bod fel ffair ers tua mis gyda Mam ac hefyd, fam a chwaer RJ, wedi bod ar ymweliad o Gymru.
Ond nawr, mae pawb wedi'n gadael am adref a minnau'n gweld eu heisiau.
Dwi'n gwybod fy mod yn farus ac yn annheg gan mai'r Dolig yma oedd yr un gorau erioed ond dwi di dod i'r casgliad nad yw ond yn naturiol i golli pobol ar ôl treulio amser gwerthfawr yn eu cwmni.
Yn enwedig pan ydych yn byw hanner ffordd ar draws y byd.
Ta beth - mae'r atgofion sydd gennyf o'r mis diwethaf yn wefreiddiol.
Na, doedd dim golwg o eira a bwyta twrci yng nghlydwch ein cartrefi - yn hytrach, pnawn o yfed, bwyta, chwerthin a joio ar ein to fu hi a hithau'n 27 gradd celsiws!
Modrwy mewn gwydr Ond yn y tywydd braf hyd yn oed, fe ddaeth Sion Corn a diolch i waith trefnus Mami roedd Ela Mai wedi sgwennu llythyr ato yn rhoi gwybod iddo y byddai mwy o siawns 'da'r un barfog ddod o hyd iddi yn Canton Asia eleni nag yn Canton, Caerdydd!!
Roedd Mami wedi ecseitio'n llwyr noswyl Nadolig a dyna lle'r oedden ni ar ôl dod nôl o barti yn gosod cegin fach i fyny - cadair eliffant ymhlith llwyth o bethau eraill ar gyfer yr un fach.
Roedd hi'n hanner awr wedi dau y bore arnom yn gosod y teganau newydd yn stafell Ela Mai felly gallwch ddychmygu sut siâp oedd arnom yn stwffio dau dwrci am 6.30 fore'r Nadolig ar gyfer y 12 oedd yn dod draw i ginio!!!
Mae Ela, fel arfer, fel eboles fach newydd ei geni yn y boreau yn sigledig ar ei thraed, yn edrych arnom drwy lygaid sydd braidd yn medru agor.
Felly, doedd hi ddim synod inni ei gweld yn cerdded yn syth heibio'r holl deganau a adawodd Sion Corn!!!
Erbyn tua naw roeddem yn bwyta brecwast ar y to gydag Ela ac Audrey, ei ffrind gorau, yn rhedeg o gwmpas y lle fel tylwyth teg Nadoligaidd!
Roedd gan Ela bentwr enfawr o bresantau ac erbyn iddi agor eu hanner roedd yr holl both yn ormod iddi felly fe gymeron seibiant i gael llymaid o Siampyrs!!
A dyna beth oedd llymaid!!!! A dweud y gwir, gallai'r llymaid hwnnw fod wedi fy lladd ar fore Dolig - hynny yw, pe byddwn wedi tagu ar y fodrwy dyweddïo yng ngwaelod fy ngwydr!!!!!!
Roeddwn eisoes wedi dewis y diemwnt ond wedi cael gwybod na fyddai'r fodrwy eu hun yn barod tan o leiaf ddechrau Ionawr.
Wel, heb amheuaeth, mae'r hen ystrydeb yn wir diemwntau ydi ffrindiau gorau pob merch ac ni allwn stopio syllu i lygaid y garreg ar fy mys drwy'r dydd.
Druan o RJ, roeddwn mewn cymaint o sioc ac wedi yfed y siampên mor gyflym er mwyn rhoi'r fodrwy ar fy mys doeddwn i'n da i ddim i'w helpu gyda'r ddau dwrci yn y ffwrn.
Un peth sy'n dda mewn cael 12 o bobol ar gyfer pryd yw bod digon o bobol o gwmpas i helpu ac fe gymerodd RJ a'i ffrind Bercoed ofal o'r cig ar y barbie tra roedd y menywod yn potsian yn y gegin.
Er bod cymysgedd o bum gwlad wrth y bwrdd bwyd - ffrindiau o Seland Newydd, y Philipîn, Cymru, Korea ac Awstralia - yr un oedd chwant pawb am fwyd a mwynhau craic Nadoligaidd Honkers!!!
Hefyd, cawsom ein sbwylio gyda cheroddoriaeth Bryn Terfel a Catrin Finch yn y cefnidr.
Llai gwyllt Bu'r cyfnod wedi'r Nadolig ddim mor wyllt - wel i RJ, fi ac Ela ta beth. Roedd y mamau, ar y llaw arall, yn eu seithfed nen yn bwrw sêls un o ganolfannau siopa mwyaf cyffrous y byd!!!!
Roedd gwaith hefyd yn galw arnaf i gyda chyfle i gyflwyno sioe radio i RTHK - (Radio Televsion Hong Kong).
Dwi di cyflwyno ar nos Galan ar Radio Cymru ers dipyn felly roedd y syniad o gyflwyno unwaith eto eleni yn apelio!!!
Y gwahaniaeth oedd fy mod yn cyflwyno ar fy mhen fy hun am bedair awr - rhwng deg y nos a dau y bore - tipyn o her!!!
Roedd y demtasiwn o ddweud, "Rydych yn gwrando ar Radio Cymru," yn fawr iawn ond diolch i'r drefn wnes i mo'r camgymeriad yna!!
Roedd hi'n braf cael cwmni Sioned, fy narpar chwaer yng nghyfraith, yn y stiwdio a chloncan yn Gymraeg rhwng lincs a dyna lle'r oeddem ni am hanner nos yn nyfnderoedd stiwdio yn Kowloon.
Pwy fase'n meddwl?
Wrth deithio tuag adref mewn tacsi tuag at ynys HK yn oriau mân y bore ni allwn beidio a dyfalu, tybed beth ddaw o 2004.
Wel - priodas yn un peth amlwg!!
Roedd 2003 yn dipyn o flwyddyn - symud i Asia, dyweddio, dechrau bywyd newydd rwy'n crefu am ychydig o normalrwydd nawr!!!
Er, dydy normal ddim fel arfer yn air sy'n gysylltiedig â fy mywyd i. Cawn weld - gallaf wastad fyw mewn gobaith!
Blwyddyn newydd dda, bawb.
|