|
|
Wncwl John yn plesio!
Beks Walters yn sgrifennu o Hong Kong Sôn am heip a pharanoia bois, dwi di amseru fy symudiad i HK yn wyrthiol gan mai dyma'r tywydd gwaethaf maen nhw wedi'i gael ers sbel fawr. Rydym ni'n tri yn dal i disgwyl i'r haf gicio mewn o ddifri!
|
Ond mae pobol yn marw o straen arbennig o niwmonia - wir i chi a dydw i ddim yn siwr os yw'r newyddion wedi cyrraedd Prydain eto ond mae tua deg o bobol wedi marw yma a thua 80 yn ddifrifol wael yn yr ysbyty.
Mae cerdded o gwmpas ardal Central dref yn brofiad rhyfedd iawn gyda llwythi o dwristiaid yn gwisgo yr hyn na ellir ond ei ddisgrifio fel masg ysbyty dros eu hwynebau.
Oce, rwy'n gwybod nad yw'n rhywbeth i chwerthin amdano ond rhaid cyfaddef i wên fach ddrwg ddod i fy wyneb pan welais bobl yn gwisgo'r acsesori diweddara hwn tra'n plymio i'r dwr bobl mewn gwisgoedd nofio yn Ocean Park!!! Chesesey - Crazy mewn Cantonaeg.
Camp myfyrwraig fach! Er bod pethau'n ddrwg yma rwy'n dal i fynd ag Ela i'r ysgol gan ymddiried yn llwyr yn staff yr ysgol a rhieni'r plant sy'n mynychu Tutor Time.
Mae'r myfyrwraig fach ein ty ni yn mynd o nerth i nerth ac yn ddigon hapus i ddweud "Ta ta Mam" pan wyf yn ei gollwng yno dri bore yr wythnos.
Yn dilyn ei champ yr wythnos hon rwy'n gallu uniaethu â'r mamau hynny sy'n brolio llwyddiant TGAU a Lefelau A eu plant!
Pan es i'w chasglu o'r ysgol roeddwn i bron iawn yn neidio lan a lawr pan glywais y newyddion cyffrous gan ei hathrawes Mandarin - sef bod Ela'n medru cyfri o un i bump mewn Mandarin.
Felly, ar hyn o bryd, Ela Mai sy'n dysgu Mami sut mae dweud bore da ac ati!!
Parti heb esgus! Gyda HK yn City Of Life does dim angen esgus ar neb i gael parti!!!
A'r un parti sy'n drech na phob un aral ydi'r Hong Kong Sevens - un o ornestau rygbi mwyaf cyffrous y byd.
Chefais i mo'r fraint na'r anrhydedd o fynychu'r tridiau o barti hyd yn hyn a rhaid cyfaddef dwi ddim yn siwr a ydw i'n barod barod am y fath barti.
Y sôn yw fod y South Stand yn beryg bywyd lle mae'r gwylwyr wedi eu gwisgo fel popeth o ddoctoriaid i i hen Frythoniaid.
Dwi ddim cweit yn siwr beth yw'r craic ymysg ein grwp ni a dydw i ddim ishe gwybod ychwaith!!!!
Yn anffodus, mae'r holl beth yn y fantol braidd ar hyn o bryd gyda thimau fel Ffrianc a'r Eidal wedi tynnu mas oherwydd y niwmonia.
Felly, rydym ni i gyd yn croesi'n bysedd.
Mae'r Rolling Stones hefyd yn bwrw'r dre y penwythnos nesaf gyda tocynau yn mynd am brisiau arallfydol felly, efallai y bydd yn rhaid chwilio am docynnau i weld yr hen rubber lips ei hun os na fydd yna rygbi.
Prowd o Wncwl John Dwi mor hapus fy myd yn byw yn Honkers ond ar adegau dwi'n ysu am fod nôol yng Nghymru ac rwy'n gwybod y bydda y penwythnos nesa yn un ohonynt a phe byddai gen i'r dewis o fynd i weld y Sevens, y Stones neu dîm pêl-droed Cymru yn chware ei gêm fawr yn Stadiwm y Mileniwm y byddwn i gan fy mod mor browd o sut mae "Wncwl John" yn chwarae ar hyn o bryd.
Bu gweld llun John Hartson ar ddalen gefn y South China Morning Post yn beth cyffredin iawn dros yr wythnosau diwethaf a chan fod Ela wedi gweld ei hwncwl yn ei grys Celtic gymaint o weithiau yn ddiweddar mae'n mynnu gwisgo ei dillad Celtic hi bob dydd.
Wi'n siwr bod trigolion Stanley mewn penbleth lwyr ynglŷn â'r ferch fach o Gymru sy'n siarad Cymraeg, Mandarin a Saesneg ond â chrys Albanaidd ar ei chefn yn y parc.
|
|