|
|
Ymweld â Chymru
Beks yn sgrifennu o Hong Kong am ymweliad cofiadwy â Chymru
|
Ionawr 2007
Sôn am wyliau!!!
Cymerodd tan nawr - ddiwedd Ionawr - imi ddod dros ein taith i Gymru am y Nadolig a'r flwyddyn newydd!!!
Dyna beth oedd taith a hanner - hedfan hanner ffordd ar draws y byd gyda thri phlentyn a llwyth o anrhegion - heb sôn am y cesys llawn o ddillad trwm y gaeaf!!
Gan na chafodd Joni a Harri erioed dywydd oer roeddynt wedi'u lapio fel dynion eira o'r eiliad gyntaf yn Heathrow.
Ydy, mae -4 yn eich taro'n galed pan ydych yn gyfarwydd â thymheredd o tua 20 gradd Celsius yn Rhagfyr.
Yn ogystal â hynny roedd 'niwl rhew' ofnadwy yn Heathrow a nifer o bobol yn cael eu troi i ffwrdd y bore gwnaethom ni lanio.
Roedd y lle fel ffair am bump y bore y penwythnos cyn y Nadolig!!!
Y gorau Er y gwaith llwytho a phlant yn dioddef o flinder jetio bu'n wyliau a hanner ac yn un o'r profiadau gorau o fod adref ers imi symud i Asia.
Roeddem yn aros mewn gwesty yng Nghaerdydd dros y Nadolig ac wedi cynhyrfu'n lân gan ysu am weld y Bae, siopa yn Queen Street, clywed acenion y ddinas lle treuliais fy mhlentyndod cynnar, cael clonc gyda ffrind dros goffi neu win twym!!!"
Pethau a gymerir yn ganiataol pan yn bwy yma ond yn bethau yr ydych yn hiraethu amdanynt pan yn byw mewn gwlad arall.
Ni fûm yng Nghymru gydag Ela ers bron i ddwy flynedd ac roedd hi'n grêt medru dangos iddi ei chartref yn ystod 16 mis cyntaf ei hoes!!!
Rhamantus Roedd rhywbeth rhamantus iawn am y tywydd oer a'r niwl a phrin oeddem ni'n medru gweld y gwesty pan gyrhaeddom a bu'n rhaid aros tridiau cyn gweld Canolfan y Mileniwm am y tro cyntaf! Ond roedd hi'n werth aros ... sôn am adeilad!!!
Ni chafodd y plant eu siomi ar fore'r Dolig ac ar ben y cyfan roedd y pleser o fod ymhlith ffrindiau a theulu yn cloncan tan oriau mân y bore yn hytrach na dim ond clywed llais ar y ffôn neu dderbyn e-bost!!!
Yr hyn sydd wastad yn fy nharo wrth ddala lan â hen ffrindiau yw'r ffaith nad yw'r berthynas byth yn newid.
Tua'r Gorllewin Wedi wythnos fishi yn y Brifddinas dyma deithio i Orllewin Cymru a threulio wythnos mewn bwthyn yn Nhrefdraeth, Sir Benfro.
Er bod y tywydd yn ddiflas tu hwnt - glaw, gwynt a mwy o law - cawsom amser bendigedig yn ymweld â llefydd roeddem eisiau eu gweld ers blynyddoedd gan gynnwys oriel John Knapp Fisher.
Rwy'n ffan mawr o'i waith ers blynyddoedd a roedd hi'n bleser cael cwrdd ag e a'i wraig dros y flwyddyn newydd.
Gyda chymaint o ddarnau celf trawiadol ar werth yn yr oriel roedd chwant arnaf i brynu llun i bob stafell yn y fflat ond diolch i'r drefn fe galliais a bodloni ar un!!!
Yn ogystal ag oriel John Knapp, cawsom brynhawn bendigedig ym Melin Tegwynt lle gallwn i fod wedi gwario ffortiwn eto a'r ffaith fod babi ychwanegol da ni nawr yn esgus i brynu "blanced" newydd arall!!!
Dawnsio Roedd Nos Galan ei hun yn anhygoel ... noson o yfed, bwyta a dawnsio gwerin yn y gwesty ger y bwthyn lle roeddem yn aros!
Y tro diwethaf imi ddawnsio gwerin oedd mewn gwesty ym Metws-y-coed adeg ras Yr Wyddfa chwe blynedd yn ôl ac roeddwn wedi anghofio faint o hwyl ydyw!!
Ond wedi sawl gwydraid o win a siampers roedd hi'n draed moch ar y dawnsio - ond dydw i ddim wedi chwerthin cymaint ers oes!
Yn wir, bu'r daith o'i dechrau i'w diwedd yn sbri - ar wahân i'r adegau dreuiodd Rod a minnau yn cerdded o gwmpas y gwesty am bedwar y bore yn ceisio cael Harri i gysgu!!!
Rwy'n hapus iawn imi gael fy ffics o Gymru ac yn ddedwydd fy myd - ond yn edrych ymlaen yn barod at y daith nesaf .... gyda thywydd gwell!!!
|
|