|
|
Paratoi ar gyfer Nadolig 2006
Santa mewn hofrennydd - ac un arall ar y traeth
|
O'r diwedd, wedi pedair blynedd o fyw yn Asia rwyf wedi darganfod cyfrinach Nadolig llwyddiannus yn 'Honkers'. Ymchwil a pharatoi!!
Mae dydd Nadolig fel unrhyw ddiwrnod arall o'r flwyddyn i'r bobl leol gan mai'r Flwyddyn Newydd Chineaidd ydy'r dathliad mawr.
Ond wedi dweud hynny mae digon i ni'r ex pats i'w wneud yma er mwyn creu cynnwrf a sbri cyn dyfodiad Santa!
Yn wahanol i Brydain nid oes Panto yma ac nid yw'r silffoedd yn yr archfarchnadoedd yn orlawn o finspeis, pwdinau Dolig a bocseidiau Quality Street diri!
Rwy'n ddiolchgar iawn ein bod yn ymweld â Chymru y Nadolig hwn gan na fûm adref ers blwyddyn a hanner ac mae hiraeth arnaf - nid yn unig am Gymru a ffrindiau ond am Nadolig traddodiadol a phopeth sy'n mynd law yn llaw a hynny.
Oce , dwi ddim yn edrych ymlaen at hedfan am dair awr ar ddeg gyda thri o rai bach dan bump oed ond wedi dweud hynny os gall "Ang" a "Brad" hedfan dros y byd bron yn wythnosol gyda thri o rai bach siawns na allaf innau hefyd!
Yr unig wahaniaeth yw y byddwn ni'n hedfan cattle class yn hytrach na lan y ffrynt fel Brangelina!!!!
Dechreuodd y dathliadau Nadolig yn ein tŷ ni ar y cyntaf o Ragfyr pan gyrhaeddodd y goeden.
Ydy, mae popeth yn "hawdd" yn Honkers a mae'n rhaid cyfaddef ei bod yn fendith bod rhywun arall yn cario'r goeden fyny yr holl 'risiau i'r fflat.
Penderfynais fod yn rhaid cael y goeden yn gynnar eleni gan ein bod yn gadael ar yr unfed ar hugain - a bod yn rhaid iddi fod yn goeden go iawn.
Ond bu bron imi a chael haint pan ddarganfyddais fod coeden yn $1,200!!! (tua £80).
Cymaint o foddhad Ond erbyn gweld, roedd talu £80 punt am y goeden y peth gorau wnes i erioed gan iddi roi cymaint o foddhad i'r plant.
Bu Ela wrth ei bodd yn addurno gan feddwl am oesoedd lle'n union i osod pob addurn.
Mae Joni Teifi ar y llaw arall yn mwynhau dinistrio'r goeden a holl waith caled Ela.
Wrth gwrs, does dim syniad gan Harri bach beth sy'n digwydd - ond o leiaf mae'r golau disglair yn ei ddiddanu!!!!
Ta beth, mae hi lan - y saith troedfedd bendigedig ohoni ac mae'n edrych yn syfrdanol!
Sawl Santa Gan fod y tywydd yn dal yn weddol dwym yn Honkers mae ffeiriau Nadolig yn cael eu cynnal yn yr awyr iach.
Eleni, rydym wedi bod yn ddigon ffodus i weld sawl Santa ond yr ymddangosiad gorau o ddigon oedd pan gyrhaeddodd mewn hofrennydd a chael ei gludo wedyn ar draws lawnt yr ysgol mewn Jag E Type!!!
Y gorau o'r Santas oedd un ar y traeth ym mharti Nadolig dosbarth ysgol Ela.
Fel mae'n digwydd, roeddwn yn ei adnabod yn dda iawn gan fy mod yn deffro gydag ef bob bore!!!!
Pan ofynnwyd i Rod roedd gennyf deimladau cymysg. Gan nad yw Els ond yn bump rwy'n awyddus i gadw "hud" Santa.
Ta beth, un funud roedd Rod yn chwarae ar y traeth a'r funud nesa roedd Sion Corn yno!
Yn ddiddorol iawn fe ddwedodd Ela wrthai wedyn: "Ti'n gwybod beth Mami? Dwi ddim yn credu mai'r Sion Corn iawn yw e ... mae e'n cadw tynnu ei farf lan!!! Dwi'n meddwl bod e di gyrru helper!"
Roedd hi'n anodd iawn peidio â chwerthin.
Bu Ela yn disgwyl yn arw am y Dolig ac at ymweld â Chymru.
Rydym yn mynd i weld yr Hong Kong Ballet yn gwneud y Nutcracker heno ac mae ei pharti ysgol hi nes 'mlaen heddi ac mae'n ymwybodol ein bod ni "bant" yfory!
Dwi ddim yn rhagweld llawer o gwsg yn ein tŷ ni heno!
Rydw i, ar y llaw arall, yn rhedeg o gwmpas y lle fel peth wyllt.
Mae pacio i ddau fabi yn waith caled ... travel cots x 2, sterelisers, dillad gaeaf (ydw, dwi di gorfod prynu wardrob newydd i'r rhai bach!)
Yn ogystal, mae'n rhaid cludo anrhegion Dolig i ffrindiau a theulu!
Nid Ela fydd yr unig un ar ddihun yn ein tŷ ni heno gan y byddaf innau hefyd yn edrych ymlaen at weld tân go iawn, minspeis cartref, clywed acenion Keeeeerdiff a phwy a wŷr ... falle hyd yn oed ychydig o eira tra'n dathlu'r ŵyl gyda Harri Tweli bach yn profi ei Nadolig cyntaf a hynny yng Nghymru.
Breuddwydion melys. Nadolig llawen, bawb.
|
|