Dathlu Dewi 2005
Beks yn sgrifennu am ddathliadau Gŵyl Dewi 2005 yn Hong Kong
Mae'r extravaganza dathliadau Dydd Gŵyl Dewi HK drosodd.
Rhaid cyfaddef i eleni fod yn goron ar y tair Gŵyl Dewi a gefais yn Hong Kong.
Mae rhywbeth od iawn ynghylch dathlu Dydd Gŵyl Dewi dramor gyda'r teimlad o "hiraeth" yn gallu bod mor gryf.
Mae hynny'n sicr yn wir yn fy achos i wrth glywed Côr Meibion HK yn canu Myfanwy ac Mi Glywaf Dyner Lais. Rwyf fel arfer yn gorfod estyn am y tisiw!
Bu Cymdeithas Dewi Sant HK yn eithriadol o weithgar yn paratoi am y wledd flynyddol ac eleni buom yn ffodus dros ben o gael neb llai na Shân Cothi yn westai!
Rwy'n adnabod Shân ers blynyddoedd ac wedi cynhyrfu'n bost pan glywais iddi gytuno i ddod.
Dim ond am benwythnos oedd hi yma gan hedfan yn ôl ddiwrnod y wledd, y Sadwrn cyn Mawrth 1.
Roedd hi'n hyfryd medru dala lan â'r clecs i gyd y noson cynt yn fy hoff dŷ bwyta, The China Club, sy'n lle egsliwsif a colonial iawn gyda'r argraff o fod yn Shanghai yn dauddegau!
Pedwar cant Mae gwledd y gymdeithas bob amser yn un fawreddog ac eleni fe'i trefnwyd yng ngwesty'r Shangri-la ochr Kowloon gyda bron i 400 cant yn bresennol.
Roedd hi'n hyfryd clywed pytiau o Gymraeg fan hyn a fan draw yn ystod y coctels agoriadol.
Er nad oedd pawb yn Gymry yr oedd bron bawb a chysylltiad Cymreig o ryw fath ac yn gwisgo'u daffs a chennin gyda balchder.
Mewn rhai ffyrdd mae'r wledd yn teimlo braidd yn afreal ... yn enwedig y darnau eisteddfodol!
Mae llawer o dynnu coes am y gwahaniaeth rhwng pobol y sowth a phobol y north a mwy fyth o dynnu coes am y Saeson ... sy'n syndod gan fod cymaint ohonynt yno!!!!
Bwyd traddodiadol Mae'r bwyd yn draddodiadol - cawl cennin, cig oen ac ati a'r adloniant yn drwyadl Gymreig.
Mae'r côr yn grêt gyda dynion o bob cwr o'r byd yn aelodau nes ei fod yn edrych ychydig fel hysbyseb Benetton! Chwarae teg!
Roedd Shân yn hollol wych gyda repertoire anhygoel o ganeuon yn amrywio o'r traddodiadol Gymreig i Phantom of the Opera a hyd yn oed Puccini. Sôn am dalent!
Roedden i mor browd ohoni ac mor browd o fod yn ei hadanbod.
Parhaodd y dathliadau tan oriau mân y bore gyda gêm Cymru a Ffrainc ar sgrîn fawr yng nghyntedd neuadd y wledd.
Roedd hi tua hanner nos yn HK adeg y gic gyntaf - perffaith! - a chan fod y canlyniad mor wych parhaodd y dathliadau tan yn gynnar y bore a phawb yn bwrw clybiau Wanchai!
Yn ôl y sôn bu llawer o'r dawnsio ar y bar!!!!
Nid o fy rhan i, yn anffodus - a hynny am ddau reswm; beichiogrwydd a sioe radio bedair awr i'w chyflwyno'r bore Sul!!!!
Er mai ond ychydig o gwsg a gefais roedd yr adrenalin yn pwmpio pan gyrhaeddais y stiwdio i ymgomio â Shân Cothi!!!!
A hithau ond wedi cael rhyw deirawr o gwsg rwy'n sicr mai cyfweliad radio oedd y peth olaf oedd Shân ishe'i wneud ond roedd ei natur broffesiynol yn goresgyn y cwbwl a chawsom glonc ragorol.
Mae HK nawr yn gwybod am Shan Cothi!!!
Diwrnod Ela Mai Bu Mawrth y cyntaf ei hun yr un mor hyfryd - ond diwrnod Ela Mai oedd hwn!
Roeddwn wedi archebu'r daffs ers pythefnos ac wedi pobi pedair torth frith ar gyfer mynd a hwy i'r ysgol.
Mae ysgol ryngwladol Ela yn dathlu pob diwrnod cenedlaethol a'r staff a'r plant wedi edrych ymlaen yn fawr at Fawrth 1.
Pawb gyda chennin Pedr ac Ela Mai mewn gwisg Gymreig.
Mewn bag ganddi yr oedd Sali Mali, Straeon Sali Mali a llu o bethau eraill yn ymwneud â Dewi Sant a Chymru.
Roedd diddordeb mawr da'r plant yn y cyfan - yn enwedig yn y bara brith gyda phob tamaid yn cael ei fwyta.
Do - bu dathliadau Mawrth y cyntaf yn rhai arbennig iawn yn Honkers 2005!