Pwy sydd angen upgrade pan fo SARS o gwmpas?! Wir i chi, roedd y daith adre i HK dipyn yn fwy pleserus na'r un arferol gan fod rheseidiau o seddi cwbwl wag. Gwely yr un, felly, i mami ac Els am y daith 17 awr!
Dim ond 60 o bobol oedd ar y jumbo sydd fel arfer â phobol wedi eu pacio fel sardîns!
Cawsom ambell i edrychiad rhyfedd gan staff yn Heathrow cyn gadael.
"Ac le i chi'n teithio heddi madam?"
Ac wedyn yr edrychiad druan ohono chi! pan atebais "Hong Kong!"
Ta beth, golygodd y pum awr ychwanegol o deithio fod Ela Mai a Mami yn dioddef o'r jetlag mwyaf ofnadwy am y tridiau wedi'r daith nid y peth delfrydol a hithau'n ail ben-blwydd y fechan y diwrnod ar ôl cyrraedd Honkers!
Braf bod adref SARS neu beidio, roedd hi mor braf cyrraedd adre. Roeddwn i'n synnu faint oeddwn i'n golli HK a phopeth arall sydd nawr ynghlwm â fy mywyd yma.
Roedd hi'n hwyr iawn pan gyrraeddon ni'n ôl yn Stanley y nos Sadwrn ac oherwydd y jet lag bu'n rhaid deffro Ela Mai amser cinio drannoeth neu mi fuasai wedi cysgu drwy ei phen-blwydd!!!
Mae Ela yn ferch hynod fenywaidd - tybed lle mae'n etifeddu yr ochor yna o'i chymeriad? - felly, ymhlith y llwythi ar lwythi o bresantau y prif anrheg oedd beic Barbie pinc!!!!
Mmmmm rhyngddo chi a fi dwi ishe un fy hun!!!
Felly ar ddiwrnod gwyliau cyhoeddus fan hyn, Pen-blwydd Bwda, go brin i'w phen ôl adael y sedd o gwbwl sy'n beth da, gan na all ei thraed gyrraedd y pedalau eto!
Dathlu o ddifrif Yn bersonol, roedd dathlu pen-blwydd Ela fan hyn yn HK yn beth hynod o bwysig i mi - ei phen-blwydd cyntaf yn ei chartref newydd.
Felly, penderfynodd RJ a minnau y byddai'n rhaid dathlu o ddifri, Dathlu mewn steil gyda parti ENFAWR cyfuniad o barti pen-blwydd Ela yn ddwy a pharti bedyddio ein cartref newydd.
Mae'r tywydd yn ferwedig yn HK ar hyn o bryd yn y nawdegau, felly mond un peth oedd amdani barbie ar y to.
Oherwydd y gwres cyson mae pobol HK yn tueddu i wneud cymaint o ddefnydd o'u barbies ag o'u ceginau os oes ganddyn nhw do neu falconi.
O ganlyniad mae lot o bwysau arno chi i gael barbie sy'n well nag un pawb arall neu o leiaf yn well nag un yr Americanwyr drws nesa yn ein hachos ni!!!!!
Rhaid cyfaddef nad ar chwarae bach y mae dewis yr angehnfil!
Maen nhw'n hynod o gostus ond profodd ein barbie ni o Oz yn fuddsoddiad am weddill ein bwydau!
Gallwch goginio ffowlyn cyfan arno a phorthi'r pum mil gydag ef!
Go brin fod angen dyfalu ble byddwn ni'n bwyta'n cinio Dolig eleni!
Y noson cyn y bash roeddwn wrthi fel lladd nadroedd yn mwydo bananas mewn mêl i'w coginio i'r plant ar y bwystfil newydd ac yn lapio pass the parcel, paratoi goodie bags, golchi'r llithren a'r teganau a chwilio am wydrau, platiau, powleni.
Hyn oll cyn hyd yn oed meddwl am y ddarpariaeth ar gyfer y plant mawr!
Cig mewn Port Diolch i'r drefn mae yna un joban mae dynion wastod wrth eu boddau gyda hi - bod yn gyfrifol am gig y barbie - felly cefais ddianc o'r gegin a gwisgo'r ffedog a gadael i RJ fwydo'r cig mewn gwin Port a chreu gwyrthiau cigyddol eraill!!!!
Roedd y ddwy oergell yn llawn vino a chwrw, y ddau eskie neu focsus iâ yn llawn dop a iâ ar y to, y gacen ben-blwydd yn barod a'r barbie yn barod am ei fedydd tân!
Fel arfer roedd y tywydd yn fendigedig er ychydig yn rhy boeth tan tua chwech y nos ond o fewn ychydig funudau ar wedi pedwar y pnawn dechreuodd y marathon o barti gyda'n to ni di dan ei sang gyda tua 60 o bobol a phlant yn rhedeg bobman.
Roedd yn griw ecleticg dros ben gan fod ein ffrindiau yn dod o bedwar ban byd, HK, Cymru, Canada, Korea, Singapor, yr UD ayb!!!!
Dim ond y plant mawr! Wi'n falch o ddweud mai ond y plant mawr oedd yn dal yn partioa dan y sêr yng ngolau canhwyllau am ddau y bore gyda'r rhai bach wedi cau eu llygaid ers oriau wedi pnawn o redeg a neidio.
Bu'r bonanza o barti yn llwyddaint mawr er i'r balwns i gyd fyrstio yn y gwres ac er imi angofio rhoi cadachau goodie y plant iddyn nhw fynd adre ac i'r golau ffiwsio ar y to! Mae canhwyllau mor handi!
Yn bwysicach na hyn oll, roedd y fenyw fach wedi mwynhau ei phen-blwydd cyntaf yn HK mas draw ac mi fydd y beic pinc yn destun siarad am wythnosau i ddod!
|