|
|
Parti ar y naw yn dair oed
Beks Walters yn trefnu parti pen-blwydd ar y to yn Hong Kong.
|
Blwyddyn arall - parti arall. A hithau'n dathlu ei thair oed cafodd Ela Mai barti buasai Brooklyn Beckham yn browd ohono!
Er, dydw i ddim yn credu y byddai Victoria yn lapio pass the parcel i 25 o blant tan ddau y bore y noson cynt.
Bellach, cafodd Els ddau barti pen-blwydd yn HK.
Roedd yr ail yn hawdd a phrin yr oedd hi'n siarad ond i ddweud wrthyf pa anrheg oedd hi ishe.
Mae'n syndod faint o newid fu yna mewn blwyddyn ac erbyn hyn, a hithau'n dair, y peth cyntaf mae'n y'i wneud hyd yn oed cyn mynd i'r ty bach neu ofyn am sudd - ydy gwisgo'i fyny.
Gwisgoedd ffansi Mae ganddi wisgoedd ffansi yn amrywio Snow White i wrach, tylwyth teg (pedwar), Supergirl a môr leidr.
Yn wyneb hyn y petrh amlwg i'w wneud oedd trefnu parti Pirates and Princesses heb ofni o gwbl gael fy nghyhuddo o beidio â bod yn PC!
Dechreuodd y paratoadau bythefnos ynghynt prynu anrhegion ar gyfer y carry home's fel mae nhw'n cael eu galw fan hyn lle mae llawer o bethau yn Eingl Americanaidd iawn!
Pan oeddwn i'n blentyn, roeddech yn lwcus cael balwn a thamaid o gacen ben-blwydd mewn bag bach i fynd adre.
Eleni, roedd gan bob plentyn bar o chopsticks Nemo, swigod Sesamee Street, modrwy allweddau, losin, loli - a darn o gacen.
Rhaid bod yn filiwnydd i daflu parti pen-blwydd yn Honkers. Mewn nifer y bum i ynddynt cafodd y plant hyd yn oed grysau T a llyfrau i fynd adre. Ond mae'n siwr fod hyn yn wir ym mhobman bellach!
Hwyl yn y gegin Cawsom lawer o hwyl yn y gegin wythnos y parti ac nid oes amheuaeth fod tair yn oed hyfryd sy'n sicrhau fod gennych chi rywun bach gyda chi i helpu o gwmpas y lle yn enwedig gyda'r cwcan.
Er bod y gegin yn edrych fel petai bom wedi ei bwrw erbyn diwedd y sesiwn coginio roedd Ela Mai yn wên o glust i glust a'i hwyneb yn llawn siocled a hithau'n browd iawn o'r bisgedi siâp sêr a chalonnau a'r gacen siocled roedd hi wedi'i gwneud ar gyfer y parti!
Y syniad oedd taflu'r parti mawreddog ar y to a'r peth cyntaf fore dydd Sadwrn roeddwn i , Rod ac Els yn fishi yn addurno'r to gyda balwns, posteri ayb.
Gan ei bod hi mor ddifrifol o boeth erbyn tua naw y bore dechreuodd y balwns fyrstio a bu'n rhaid imi fenthyg parasôls gan fy nghymdogion.
Gallwch ddychmygu pa mor boeth oedd hi erbyn tri o'r gloch pan ddechreuodd y parti ond roedd fy nhywysoges.
Ta beth, roedd fy nhywysoges fach yn barod i fynd ac yn edrych yn bictiwr yn eu gwisg dylwyth teg!
Roedd y plant wedi gwirioni gweld ei gilydd fel môr ladron a thywysogesau er i un orfod diosg ei ffrog wedi cyrraedd wedi i Isabel druan fod yn sâl ar ôl teithio o ynys Lama. Fe wnaeth pawb fwyta'n anhygoel o dda gyda'r spring rolls a'r chicken satay yn mynd lawr gystal ag erioed!
Ymwelydd arbennig Wedi'r bwyd cyhoeddais y byddai ymwelydd pwysig yn ymweld â ni - neb llai ni Dipsi o'r Teletubbies y mae Ela mor hoff ohonyn nhw! Bu'r ymateb yn anhygoel diolch i John Davies - neu Bercoed fel mae'n cael ei alw ar ôl ei gartref, fferm Bercoed, Llandysul.
Ef yw un o ffrindiau gorau Rod ac yn un o'r best mên yn y briodas ac yn yr HK 7's gwisgodd fel Dipsi.
Gallwch ddychmygu ymateb y plant pan welon nhw Dipsi gwyrdd anferthol ar y to - rhai yn crio mewn ofn, gan gynnwys Ela, ac eraill yn rhedeg a thaflu eu hunain tuag ato a'i gusanu.
Chware teg i John doedd hi ddim yn beth hawdd bod yn y wisg drwchus na a hithau'n tua 36 gradd.
Un o'r uchafbwyntiau I mi oedd gweld Ela yn chwythu ei chanhwyllau ac, yn naturiol, bu'n rhaid canu yn Saesneg ac yn y Gymraeg gan chwythu ddwywaith.
Dwi'n credu i'r ail chwythiad na fwrw'r stwffin allan ohoni a do fe cafodd y dywysoges fach noson dda o gwsg ar drothwy ei thrydydd pen-blwydd.
Dyna ni te - dau barti pen-blwydd llwyddiannus ar y to wedi dod ac wedi mynd.
Efallai bod paratoi yn waith caled ond mae gweld y boddhad mae'n ei roi i'r rhai bychain yn fythgofiadwy.
Tybed beth fydd hi ishe wneud ar ei phedwerydd pen-blwydd? Rwyf wedi dechrau meddwl am y carry homes yn barod!
|
|