|
|
Trafferthion y Calan Chineaidd
Beks Walters mewn trafferthion gydag arferion a hen goelion yn Hong Kong - ac yn dysgu fod cloc yn rhywbeth cwbl arswydus ac anamserol.
|
Kung Hei Fat Choi!!!! Blwyddyn newydd dda Chineaidd ichi gyd!
A ninnau newydd droi'r gornel wedi Nadolig wele'r flwyddyn newydd Chineaidd ar ein pennau ni gyda rhagor o wyliau!
Dwi'n dechrau dod i hoffi'r holl ddathlu traddodiadol yma; yn enwedig gan fy mod i'n hedfan bant i ynys baradwysaidd Boracay yn y Philippenes.
Cyfnod pwysig Mae'r lunar new year fel mae'n cael ei galw yn gyfnod pwysig iawn yng nghalendr y bobol leol fan hyn gyda'r paratoadau yn parhau wythnosau gyda'r pacedi bach cochion o'r enw lai si yn hedfan oddi ar y silffoedd.
(Rydych fel arfer yn rhoi papur deng doler yn yr amlenni i blant bach neu i bobol ifanc sydd heb briodi.
I'r gwynion sy'n byw yn HK mae'n gyfle i hedfan bant i ardaloedd eraill yn Asia am wyliau bach gan fod tridiau o wyliau cyhoeddus gyda ni yma.
.Borocay - dyma finne'n dod am haul, pina colada, llonyddwch a dim chopstick i'w weld yn unman! Nefoedd! Arswyd y cloc Fel un sydd wedi ymgartrefu yma ers bron i flwyddyn bellach dwi'n teimlo imi ddod i adnabod y bobol leol a'u celfyddyd yn eithaf da ac rwyf wedi dechrau meistroli ychydig o Gantonaeg ac yn bwyta dim sum bron iawn yn ddyddiol ac rwyf wrth fy modd a ffasiwn Asiaidd, celfi a defnyddiau Asiaidd er, rhaid cyfaddef, dydw i yn credu y byddai byth yn deall yr holl ofergoelion sy'n rhan mor bwysig o fywydau y Chineaid.
Cefais enghraifft berffaith o hyn yn sgil camgymeriad erchyll a dydw i ddim yn sôn am osod cadair mewn cornel anghywir a sbwylio Feng Shui ystafell.
Mae un o fy ffrindiau gorau yn Honkers o dras Chineaidd a'i magu yn Singapore. Yn ogystal â bod yn gymdogion, rydym yn ciniawa â'n gilydd ac yn mynd â'r plant i wersi nofio da'i gilydd. Rwy'n meddwl y byd ohoni.
Ta beth yr wythnos ddiwethaf roedd ei mab ieuengaf yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf a minnau wedi bod yn pendroni am achau beth i'w brynu iddo.
Roeddwn yn awyddus cael rhywbeth i'w gofio ar gyfer ei stafell wely a phan welais gloc hyfryd gydag anifeiliaid y jyngl arno roeddwn wedi gwirioni yn llwyr. Yr anrheg.perffaith!!!!
Felly bant ag Ela a minnau i barti cyntyaf Nik yn barod am bnawn o joio.
Dychmygwch y sypreis ar fy wyneb pan edrychodd gwestai'r parti'n hurt arnaf wedi i fy ffrind agor y parsel. Heb fod yn wybod i mi cloc ydy un o'r pethau mwyaf anlwcus y gallwn fod wedi mynd ag ef i gartref Chineaidd.
. Mae iddo gysylltiad cryf a marwolaeth ac roeddwn yn ysu am i'r ddaear fy llyncu!
Beth yn y byd oeddwn i'n mynd i'w wneud nawr? Sut gallwn i ymddiheuro am y fath gamsyniad?????!!!
Diolch i'r drefn roedd fy ffrind yn deall yn iawn ac wedi iddi ddod dros y sioc cefais eglurhad llawn a mynd a'r cloc yn ôl adref da fi.
Cymaint o arferion Mae cymaint o arferion gwahanol yn ymwneud â'r Calan Chineaidd wn i ddim lle i ddechrau.
Ta beth dwi di dysgu bod yn rhaid ysgubo'r llwch tuag at ganol y llawr tra yn cymoni fel nad wyf yn ysgubo'ch ffortiwn allan drwy'r drws.
Mae hefyd yn arferiad prynu sgidiau newydd i'r plant groesawu'r flwyddyn newydd ac mae golchi'r gwallt ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn newydd yn sicr o ddwyn anlwc; a gwell peidio a gadael y ty ar y trydydd diwrnod gan fod hynny hefyd yn achosi anlwc!
Mae'r rhestr yn ddiddiwedd a dyna pam dwi'n falch o fod mas o ma gan na bfyddai hi'n ddiogel i mi fod yn Honkers dros eu calan yn croesawu'r mwnci i'r calendr newydd a ffarwelio â'r afr.
Gan fy mod y math o berson na fyddai byth yn cerdded dan ysgol byddai ceisio deall yr holl draddodiadau yma am wythnos gyfan yn ormod o gur pen.
Kung hei Fat Choita lle byddwch chi!!!
Rwy'n gwybod yn iawn lle na fyddaf i!
|
|