Mae HK yn lle cystadleuol dros ben o ran busnes gyda rhyw siop newydd arallfydol, tŷ bwyta anarferol neu westy swanc yn agor bob yn ail ddiwrnod.
Yn ddiweddar agorodd dau westy newydd sbon pum seren eu drysau; Landmark Manadarin Oriental a'r Four Seasons.
Yn naturiol, bu'n rhaid i'r ferch fach hon ymchwilio gydag ymweliad a'r ddau le - bellini bach yn y bar, pryd o fwyd falle yn un o dai bwyta swanc y gwestai neu ddiwrnod o faldod yn nhangnefedd y spas o sŵn a phrysurdeb Ynys HK!
Mynd a dod Rwyf bellach wedi dod i arfer â HK fel dinas lle mae yna lawer o fynd a dod ymhlith y Gweilos - y bobol wyn sy'n byw yma.
Mae'n brofiad ofnadwy ar ôl dod i adnabod rhywun yn dda eu gweld yn gadael am wlad arall.
Digwyddodd hyn i mi am y trydydd tro o fewn blwyddyn wrth i ffrind o Sweden, sydd ond wedi bod yma am ddwy flynedd - yn dilyn cyfnod byr yn Tokyo - adael am y Swisdir.
Wrth gwrs, rhaid ffarwelio mewn steil ac mae'r partïon ffarwelio yn rhai i'w cofio. Ychydig fel hen/stag nights o ran natur!
Yn achos Katie, aeth hi a chriw o ferched bant i Vietnam am benwythnos - dim ond awr ar awryen o HK - ond i'r rhai hynny ohonom na allodd fynd beth allai fod yn well na diwrnod yn The Oriental Spa Hong Kong yng ngwesty newydd y Mandarin. Nefolaidd!
Hen arferion Yr eiliad rydych yn camu i mewn i'r spa mae fel petai'r gorllewin a'r dwyrain yn cwrdd yn yr un lle.
Mae amser yn aros yn llonydd a'r teimlad o ymlacio yn golchi drosoch.
Mae'r triniaethau yn defnyddio hen arferion Chineaidd, Indiaidd a Thai yn ogystal â rhai o Ewrop.
Hawdd iawn anghofio mai yng nghanol Ynys HK, un o leoedd prysura'r byd, yr ydych.
Mae arogleuon hudol yn eich taro o'r eiliad gyntaf a hynny i gyfeiliant cerddoriaeth ysbrydol sy'n peri i'r mae'r meddwl adael i bopeth lithro bant.
Y straen fwyaf yw dewis pa driniaeth arbenigol i fynd amdani o blith y cyfan sydd ar gael.
Mam eto Yn fy achos i, dim ond un dewis oedd yna mewn gwirionedd! Ydy, mae'n bryd datgelu cyfrinach; rwy'n feichiog a baban rhif 3 i gyrraedd fis Awst.
Yr ydym i gyd wrth ein boddau fod newydd ddyfodiad yn mynd i ymuno ag Ela Mai a Joni Teifi - er, rhaid cyfaddef fy mod wedi cael llond bol (Ha ha - esgusodwch fi) ar wisgo dillad mamolaeth.
Fis Awst, fodd bynnag, rwy'n bwriadu trefnu parti llosgi dillad mamolaeth! Gallwch ddisgwyl gwahoddiad yn y post tua Gorffennaf!
Ta beth, gan fy mod bron hanner ffordd drwy'r beichiogrwydd penderfynais fynd am becyn dwy awr ar gyfer "Mum to be" yn y spa! Perffaith!
Rhwbio halen Yn gyntaf, cefais exfoliation gyda Coco, fy ngweinyddes bersonol, yn rwbio halen dros fy nghorff i gyd er mwyn cael gwared â chroen marw.
Yna, cefais gawod i olchi'r cwbwl bant.
Yna, yn ôl a mi ar y gwely er mwyn i Coco rwbio hylif twym yn arogleuo o rosynnau dros fy nghorff i gyd cyn fy lapio mewn clingflim Ocê ... nid yr edrychiad gorau a diolch i Dduw nad oedd fy ngŵr yno i'm gweld!
Tra fy mod yn y sefyllfa hon ac yn methu symud dechreuodd Coco weithio ar fy mhen gydag ugain mumud o Indian head massage - rhywbeth rwyf bob amser yn ei fwynhau.
Rhaid cyfaddef, llithrais i'm byd bach fy hun o fewn pum munud gan weddïo y gallwn aros yno drwy'r dydd.
Yn anffodus, daeth y driniaeth i ben ac wedi tynnu'r clingfilm rhwbiodd Coco hylif i fy nghroen nes bod pob rhan o fy nghorff mor llyfn a phen ôl babi!!! Sôn am esmwyth ag yn arogli'n fendigedig.
Cinio iach Wedi inni gyd gael ein triniaeth bersonol cawsom ginio iach cyn bwrw'r spa a'r dŵr poeth.
Yn anffodus, yn fy achos i, ni allwn ymdrochi yn y pyllau gwahanol a mwynhau'r cawodydd sy'n tylino'r corff oherwydd fy mod yn feichiog.
Yn hytrach, cefais wylio fy ffrindiau yn y dŵr tra'n ymlacio ar lounger o farmor twym.
I ddweud y gwir, symudais i ddim o'r fan honno am ddwy awr gan fod gennyf ddewis helaeth o gerddoriaeth dda a phob cylchgrawn dan haul.
Ddim yn rhad Doedd o ddim yn ddiwrnod rhad ond, dyna fe, does dim yn rhad yn HK - ac y mae hynny yn rhywbeth yr ydw i wedi dod i arfer ag e erbyn hyn.
Ond, ar ôl cystal diwrnod rwy'n credu y gall y busnes yma o ffarwelio â ffrindiau droi'n brofiad haws ymdopi ag ef. Mmmm ... tybed pwy fydd nesa i adael a thybed pa westy fydd dan y chwyddwydr y tro hwnnw?
|