|
|
Diemwntau a roc a rôl
Beks Walters yn sgrifennu o Hong Kong
|
Diolch ir drefn doedd o ddim yn waith anodd - tywys Kate, y gyflwynwraig, o gwmpas rhai o siopau a marchnadoedd HK i ddangos iddi beth sy'n fargeinion a beth ddylai hi osgoi ei brynu fel ymwelydd.
Yn ffodus i mi, roedd ein hymweliad cyntaf â marchnad Stanley sydd ond tafliad carreg i ffwrdd ac roedd Kate ar criw yn hapus i daflu llwyth o arian bant ar bethau traddodiadol Chineaidd.
Un o fy hoff siopau Ymlaen â ni wedyn i un o fy hoff siopau, Shanghai Tang - siop y selebs gyda lluniau o Kate Moss, Angelina Jolie, Jerry Hall a nifer o sêr eraill ar wal y fynedfa.
Fel byddech chin disgwyl, mae angen tipyn o ddoleri i siopa fan hyn!
Gwisgo diemwntau Treuliwyd gweddill y diwrnod ar ochor Kowloon mewn siopau diemwntiau gan fod HK yn un or llefydd gorau yn y byd am brynu diemwntiau am brisiau da.
Pam tybed, mae diemwntau yn cael effaith mor ryfeddol ar bron bob menyw? Yr effaith yna syn gwneud ichi deimlo fel jeli!!!!
Am y tro cyntaf a'r tro olaf, siwr o fod - cefais gyfle i wisgo modrwy ddrud ar bob bys gyda'r bobol leol yn edrych yn syfrdanol arnom o'r ochor arall i ffenest y siop!!!!
Marchnad nos Oddi yno, bant a ni i farchnad nos Temple Street sy'n enwog am ei chopïau o bethau. Bagiau ffug LouisV a Prada am tua £30 yn y steil ddiweddara ac yn edrych bron gystal â rhai diweddara Posh Spice.
Bu'n ddiwrnod da o siopa a minnau, am unwaith, yn ymwrthod â themtasiwn a gadael i eraill wario!!
Tridiau o roc a rôl Nid criw GMTV yn unig oedd ar ymweliad â HK gan fod yna griw roc a rôl go iawn yn dre - y Rolling Stones.
Bu HK yn ceisio denu'r band ers hydoedd ac fe wnaethon nhw ganslo ddwywaith oherwydd y SARS.
Ond, am y tro cyntaf a, siwr o fod, y tro olaf - fe gyrhaeddodd y bois a chawsom ninnau dridiau o roc ac o rôl go iawn yng nghanol rhai o adeiladau uchaf y byd.
Anodd credu, o'u gweld, fod Mick ar criw dros eu trigain oed - yn enwedig o'u clywed yn beltio clasuron fel Honkey Tonk Woman a Satisfaction fel pe bydde nhw'n dal i berfformio bob dydd!
Ni allaf ond gobeithio y bydd gen i hanner eu hegni pan fyddaf yn hen nain!
Ac y bydd fy drainpipes yn dal i'm ffitio innau!!!
|
|