|
|
Prysurdeb priodi - ar draws y byd
Mae'r briodas yn dynesu - a threfniadau i'w gwneud mewn tair gwlad. Beks Walters yn sgrifennu o Hong Kong
|
Sôn am Basg prysur! Dwi erioed wedi gweithio mor galed yn fy myw dros gyfnod sy'n cael ei alw'n wyliau!
Tra roedd gweddill Honkers yn eu gwelyau tan amser cinio roedd fy larwm i yn canu am 4.30 y bore ar gyfer dal tacsi i Radio 3, RTHK (Radio Television Hong Kong) ym mherfeddion Kowloon.
Dwi ddim yn ffan o neidio i mewn I dacsi a hithau'n dal yn dywyll ond o leiaf roedd y daith 40 munud yn rhoi cyfle imi ffonio ffrinidau a theulu yng Nghymru lle'r oedd hi'n ddeg y nos!
Nwdls o egni! Wedi pedwar bore cynnar roedd fy nghorff yn dechrau arfer â'r syniad gwirion o godi mor gynnar a minnau wrth fy modd yn mynd i gantîn RTHK i gael powlenaid o nwdls am ddeg!
Ac rwy'n siwr i'r noodles hynny roi imi'r egni angenrheidiol i mi fynd ar daith gerdded bedair awr dros fynyddoedd ynys HK yn dilyn rhaglen Llun y Pasg.
Oes mae 'na wyrddni yma chi'n gwybod! I ddweud y gwir, mae sawl taith gerdded i weld adeiladau uchel HK i gyd.
Mae'n olygfa drawiadol iawn ac wedi cwblhau'r hyn maen nhw'n alw y mil o risiau - gan fod o leiaf fil ohonyn nhw! - teimlwn yn browd iawn imi losgi caloriau yn hytrach no rhoi cannoed ohonyn nhw yn fy mol ar ffur wyau Pasg.
Trefnu priodas Yn dilyn penwythnos y Pasg yr oedd gwaith gwahanol yn galw - trefnu'r briodas ddiwedd Gorffennaf.
Dydi hynny ddim yn hawdd a chwithau'n byw yr vochr arall i'r byd gan fod rhai pethau mae'n rhaid i chwi eich hun eu gwneud yn y fan a'r lle yn hytrach na thros y ffôn neu drwy e-bost.
Felly, nos Fawrth diwethaf bu'n rhaid hedfan nôl a threulio diwrnod yn Llundiaun a deuddydd nol yng ngorllewin Cymru.
Doedd whistle stop tour ddim ynddi ac erbyn imi ddod dros y jetlag roeddwn ar awyren arall nol i Honkers!
Honkers, Glasgow a Chaerdydd Gallwch ddychmygu faint o jobin yw hi i gydlynu'r cwbwl. Gan fod fy morynion priodas yn byw yn HK (Ela Mai) , Glasgow, (fy chwaer Lows a fy nith Beca Lia) a Chaerdydd (Sioned,fy narpar chwaer yng nghyfraith) ble oedd y lle gorau i gael eu gwisgoedd wedi'u gwneud?
Honkers, yr Alban ynteu Caerdydd?
Yn y diwedd penderfynwyd gwneud y ffrogiau yng Nghymru gyda Lowri a Beca yn hedfan lawr yn unswydd ar gyfer hynny a phawb yn cwrdd yn nhy y wniadwraig y tu allan i Gaerdydd.
Roeddem ni ferched wedi cynhyrfu'n llwyr a ninnau heb weld ein gilydd ers misoedd a druan o Tina, y fenyw gwneud ffrogiau, roedd hi fel ffair ar ei haelwyd!
Cwrdd a'r ficer Wedi hynny, bu'n rhaid rhuthro i'r gorllewin i gwrdd â'r ficer, mynd i'r eglwys, cwrdd â'r fenyw gacen briodas ac yn y blaen!
Yn ogystal â hyn, gan ein bod yn cael pabell ar dir fferm ger yr eglwys bu'n rhaid trefnu gyda'r ffermwr lle'n union i'w chodi.
Blas ar win Dwi'n falch dweud i bopeth fynd fel wats ac ar ben hynny llwyddodd rhai ohonom ni fenywod i flasu rhywfaint o win er mwyn dewis yr un priodol ar gyfer y diwrnod mawr!
. Wedi'r holl redeg o gwmpas y wlad fel dynes wyllt does ryfedd imi gysgu fel baban ar y daith adre ac roedd hi'n braf cael cyrraed tir poeth HK gan wybod mai dimond y traeth oedd yn galw y bore dranoeth!
Nefoedd a'r larwm yn fud am bedwar gloch y bore!
|
|