|
|
Tylino yng Ngwlad Thai
Beks yn sgrifennu o Hong Kong Dwi'n teimlo fel menyw newydd!!! Wedi dadflino a dad-stresio'n llwyr ar ôl cael triniaethau spa diri a mwynhau gwyliau ym mhrydferthwch a harddwch ynys Phuket yn Thailand.
|
Mae'r daith o HK i Phuket yn hwyl ynddi'i hun - dwyawr a hanner mewn awyren i Bangkok ac wedyn awr arall i Phuket.
Gan amla, mae'r ail ran yn dawel iawn gyda dim ond rhyw 30 o bobol ar yr awyren enfawr.
Dim alcohol Un o ddiffygion y daith - i mi ta beth! - yw'r ffaith nad oes alcohol i'w yfed a does yna ddim byd gwell na gin 'n slim bach i gychwyn gwyliau bant mewn steil.
Felly, gan fod awr neu ddwy gennym i'w lladd ym maes awyr BK roedd hi'n fater o gael foot massage a phrynu potel o Johnie Walker ar gyfer y daith i'r de!
Un o'r lleoedd gorau Roeddwn yn ffodus dros ben i fod yn aros yn un o westai gorau Phuket lle mae'r Spa wedi ei ennill tlws am fod yn un o'r deg gorau ledled y byd.
Dwi'n credu'n gryf mewn ymddwyn fel Rhufeiniad pan yn Rhufain a'r hyn maen nhw'n ei wneud orau yn Thai, ar wahân i wenu, ydi bwyd a massage!
Felly, ar ôl dadflino a chartrefu yn ein gwesty roedd hi'n amser lluchio'r bicini i'r gornel a gorwedd nôl i wneud yn fawr o bob eiliad o'r 90 munud nesaf.
Rhywbeth newydd Ers symud i HK, rwyf wedi trio pob math o driniaethau a ffyrdd gwahanol o gadw'n heini yn amrywio o hot yoga i stone therapy ac Indian head massage ond roedd massage Thai yn rhywbeth newydd imi.
O'r eiliad yr ydych yn cyrraedd y spa mae'r therapydd yn gwenu o glust i glust fel y byddai rhywun yn disgwyl yn y land of smiles - gan wneud i chi deimlo fel tywysoges neu super star neu, yn ein hachos ni, fel duw a duwies Phuket gan i RJ a minnau fynd am y pecyn i ddau gyda'i gilydd!
Llosgai pob math o olew pêr ym mhob twll a chornel i gyfeiliant cerddoriaeth draddodiadol Thai yn y cefndir fel eich bod yn ymlacio'n llwyr a llithro i feddylfryd baradwysaidd yn barod am yr hyn sydd i ddod.
Gwelyau ar ddwr Cawsom ein tywys i'n hystafell bersonol ni a gofynnwyd imi wisgo dillad fel P.J's!
Gallwch ddychmygu faint o chwerthin plentynnaidd achosodd hynny!
Y cam nesa oedd eistedd gyda'n traed mewn dwr llawn tegeirios tra bo'r therapydd yn golchi'n traed a ninnau'n yfed te jasmin!!
Erbyn hyn roedd gwallgofrwydd HK wedi hen ddiflannu o'r cof!
Roedd y gwely tylino yn beth gwahanol iawn fodd bynnag.
Gorweddai'r ddau ar ddwr ac wedi gwneud ein hunain yn gyfforddus arnynt gofynnwyd inni pa mor egniol oeddem ni am gael ein tylino a phenderfynais i fynd am gryfder cymedrol gan nad oeddwn am adael y lle yn gleisiau'i gyd!
Roedd yn ddewis da gan i'r 90 munud a ddilynodd fod y peth agosaf at nefoedd a brofais erioed!
Yn wahanol i sawl massage, rydych yn dal i wisgo'ch dillad a dydyn nhw ddim yn defnyddio olew nac eli dim ond pwysau corff y therapydd sydd yn erbyn eich corff.
Ar un adeg, maen nhw'n eistedd ar eich cefn ch!
Rhaid cyfaddef eich bod yn teimlo fymryn yn benysgafn ar ddiwedd y dydd ond mae'b brofiad gwerth chweil ac yn gychwyn perffaith i'n gwyliau gydag ambell i goctel a gwylio'r haul yn machlud.
Eliffantod ym mhobman Waeth ble chi'n troi yn Thailand mae yno eliffant!!!! Perffaith os oes plentyn dwyflwydd gyda chi.
Gan mai dyma ail drip Ela Mai yno eleni mae hi'n ffan mawr y creaduriaid er na welodd hi erioed un go iawn tan eleni.
Ond pan ddaeth hi wyneb yn wyneb ag un rwy'n synnu nad oedd ei sgrechfeydd i'w clywed yng Ngymru!!!
Ta beth, ar ôl eu gweld sawl gwaith dros y pythefnos daeth i arfer â nhw ond, yn anffodus, nid oeddwn yn ddigon hyderus i fynd â hi ar daith eliffantod fel y bwriadwyd.
Ond o leiaf mae'n ddigon hapus cwtsio lan gyda Hwmffre, ei heliffant bach coch bob nos!!!!
|
|