|
|
Drama mewn parti
Gyda'r babi ar fin cyrraedd yr oedd Beks yng nghanol drama mewn parti pen-blwydd yn Hong Kong
|
Mae gan fabanod eu agenda eu hunain! Roedd Ela Mai yn benderfynol o gyrraedd y byd yn gynnar gan ddod bum wythnos yn fuan.
Roedd hynny'n nodweddiadol iawn o'i harwydd hi - Taurus.
Mae'r baban yma, ar y llaw arall, yn gwbwl gyfforddus ym mol mam a dim bwriad ganddo/i gwrdd a phawb sy'n aros mor eiddgar.
"Mam? Dad? Chwaer Fawr? Ffrindiau bach? Beth yw'r rhain o gymharu â'r hwyl dwi'n gael yn fan hyn?"
Deugain wythnos Wrth sgwennu hwn rwyf bron iawn a chyrraedd deugain wythnos lawn a dim arwydd o gwbwl fod y babi am ddod!
Tybed a fyddaf yn feichiog am weddill fy oes? Rwy'n erfyn am beidio â bod credwch chi fi!
Mae'r profiad o fod mor feichiog a hyn a byw mewn gwlad fel HK o gymharu â Chymru yn gwbwl wahanol - ac un peth sylfaenol sy'n achosi hyn, y gwres!
Bu'r tymheredd yn y tridegau a'r humidity yn uchel iawn ers dyddiau.
Fel petai hynny ddim digon, does dim lifft da ni i'r fflat fel y rhan fwyaf o'r adeiladau Stanley - mae'n adeilad low rise gyda'r hyn maen nhw'n alw yn walk up neu, yn fy achos i, crawl up!
Rwy'n hel meddyliau am gael un o'r cadeiriau yna sy'n eich cario i ben y grisiau!!
Beth ddigwyddodd i'r freuddwyd am y wedges Gucci diweddaraf? Daw honno'n ôl mewn rhyw wythnos gobeithio?
Dau ddewis Dim ond dau ddewis sydd yna i geisio cadw'n weddol cŵl mewn gwres o'r fath; cuddio mewn adeilad gydag oerydd - air conditioning - da neu ymdrochi mewn pwll nofio am oriau - yr unig gyfle gewch chi i anghofio'r holl bwysau ychwanegol!
Rwyf i'n tueddu i fynd am yr ail ddewis gan fod hynny, o leiaf, yn rhoi cyfle ichi weithio ar y lliw haul a chadw'n heini ar yr un pryd!
O ganlyniad, bu clwb pêl-droed HK yn ail gartref imi'n ddiweddar ac rwy'n adnabod y fwydlen tu chwith allan erbyn hyn.
Gair o gyngor os ymwelwch chi byth â'r lle - ewch am y salad Groegaidd!!!
Parti pen-blwydd Er yr holl ymlacio ac ymdrochi yn y dŵr bu ambell i ddrama dros yr wythnosau diwethaf ... gallwch ddibynnu arnaf i am hynny er nad oedd hi'n fwriad gen i o gwbl roi bachgen bach pedair oed yn y cysgod yn ei barti pen-blwydd ei hunan!
Cafodd Ela wahoddiad i'r parti oedd yn cychwyn am hanner awr wedi naw un bore Sul mewn parc ar draeth cyfagos Chum Hum Kok.
Roedd yn amlwg o doriad gwawr y byddai hwn yn ddiwrnod ofnadwy o boeth ac fel y digwyddodd trodd yn un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn hyd yn hyn.
Ta beth, mae tua 300 o risiau yn arwain lawr at y parc ac wedi cyrraedd yno'n ddiogel teimlwn yn go lew a'r plant yn rhedeg i bobman.
Penysgafn Ond wedi rhyw hanner awr o sgwrsio gyda ffrindiau yn eistedd ar wal isel dechreuais deimlo'n sâl iawn ac yn benysgafn a methu a chael fy ngeiriau allan!!!
O fewn eiliadau, roeddwn fel sach o dato ar y llawr!!! Sôn am ddrama!
Yn naturiol, roedd pawb yn meddwl fod y baban ar ei ffordd a bu galwadau ffrantig am Rod.
Druan ohono, neidiodd i'r car ac o fewn munudau yr oedd ar y traeth lle'r oeddwn i'n eistedd ar y llawr gyda thywelion yn llawn rhew dros fy nghefen a thros fy mhen gan deimlo'n gwbl erchyll ac yn edrych fel wn i ddim be!
Treuliais weddill y diwrnod yn ein stafell wely dywyll gyda'r AC!!!
Diolch i'r drefn, fu yna ddim anturiaethau tebyg ers hynny!
Felly, o fewn diwrnodau, y gobaith yw byddaf yn fam unwaith eto!
Ni allaf ond byw mewn gobaith????!!!!!
|
|