|
|
Byw gyda SARS - byw wedi SARS
Bydd Hong Kong yn trechu SARS ac ail-fywiogi meddai Beks Walters sy'n byw yn y ddinas. Yma, mae'n sgrifennu am bwysigrwydd bod yn gadarnhaol wrth ddygymod a'r bygythiad.
|
Gyda SARS (Severe Acute Respiratory Syndrome)wedi newid meddylfryd a hwyliau pobol Honkers, mae'r sefyllfa yn gwaethygu yn ddyddiol ac yn ôl adroddiadau y South China Morning Post mae pobol yn dioddef o iselder ysbryd oherwydd eu hofnau. Mae'r sinemâu I gyd yn wag, 20% o dai bwyta yn darogan byddan nhw yn gorfod cau, pob gwesty mawr crand ar yr ynys bellach yn edrych fel rhywbeth allan o set ffilm cyn I'r actorion gyrraedd.
Rhaid cyfaddef, tydi gweld y rhan fwyaf o'r bobol o'ch cwmpas gyda mygydau dros eu hwynebau ddim yn gwneud I chi fod ishe chwerthin mae bywyd yn rhyfedd iawn. Ond er hyn, rhaid clatsio bant wedi'r cyfan, dyma ein cartref ni, dyma lle mae'n bywyd dyddiol. Gin 'n slim trwy fwgwd Felly, er gwaethaf yr holl ddifrifoldeb o'n cwmpas mae agwedd bositif yn ein ty ni a phenderfynwyd fod yn rhaid dechrau dathlu pethau da bywyd. Wedi'r cyfan, mae mwy i Hong Kong na SARS a cheisio yfed Gin n slim trwy fwgwd mewn bar!!!
Dydd Llun oedd dechrau pethau! Mae'n gwbwl amhosib mynd yn agos i gampfa ar y foment oherwydd yr afiechyd a rhyngddo chi a fi roeddwn yn dechrau troi'n bwdryn ofnadwy da'r pinch more than an inch yn troi'n droedfedd o gwmpas fy nghanol ar ôl gormod o dim sum a noodles!
Rhedeg ar y traeth Rydym ni'n bobol gyfoethog iawn o ran lleoliad ein cartref sydd rhyw hanner munud o'r traeth, felly dwi nawr yn rhedeg ar hyd y traeth am rhyw awr bob yn ail fore.
Mae rhywbeth yn arbennig mewn gwneud hyn tua saith y bore - rhywbeth cathartig dros ben, sy'n eich ysbrydoli i fod yn bositif drwy'r dydd.
Dwi di synnu faint o bobol eraill sy'n amlwg yn ffafrio gweithio mas beth cyntaf yn y bore.
Mae'r pontoons eisoes wedi cael eu gosod yn y môr ar gyfer yr haf a dwi'n aml yn gweld pobol oddeutu 60 yn nofio allan atynt - os na, maent fel arfer yn gwneud Tai Chi ar y traeth.
Gan ei bod hi'n annoeth mynd i ganol dre, i'r siopau a'r lleoedd bishi fe benderfynodd criw ohonom y byddai treulio diwrnod allan yn awyr iach y môr yn syniad da.
Dianc ar junk Ac fel mae'n digwydd mae dydd Sadwrn bellach yn un o fy hoff ddyddiau yn HK. Taith ar Junk i Sai kung gyda rhyw 14 ohonom ar ei bwrdd yn hwylio allan o'r harbwr gyda Bloody Marys yn ein dwylo i helpu da'r tonnau! Does dim byd yn fwy hamddenol na gorwedd ar long gyda golygfeydd arallfydol o'ch cwmpas, cwmni da, Tom Jones yn cael ei chwarae yn uchel iawn a'r haul yn tywynnu'n braf - nefoedd!
Ar ôl bod ar y junk daeth yn amser bwydo'r criw meddwol a hynny mewn bwyty ble chi'n dewis eich pysgodyn yn fyw mewn tanc a hanner awr yn ddiweddarach mae'r creadur druan yn nyfnderoedd eich boliau!!
Lobster, prawns, cranc a'r math yna o fwyd môr oedd wedi cymryd ein ffansi ni a rhaid cyfaddef roedd hi'n dipyn o joban dewis a dethol y gorau allan o'r cannoedd yn y tanciau. Ta beth, roedd y gwin yn llifo ac ymdrechion fy holl waith caled yn rhedeg bob bore yn prysur fynd yn ofer!!!! Bod yn obeithiol Wrth hwylio nôl i'r harbwr yn gwerthfawrogi un o skylines prydfertha'r byd yn oleuadau i gyd, roedd fy agwedd tuag at Honkers yn un gobeithiol.
Odw, rwy'n gwybod y bydd hi'n ôl ar ei thraed o fewn misoedd ac yn mabwysiadu yr agwedd bositif a llawn bywyd mae pobol ar hyd a lled y byd wastad wedi'i gysylltu â hi.
|
|