|
|
Byw hunllef darlledwraig . . .
"Hunllef fwyaf cyflwynwraig radio yw bod yn hwyr i stiwdio a methu a'i gwneud hi ar amser i gyflwyno sioe," meddai Beks, yn ei llythyr diweddaraf o Hong Kong.
|
A dyna'n union a ddigwyddodd i mi yr wythnos hon. Grêt!!!
Ac ar ben hynny roeddwn i'n gwybod bod cyfweliad pwysig da fi o fewn awr gyntaf y sioe yn ymwneud ag "operation Santa Claus" sy'n cyfateb i Blant Mewn Angen acw!
Os oedd angen rhywbeth arnaf, sled Sion Corn oedd honni i'm chwipio o ganol y traffig a fy hedfan draw i'r stiwdio yn Kowloon Tong.
Neb yn symud Roeddwn yn cyflwyno sioe amser cinio drwy'r wythnos gyda Radio.3/RTHK ac ar fy niwrnod olaf aeth popeth o chwith.
Gan ein bod yn byw ar ochor ddeheuol yr ynys, mae'n rhaid inni fynd drwy dwnnel i ganol yr ynys a'r dref a draw i Kolwoon lle mae RTHK.
Mae'n rhwydd mynd drwy dwnnel Aberdeen fel rheol, amser cinio, ond daeth yn amlwg fod rhywbeth o'i le pan nad oedd yr un car yn symud o fewn tua chwarter milltir o'r twnnel. Problem! Eisteddais yno yn methu'n deg a symud am tua chwarter awr ag yna fe gaewyd y twnnel!
Roedd pobol yn gweddu pethau ar ei gilydd o'u ceir dweud eu bod yn gwrando ar y radio i gael y newyddion diweddara.
Grêt - os ydych chi'n deall Cantonaeg.
Ar adegau fel hyn y bydda i'n gwir ofidio na wnes i ddyfalbarhau â'r syniad o fynychu dosbarth nos!
Wedi crwydro o'r car deallais fod damwain erchyll gyda phump o geir yr ochor arall i'r twnnel ac nad oedd yn fwriad da'r heddlu i agor twnnel.
HELP! Roedd yn rhaid meddwl yn glou iawn a ffonio'r gwaith i egluro.
Yr awgrym oedd imi yrru i orsaf MTR (trên tan ddaear) a theithio gyda'r trên i ochrau Kowoloon.
Er bod hyn yn swnio'n syml y gwir amdani oedd y cymerai gryn amser, a hithau'n amser cinio yn un o ddinasoedd mwyaf bishi y byd, i gyrraedd gorsaf MTR.
Yn chwys domen Ta beth, gyda fy jeans beichiogi bron iawn â chwympo hanner ffordd lawr fy mhen ôl rhedais drwy gorsaf Admiralty a dechrau ar y daith hanner awr tuag at Broadcasting House ... a minnau i fod ar yr awyr yn barod.
Yn ffodus i mi, fe wnaeth cyflwynydd arall ddechrau'r sioe ar fy rhan gyda cherddoriaeth yn unig.
Erbyn imi gyrraedd y stiwdio roeddwn yn chwys domen a bron i hanner awr yn hwyr!
Er fy mod yn cofio geiriau yn dod allan o fy ngheg wedi agor y meic does gen i ddim syniad beth ddywedais i!
Profiad Nadolig bythgofiadwy nad ydw i eisiau gweld ei ail adrodd!
Paratoadau'r Nadolig Ar nodyn hapusach mae'r' paratoi wedi bod yn fishi iawn i un ferch fach yn ein tŷ ni gydag Ela Mai wedi bod yn canu yn ei chyngerdd ysgol Nadolig ac yn perfformio yn ei dosbarth bale!
Dwi ddim o'r farn ei bod yn dwli ar y spotlight ond o leiaf mae nawr yn fodlon camu i'r llwyfan sy'n dipyn o ddatblygiad o gymharu a'r llynedd.
Yr ydym wedi bod yn brysur hefyd yn sgwennu at Sion Corn a'r gobaith mawr yw, y bydd Ela Mai yn dod adref i HK wedi ei gwyliau ym Mhrydain ac bydd Sion nid yn unig wedi dod â gwely "merch fawr" iddi ond wedi ei osod yn ei hystafell!!!!
Mae hyn yn ogystal a'r llyfrau My Little Pony ac Angelina Ballerina, fideo Annie a doliau Polly Pockets!
Canu a chystadlu Rwyf wedi cynhyrfu'n lân gyda dychwelyd i Brydain gan y byddaf yn gwylio fy chwaer yn nghyfriath, Sioned, yn cystadlu yn y live showdown o'r rhaglen deledu 成人论坛 1, Can't Sing Singers.
Byddwn ni yno gyda'n baneri Cer Amdani Sioncs!
Y dydd canlynol rydym bant i Glasgow i aros gyda fy chwaer a'r teulu ac wedyn yn hedfan i Gymru i dreulio'r Dolig yn y gorllewin.
O leiaf dydi penderfynu beth i'w daflu i'r câs ddim yn broblem eleni gan mai ond llond dwrn o ddillad beichiogi sydd 'da fi gan eu bod mor ofnadwy o ddrud yn HK.
Pwy a ŵyr ... falle bydd Santa ddigon hael ag i gofio amdanaf.
NADOLIG LLAWEN BAWB!!!
|
|