Dyna sut rydw i'n teimlo yn ystod cyfnodau pan fo dathliadau diri yng Nghymru - penblwyddi, priodasau ac, wrth gwrs, Dydd Gwyl Dewi.
Eleni, roeddwn i fod yn 'MC' dathliad blynyddol Cymdeithas Dewi Sant Hong Kong ond, yn anffodus, cafodd yr hen 'asthma' y gorau arnaf!
Dyna lle'r oeddwn i yn dioddef adre tra bo'r rhan fwyaf o fy ffrindiau Cymreig yn gwrando ar Cliff Morgan yn arwain noson o fwyta, yfed a gwrando ar gôr meibion HK yng ngwesty crand y Shangri-La, Kowloon.
Y flwyddyn nesaf mi fyddaf yn well!!!
Yn yr ysgol Ta beth, diolch i'r drefn roedd hwyliau tipyn gwell arnai erbyn Mawrth 3 pan gytunais i fod yn fam gydwybodol yn gwneud cyflwyniad Gwyl Dewi yn ysgol fach Ela Mai.
Sôn am brofiad afreal!!! Mae Ela'n mynd i ysgol fach Montessori leol yn ein pentref ni, Stanley.
Saesneg ydy'r brif iaith a'r plant yn dysgu ychydig o Cantonese a Mandarin hefyd. Ydyn, maen nhw'n mynd i fod yn blant bach glyfar tu hwnt!!!
Yn ogystal â'r ieithoedd yma, mae nifer o'r plant yn siarad iaith arall adref; Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac ati gan fod plant o bedwar ban byd yn byw yn ein hardal ni.
Mae'r brifathrawes - sy'n dod o Sri Lanka yn wreiddiol ac yn brifathrawes ar ysgol Montessori arall yn Singapore - yn awyddus tu hwnt i'r plant ddysgu am ddiwylliannau eraill.
Wedi gwirioni O'r herwydd, roedd hi wedi gwirioni pan gynigais i sôn am Ddydd Gwyl Dewi wrth y plant.
Er i Chiara, y brifathrawes, fod yn gyfrifol am ysgolion Stanley a Singapore am 20 mlynedd doedd hi erioed wedi dathlu Mawrth 1. Roedd y disgwyl yn fawr!
Dechreuodd y dathliadau yn fore gyda 'Mmami' yn chwilio am daffs mewn tua 20 o siopau blodau ond er yr holl chwilota, siom a gefais.
Er na wyddwn i, rhaid archebu'r blodau melyn sydd mor gyfarwydd i ni yng Nghymru o'r Iseldiroedd neu Seland Newydd ddeng niwrnod ynghynt ac rwyf innau wedi gwneud nodyn o hynny yn fy nyddiadur 2005!
Felly, bu'n rhaid I Ela Mai a Mami fodloni ar flodau ffelt.
Wrth ei bodd Yn ffodus i mi, mae Els wrth ei bodd yn gwisgo lan; Snow White, tylwyth teg, Tinkerbell, Spiderman, mae cymeriad gwahanol yn eistedd wrth y bwrdd brecwast bob bore!
Felly, ni chefais unrhyw drafferth dwyn perswâd arni i wisgo ei gwisg Gymreig a chael photoshoot cyn cychwyn!!!
Roedd gennym lond sach Cymreig gan gynnwys tair torth frith wedi eu pobi gennym y diwrnod cynt.
Byddai Dudley wedi bod yn browd iawn ohonaf!
Cawsom groeso cynnes yn yr ysgol lle'r oedd 50 o'r rhai bychain wedi bod yn fishi yn gwneud cennin Pedr allan o focsus wyau ac wedi bod yn lliwio lluniau o Ddewi Sant a'r faner Gymreig.
Eglurais innau iddynt pwy oedd Dewi Sant a phwysigrwydd y diwrnod i ni yng Nghymru - y gwisgo lan, eisteddfodau, cawl, bara brith, cennin, y cwbwl lot!
Roedden nhw wrth eu boddau'n gweld Ela, eu ffrind ysgol, mewn dillad gwahanol iawn i'r arfer ac yr oeddynt i gyd yn fwrlwm o gwestiynau!
Nid yn unig eglurais iddyn nhw sut i wneud bara brith ond dysgais eiriau Cymraeg fel bore da, diolch ac ati iddyn nhw.
Wedyn, darllenais o lyfrau Sali Mali gan gyfieithu wrth fynd ymlaen. Roedd ambell i un bach yn meddwl ei bod yn debyg i Olive Oil!!!
Yr unig un Wedi awr o siarad daeth yn amser gadael Ela Mai yn yr ysgol ond haws dweud na gwneud gan i'r un fach dybio fy mod i yno am weddill y diwrnod!
Do, mi ddaeth y dagrau ond rhaid oedd gadael.
Erbyn imi ei chasglu o'r ysgol, roedd y dagrau wedi diflannu a chawsom sawl edrychiad o edmygedd tra'n cerdded adref.
Wedi cyrraedd adref roedd yn gas gen i dynnu'r wisg oddi arni a hithau yr unig ferch fach imi i'w gweld yn gwisgo gwisg Gymrieg ar Fawrth y cyntaf yn Hong Kong.
Dwi'n cyfaddef imi deimlo gwir hiraeth y noson honno.
|