|
|
Duran Duran - a wynebu Wal China
Beks yn sgrifennus o Hong Kong
|
Rhaid cyfaddef, er fy mod nawr hanner ffordd drwy fy nhridegau mae ambell i seren bop ac actor o fy mhlentyndod yn dal i wneud i'm calon guro yn gyflym iawn!!
Cefais gyfle i wireddu hen ddymuniadau yn ddiweddar pan ymwelodd un o fy arwyr â Hong kong - Simon Le Bon a Duran Duran!!!!
Sôn am fod yn 15 eto!
Pan gadarnhaodd y wasg fod un o supergroups yr Wythdegau yn dod i Hong Kong am un noson yn unig roedd fy ffôn a'm e- bost ar dân!
Roedd pob menyw - ac ambell ddyn eisiau gweld y band ac ail fyw'r teimlad yna o ddawnsio o gwmpas y stafell wely gyda sychwr gwallt yn un llaw yn canu Girls On Film tra'n syllu i fyw llygaid poster Simon ar fy nghwpwrdd dillad!
Tra'n paratoi yn fy stafell wely yn HK noson y cyngerdd ni allwn ond dyfalu sut oedden nhw'n teimlo i fod yma.
Ble oedden nhw'n aros? Beth oedd eu disgwyliadau? Sut oedden nhw wedi newid?
Yn amlwg, roedd pawb bownd o fod wedi heneiddio - ond heneiddio mewn ffordd da?! Roeddwn i'n ysu i'w gweld!!!
Profiad rhanantus Yn Kowloon roedd y cyngerdd nid ar ynys HK ei hun ond pa wahaniaeth am hynny gan fod hwylio ar y Star Ferry bob amser yn brofiad rhamantus hyd yn oed heb fod yn teithio i weld yr eilunod hyn!
Roedd yr arena yn Kowoloon dan ei sang - rhai yn gwisgo dillad yr Wythdeagu a'r rhan fwyaf yn eu tri a'u pedwar degau ac fel minnau wedi tyfu lan yn gwrando ar hits mawr y bois.
Ac ni siomwyd neb!
O'r eiliad cerddon nhw ar y llwyfan daeth yn amlwg eu bod nhw'n dal i fwynhau pob eiliad.
Agorwyd y noson gyda thrac o'r albwm newydd Red Carpet Massacare. Yna daeth y ffefrynnau un ar ôl y llall - Hungry Like the Wolf, The Reflex, Wild Boys, Notorious, Save a Prayer ...
Er iddi ymddangos yn debycach i Glastonbury nag i Hong Kong gyda glaw difrifol doedd dim amheuaeth o gwbl fod y dorf yn mwynhau pob eiliad.
Roedd Simon Le Bon yn showman o'r cychwyn i'r diwedd, yn siarad dipyn da'r dorf ac yn gloi i ddweud bod yr hyn roedd e'n ei wynebu - skyline Hong Kong - yn un o'r pethau greodd yr argraff fwyaf erioed arno mewn cyngerdd ac yn dipyn mwy trawiadol na chefndir eu llwyfan nhw.
Uchafbwynt y noson Ar y cyfan, roedd pawb wedi heneiddio dipyn ond wi'n credu fod hwn yn fwy amlwg nawr gan eu bod yn perfformio gyda llai o golur nag yr oedden nhw - yn enwedig Nick Rhodes!
Uchafbwynt y noson heb os oedd Rio - sef finale y band!
Hon oedd y dorf wedi bod yn aros amdani drwy'r nos ac roedd ei chadw tan y foment olaf yn wyrth!!
Sut gellid gorffen gydag unrhyw gân arall?
Tra yn teithio'n ôl i ynys HK y noson honno teimlwn fy mod ishe i'r noson barhau am oes a minnau'n teimlo tua 16 eto - prin gallai gredu y bydd Ela yn mynd i gyngherddau tebyg mewn rhai blynyddoedd!
Diolch am ddod i HK am noson fechgyn gan ein bod yn aml yn cael ein anghofio gan y bandiau mawr wrth iddyn nhw fwrw Bangkok a Singapore .
Paratoi i wynebu'r Wal Fawr Bu Ebrill yn fis o ymdrech a minnau'n paratoi ar gyfer rhedeg hanner marathon ar Wal Fawr China!!!
Rhedais un hanner marathon yn bariod ond pan glywais am y ras hon doedd ond un peth amdani - trefnu trip i Beijing a mynd amdani!
Bu'r gwaith ymarfer yn gwbwl wahanol i ymarfer arferol ar gyfer rhedeg ar heol wastad gan fod y wal yn mynd i fod yn daith anodd gyda milltiroedd o risiau serth yn hytrach na wyneb gwastad.
Bwrw'r mynyddoedd Felly, dwi di bod yn bwrw'r mynyddoedd am gwpwl o oriau tua phedair gwaith yr wythnos yn y gobaith o ennill nerth yn y coesau.
Dwi erioed wedi ymweld â'r "Wal" na Beijing o'r blaen a dwi'n credu y bydd ymweld â'r ddinas nawr - cyn yr Olympics - yn brofiad gwerthfawr ac rwy'n gobeithio y bydd gennyf atgofion anhygoel am fy nhaith gyntaf i Beijing.
Ond yn y cyfamser ... mwy o redeg!!!!
|
|