|
|
Rhyfeddodau rhwng pedair wal
Yr wythnos o'r blaen dwi'n credu y gallwn ni fod yn gweithio i fwrdd twristiaeth HK! - meddai Beks Walters yn ei chyfraniad diweddaraf o Hong Kong.
|
Do, bu'n rhaid imi frwsio lan dipyn ar fy local knowledge gan mai fy ngwaith oedd croesawu criw teledu arall o Brydain draw yma - yr eildro o fewn mis!
A'r un peth oedd gan y rhain mewn golwg â'r criw cyntaf - ffilmio rhaglen deledu yn ymwneud a HK.
GMTV oedd yma bythefnos yn ôl ond tro 04 Wal S4C oedd hi y tro hwn.
Gan fy mod yn adnabod criw Teledu FFLIC ers blynyddoedd roeddwn wedi ecseitio'n bost pan ddywedon nhw eu bod yn awyddus i ddod draw i Honkers er mwyn busnesa o gwmpas ein fflat ni yn ogystal â fflat pensaer talentog o Gymru.
Do fe fm i'n fishi yn twtio a chymoni am ddyddiau.
Magu anghenfil! A minnau yn magu anghenfil o hangover ar ddydd Sul wedi hen night fy ffrind fe wnes fy ffordd draw i'r maes awyr i gwrdd ag Aled Sam, Rhodri, Llion a Gwenda.
Roedd o'n deimlad rhyfedd croesawu cyfeillion o Gymru gan mai nhw oedd y bobol gyntaf i ymweld â ni ers imi symud i Honkers bron i flwyddyn yn ôl ac roeddwn bron marw ishe dangos popeth iddyn nhw. Wedi'r cyfan, mae fy myd i wedi newid dros nos a rhaid cyfaddef fod siarad am yr hen amser a dala lan a chlecs y cyfryngis yn gwneud imi hiraethu am Gaerdydd.
Roeddwn i wedi bod yn gwneud y gwaith ymchwil i'r sioe ers rhai wythnosau gan drefnu i'r criw aros yng ngwesty'r Peninsula ar ochor Kowloon.
Dyma yn un o westai mwyaf trawiadol y byd o ran pensaernïaeth a felly yn berffaith ar gyfer y rhaglen.
Mae'r lobi yn un o lleoedd mwyaf urddasol i gwrdd gyda byrddau marmor a siandeliers anferthol.
Mae ty bwyta Felx ar yr wythfed llawr ar hugain ac wedi ei gynllunio gan y cynllunydd avant- garde, Philppe Starck.
Mae golygfeydd trawiadol o harbwr Victoria, ynys HK a Kowloon o fan hyn ac rwy'n credu i'r criw gael llawer o hwyl yn ffilmio yn nifer o fannau cyffrous y gwesty gan gynnwys un ystafell wely sydd tua maint ein fflat ni felly roedden mewn bach o bryder cyn iddyn nhw gyrraedd!!!!
Chwaeth nid maint Diolch i'r drefn nid maint sy'n bwysig yn nhyb 04 Wal ond chwaeth. (Dyna fy stori i tabeth!)
Mae'n fflat wedi ei ddodrefnu a'i arddurno mewn ffordd digon Chineaidd ac felly'n siwr o fod yn ychydig o agoriad llygaid yn enwedig o gofio i rai o'r criw ffilmio eitem da fi yn fy nghartref yng Nghaerdydd rai blynyddoedd yn ôl.
Cafodd Aled Sam dipyn o hwyl yn busnesa o gwmps ein hystafell wely yn ogystal â mwynhau bore hamddenol ar y to yng ngwres cynnes hydref HK!
A chafodd Ela gyfle i fod yn seren hefyd gan inni wneud ychydig o ffilmio ar y traeth sydd ond tua 30 eiliad o wâc o'r fflat.
Yn ogystal â 'gwaith' roedd hi'n hyfryd cael cico nôl da gwydraid o win a barbi gyda'r nos a gwneud y mwyaf o'r to hwnnw. Hyn oll a lot o siopa.
Mae siopau celfi yn Asia yn go wahanol i'r hyn sydd ar gael ym Mhrydain felly fe wnaeth y criw ffilmio imi wneud yr hyn rwy'n ei wneud orau - siopa!
Chwarae teg, cefais ambell i anrheg i'r ty oedd yn amseru perffaith gan ein bod yn cael ein parti dyweddïad, Sadwrn olaf y criw yn HK.
Diolch i'r drefn, doedd dim llawer o dwtio a thacluso i'w wneud cyn y parti gan fod y cyfan wedi'i gwpla a'i sortio ar gyfer y ffilmio.
Dim ond stocio fyny ar digon o siampên i ddisychedu'r pum mil oedd angen a pharatoi cannoedd o ddarnau dim sum, spring rolls, teryaki prawns, peeking duck a Thai chicken bites.
Coctels a chanapés ydy'r dyfodol credwch chi fi - wel mae hynny'n gwneud partis dipyn haws!!!
Noson fythgofiadwy Ta beth, fe drodd hi allan i fod yn noson arbennig; noson fythgofiadwy oedd yn ein caniatáu inni ddathlu gyda ffrindiau sy'n byw fan hyn yn HK yn ogystal â chriw o Gymru.
I ddweud y gwir dwi'n credu imi gyfri deg siaradwr Cymraeg yn y parti ar un adeg - bellach mae nifer sy'n byw yng Nghymru wedi ymadael â ni ond gwyddwn y byddai'n rhaid cyrchu am y maes awyr y Sadwrn wedyn ar gyfer cwrdd ag ymwelydd pwysig arall sy'n dod draw am y Dolig - Gu, fy mam!
|
|