Wel, dim llai nag argyfwng ein siopau bach lleol, y busnesau hynny sy'n gorfod brwydro'n ddyddiol i wneud bywoliaeth, y rhai hynny sy'n gorfod cystadlu'n ddi-baid yn erbyn yr archfarchnadoedd a'r siopau mawrion rhyngwladol sy'n brolio miliynau o elw pob blwyddyn. Yn ogystal â'i phobl, a'i chymdeithasau a'i chapeli, yr hyn sy'n gwneud pentref yw ei stryd fawr. Heb y siopau hyn, tlodaidd a marwaidd iawn fyddai'r gymuned.
Roedd yna gyfweliad gan ŵr busnes o Fangor yn ddiweddar, ym mhapur bro ein cymdogion. Yn y cyfweliad, roedd y gŵr yn dweud yr hoffai weld cynghorwyr Bangor yn gwrthod rhagor o geisiadau adeiladu gan y siopau mawr. Yn ei dŷb ef, byddai hyn yn rhoi achubiaeth i'r siopau bach sydd ar stryd fawr Bangor.
Mae'r siopau mawrion yn tagu busnesau bach ac mae'r effaith i'w deimlo yma ym Methesda hefyd. Un disgrifiad o hyn yw'r effaith a elwir yn effaith y 'polo mint', sef clwstwr o siopau mawr prysur ar gyrion dinas a'r stryd fawr yn wag.
Yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, rydym wedi colli nifer o wasanaethau lleol ym Methesda. Yn gyntaf, fe roddodd un o gyflenwyr llefrith yr ardal y gorau i ddanfon llefrith at ddrws y tÅ·. Yna, bu cwtogi ar ddanfon papur newydd yn y bore i rai ardaloedd. Yn fuan wedi hynny, caewyd siop y cigydd ac yna'r becws ar y stryd fawr. Mae hyn oll yn golled enfawr i ni fel ardal ac yn gwneud bywyd yn anodd iawn i rai, megis yr henoed.
Mae'n hawdd cymryd y gwasanaethau hyn yn ganiataol ond pan fo'r gwasanaeth neu'r busnes yn dod i ben mae'r golled yn glec i'r ardal.
Pan fo busnes newydd yn agor ar y stryd fawr ym Methesda mae'n achos dathlu. Rhaid ymhyfrydu yn hyn ac yn bwysicach cefnogi. Onid yw adeiladau ein stryd fawr yn llawer mwy deniadol fel siopau lliwgar yn hytrach nac fel cregyn gweigion llwydaidd?
Roedd y rhaglen Taro'r Post ar Radio Cymru yn trafod hyn yn bur ddiweddar, ac fe ddywedodd un dyn mai prin iawn yw siopau bach bob dim (ironmongers) erbyn hyn, ond bod Bethesda yn lwcus iawn am fod ganddi un o'r rhain. Ac oes, mae gan Bethesda siop fel hyn ac mae hi'n drysor.
Mae pawb ohonom yn mwynhau mynd ar grwydr i Landudno, Bangor, Caer neu Fanceinion i siopa, ond mae'n bwysig hefyd cofio am siopau Bethesda. Wrth reswm, chewch chi ddim popeth ym Methesda nac yn yr un pentref arall, ond mi gewch bethau buddiol a safonol.
Mae llawer o drigolion yr ardal yn gefnogwyr brwd i'r siopau hyn - mae hynny'n amlwg neu byddai'r siopau wedi cau ers talwm. Ond hwyrach bod 'na rai sydd heb ystyried y gallant siopa ym Methesda. Efallai eu bod yn gweithio y tu allan i'r pentref trwy'r wythnos neu'n anghyfarwydd â'r hyn sydd gan ein stryd fawr i'w chynnig. Mae'n rhaid i ni gefnogi'n siopau lleol, neu mi fydd y stryd fawr ar farw.