³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Coed Gwobr amgylcheddol
Hydref 2006
Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn gwobrwyo Grŵp Lleol o Ddyffryn Ogwen.
Yn ystod mis Medi, cyflwynwyd Gwobr Cymru Wledig i Coetir Mynydd, y grŵp cymunedol o Fynydd Llandygai.
Gwobr gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig ydoedd fel cydnabyddiaeth o waith y grŵp yn ardal Parc yr Ocar.

Cyflwynir Gwobrau Cymru Wledig, sydd bellach yn eu degfed blwyddyn o fodolaeth ac wedi'u noddi gan Swyddfa'r Post, mewn cydnabyddiaeth o waith sydd yn gwella'r amgylchedd ac yn rhoi budd i'r gymuned leol.

Er mwyn dathlu'r llwyddiant, ymunodd dau ar bymtheg o gangen Sir Gaernarfon YDCW a'r un nifer o aelodau Coetir Mynydd a'u cyfeillion (a sawl ci!) fore Sul, 3 Medi, yn hen weithdai'r chwarel yn Felin Fawr i ddechrau taith gerdded trwy goedwig Parc yr Ocar.

Sefydlwyd y grŵp yn 2000 dan arweiniad y Cyng. Gwen Griffith, mewn ymateb i fwriad y perchnogion i leihau lefel yr argae - a adeiladwyd yng nghanol yr 19eg ganrif er mwyn cyflenwi ynni i weithdai'r chwarel - oherwydd y gred ar y pryd ei fod mewn perygl o ddymchwel. Cymerodd y grŵp gyfrifoldeb am yr argae, y llyn a'r goedwig sydd yn llenwi'r dyffryn cyfagos. Ers ei sefydlu, mae'r grŵp wedi cadarnhau sefydlogrwydd yr argae, wedi clirio'r llyn a, gyda chymorth Cyd Coed, wedi rhoi'r goedwig dan reolaeth sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Mae llwybrau wedi eu creu at ddefnydd y cyhoedd ac mae waliau cerrig wedi eu hail adeiladu.

Yn ystod y daith gerdded bu nifer o'r rhai a fu'n ymwneud a'r gwaith amgylcheddol yn siarad am y cynllun. Siaradodd Mark Goddard, rheolwr prosiect Coetir Mynydd, am hanes yr argae; disgrifiodd Hefin Huws, oedd yn gyfrifol am y gwaith adeiladu waliau cerrig sych, yr hyfforddiant a'r swyddi y mae'r cynllun wedi ei ddarparu ac amlinellodd Bryn Williams y cynlluniau sydd yn eu lle i greu cynllun trydan dŵr yn yr argae (roedd y dŵr yn arddangos ei gryfder yn effeithiol iawn y prynhawn hwnnw!).

Cyflwynwyd y wobr, plac llechen wedi ei lungerfio, i Einir Frodsham, Cadeirydd Coetir Mynydd gan Michael Griffiths, Llywydd Cenedlaethol YDCW a chyn-gadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Dywedodd Michael Griffiths ei fod yn falch iawn o fod yn cyflwyno'r wobr i gynllun mor haeddiannol sy'n arddangos mor dda beth all cymuned leol ei wneud dros ei darn o gefn gwlad.

Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn clywed am y cynlluniau 'ynni gwyrdd' gan fod YDCW yn gefnogol i ehangu'r ystod o ffynonellau ynni adnewyddol. Mewn ymateb i hyn, dywedodd Einir Frodsham ei bod hi, oedd wedi ei magu ger y llyn a'r goedwig, yn falch iawn i fod ymglymedig â Coetir Mynydd sy'n y goedwig i'r cyflwr yr oedd hi yn ei gofio o'i phlentyndod.

Ar ôl y seremoni fechan symudodd yr ymgynulliad ymlaen trwy'r coed i'r Neuadd Goffa ym Mynydd Llandygai ble rhoddwyd cyflwyniad pellach o anerchiad y gwobrwyo i'r Cyng. Griffith, nad oedd yn gallu mynd ar y daith gerdded. Diolchwyd i Michael Griffiths ac YDCW am y wobr oedd yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr ac a fyddai'n cael ei harddangos yn y pentref.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý