|
Roedd y digwyddiad wedi ei drefnu gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel rhan o Wythnos Wyllt y 成人论坛.
Y bwriad oedd dathlu'r hydref drwy roi cyfle i bobl leol helpu i gofnodi'r cyfoeth o adar, anifeiliaid a phlanhigion sydd i'w gweld ar y safle.
Roedd yna 33 par o lygaid a chlustiau, yn ceisio adnabod cymaint o wahanol greaduriaid ag y bo modd yng nghynefinoedd y warchodfa, sy'n cynnwys coedwig, morlyn a fflatiau llaid Traeth Lafan.
"Cawsom ddiwmod arbennig", meddai Ben Stammers, Swyddog Bywyd Gwyllt a Phobl efo Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. "Mi roeddwn yn lwcus efo'r tywydd ac, ar 么l gwaith caled gan bob un 'ditectif natur', gwnaethom gyrraedd cyfanswm o 113 rhywogaeth.
"Rhaid o'r uchafbwyntiau oedd Hebog Tramor yn hedfan drosodd, Creyr Bach wrthi'n pysgota yn y lagwn, Cnocell Goed Fraith ar y cnau o flaen y guddfan, a ffrwythau coch y Winwydden yn y gwrychoedd.
"Fe wnaeth rhai o'r plant, a'u llygaid yn nes at y ddaear, yn arbennig o dda efo'r anifeiliaid llai - crancod a chregyn ar y traeth, a phryfaid hwyr fel y Fuwch Goch Gota yn y coed.
"Mae 113 yn gampus - ac mae gennym ni darged am y flwyddyn
nesaf. Mae safle Aberogwen yn safle mor arbennig - dwi'n gweld rhywbeth newydd bob tro dwi'n ymweld - felly pwy a wyr faint o wahanol greaduriaid sydd yn dal yna i'w cyfrif y tro nesaf."
Bwriad Ben yw codi ymwybyddiaeth am y safle, sydd wedi cael ei gynnwys mewn sawl rhaglen natur gan y 成人论坛 yn ddiweddar fel un o'r safleoedd gorau am wylio adar yng Nghymru.
Meddai Ben, "Dwi'n gobeithio y byddwn ni fel cymunedau ardal Bangor a Dyffryn Ogwen yn dechrau sylwi ar gymaint o drysorau sydd ar gael yn ein plith mae 'na fywyd gwyllt arbennig i'w weld yn Aberogwen trwy'r flwyddyn, ac mae'n agored i'r cyhoedd bob dydd, yn rhad ac am ddim!"
Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
376 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 lYE (01248) 351541 nwwt@cix.co.uk
|
|