Graddiodd Awen gyda BA Anrhydedd o Brifysgol San Steffan Llundain yn ddiweddar, wedi iddi gwblhau cwrs tair blynedd mewn dylunio ffasiwn. Yn dilyn hyn, dewiswyd ei chasgliad o ddillad "couture" o blith cannoedd o fyfyrwyr ffasiwn ledled Prydain i'w harddangos ar y "catwalk" yn Earls Court yn ystod wythnos ffasiwn graddedigion. Darlledwyd y Sioe yn fyw ar raglen Wedi 7 S4C ac ymddangosodd adroddiadau am ei gwaith mewn sawl papur newydd ple y crybwyllwyd mai hi, efallai, yw'r Stella MacCartney newydd.
Cefndir
Addysgwyd Awen yn Ysgol Llanllechid ac Ysgol Dyffryn Ogwen a thystia iddi gael y diddordeb a'r ysbrydoliaeth tuag at waith celf creadigol yn y Clwb Dwylo Prysur, Capel Carmel, Rachub dan hyfforddiant
Mrs Helen Williams. Yn dilyn hyn byddai'n cael llwyddiannau yn Eisteddfodau'r Urdd, yn arbennig gyda gwaith paentio ar sidan.
Gyrfa
Wedi gadael yr ysgol penderfynodd Awen ar yrfa academaidd ac aeth i Goleg Prifysgol Llundain i astudio'r Gyfraith.
Tra yn y coleg cafodd y cyfle i wneud profiad gwaith gyda sawl dylunydd ffasiwn blaenllaw - Alexander McQueen a Boudicca - enwogion yn y byd ffasiwn "couture" i enwi dim ond dau.
Defnyddiau
Mae Awen yn gweithio gyda lledr meddal, lliain a sidan. Mae'r coleri mawr ar y gwisgoedd wedi eu gwneud o ledr, pren ac arian a gellir eu datgysylltu o'r gwisgoedd. Ar sail y creadigaethau anhygoel yma enwebwyd Awen yn ystod y Sioe ar gyfer Gwobr Mulberry - cwmni enwog sy'n gwneud bagiau a defnyddiau ategol. Disgrifiwyd ei gwaith fel darnau o gelfyddyd.
Y Dyfodol
Ganol mis Gorffennaf bydd Awen yn ymuno a thîm y cynllunydd enwog Giles Deacon, yn Old Street, Llundain. Mae'r gwr yma yn cynllunio dillad "couture" ar gyfer pen ucha'r farchnad ffasiwn. Y prosiect cyntaf gyda'r tîm yma fydd dylunio a chreu dillad ar gyfer 'catwalk' Wythnos Ffasiwn Llundain.
Feddyliodd Awen erioed y byddai'n dod mor bell o Glwb Dwylo Prysur Capel Carmel ac mae ei diolch yn fawr i Mrs Helen Williams am roddi iddi brofiadau ac ysbrydoliaeth a'i cychwynnodd ar lwybr llwyddiant.
Llongyfarchiadau gwresog i ti Awen a phob dymuniad da ar gyfer y dyfodol.
Os am weld cynlluniau ffasiwn Awen, cliciwch ar y we ar 'catwalking.com' ac yna ar Awen Teifi.
|