Cefndir
Fe'm ganed yn Nhanysgafell, Bethesda ym 1964, yr ieuengaf o dri mab i Maldwyn a Joyce Williams.
Mynychais Ysgol Tregarth ac Ysgol Dyffryn Ogwen cyn ymuno a Manweb i wneud prentisiaeth fel trydanwr, gan weithio yn depo Caernarfon am 16 mlynedd. Rwy'n briod a Sue ac mae gennym ddau o blant (drwg!) Kirsty a Kieren.
Bum yn ffodus yn 1995 o gael tenantiaeth Gwern Gof Uchaf ac yno yr ydym yn ffermio llawn amser.
Yn 2005 penderfynwyd agor 'Cig
Ogwen' lle mae llawer ohonoch yn gweld Gwyndaf bob wythnos a finnau weithiau! Dyma gyfle i ddiolch i bawb am eich cefnogaeth.
Beth fyddwch yn mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden?
Ffermio!
Oes gennych hoff le yng Nghymru?
Cwm Tryfan - cerdded i fyny Braich y
Ddeugwm, ac edrych i lawr dras y stoc ar ddiwrnod braf.
Oes gennych hoff le y tu allan i Gymru?
Yr Yorkshire Dales - heb fod yno ers talwm ond mae gennyf atgofion melys o wyliau yno yng nghwmni Sue a'r plantos.
Beth yw eich hoff fwyd?
Cinio dydd Sul wrth gwrs - tatws rhost a chig Ileol.
Beth yw eich hoff raglen Gymraeg ar S4C?
Methu dewis rhwng dwy raglen sef Cefn Gwlad a C'mon Midffild.
Pwy yw eich hoff actor/actores o Gymru?
Neu gyflwynydd? Pwy ond Dai Jones - mae o wastad yn gallu'n diddanu.
A oes gennych hoff Iyfr Cymraeg?
'Oes o Fyw ar y Mynydd' gan Margaret Roberts o Glan Llugwy
Beth yw'r cyngor gorau a gawsoch erioed?
Cau dy geg a gwranda!
Beth sy'n eich gwylltio'n gacwn?
Gwaith papur heb fod eisiau, canolfannau galw a llysieuwyr!
Beth sy'n eich gwneud yn hapus?
Lerpwl yn curo Manchester United!