Ac er i ni glywed yr un geiriau bob blwyddyn: "Does 'na ddim lIawer o ddim byd yma!" neu "Dydi hi ddim cystal ag y buo hi erstalwm!", mae'r hen ffair ym mhentref Llanllechid yn dal i ddenu plant o bob oed!! Os cofiwch y penillion i Ffair Llan yn y lIyfr 'Beth am G芒n', mae'n dechrau fel a ganlyn: Mae diwrnod Ffair Llan wedi dyfod, Fel arfer mae'n tywallt y glaw Geiriau digon gwir gan amlaf! Rydan ni fel 'tasa ni'n disgwyl gwynt a glaw - sef 'tywydd Ffair Llan' bob blwyddyn, tua'r adeg yma! Ond eleni, roedd hi i'r gwrthwyneb - yn sych ac yn braf, ac fe dyrrodd pobl yno, er nad oedd cymaint o stondinau ag arfer. Mentrodd dyn camera'r Llais draw am y tro cyntaf ers blynyddoedd; a gwelodd fod pobl a phlant yn dal i fwynhau'r Ffair - a gwario mwy o bres bob tro!!
|