Priodi, pen-blwydd arbennig, swydd newydd, symud tÅ·^ - mae'r cyfan yn nodi rhywbeth sydd yn bwysig i ni, yn drobwynt, yn 'gerrig milltir'.
Ond, yn ogystal â'r materion yma, mae yna gerrig milltir go iawn i'w gweld o bryd i'w gilydd ar ochrau ein ffyrdd prysur.
Yn Nyffryn Ogwen, y cerrig milltir mwyaf nodedig mae'n siŵr yw'r rhai a osodwyd gan Thomas Telford ar ochr ei briffordd o Lundain i Gaergybi, sef yr A5.
Mae'r cyfan yn dilyn yr un cynllun, yn rhan o bensaerniaeth y ffordd, y pontydd a'r tollbyrth.
Eu diben, yn ddigon amlwg, yw dangos sawl milltir sydd i'w deithio cyn cyrraedd mannau eraill o bwys - a diddorol yw edrych ar enwau'r mannau hynny, gan nad ydynt bob tro'n cyd-fynd gyda'n barn ni heddiw am fannau pwysig.
Yn oes y ceffyl a'r drol, y 'go its fawr' a'r cerddwr, roedd pellteroedd yn bwysig, yn enwedig felly at y mannau hynny ble fyddai gwely am noson, neu bryd o fwyd, ar gael, cyn cychwyn eto ar daith fyddai efallai'n cymryd dyddiau i'w chwblhau.
Rhaid cofio hefyd bellach bod milltiroedd yn ddieithr i'n pobl iau fel dull o fesur pellter, a phwy (ar wahan i ddisgyblion Mr Lewis Hughes gynt, yn Ysgol Dyffryn Ogwen) sydd yn cofio sawl "furlong", neu ystad, sydd mewn milltir?
Ond nid yr A5 yw'r unig ffordd yn Nyffryn Ogwen i fod efo cerrig milltir ar hyd-ddi. Mae ambell un yma ac acw ar hyd y ffordd sydd yn cychwyn o Bont Tŵr, trwy Dregarth, am Gaernarfon.
Yma ac acw, yn anffodus, oherwydd nid yw'r cyfan wedi goroesi, ac mae hynny'n drueni.
Lledu ffyrdd yn sgil dyfodiad ceir sydd yn arni yn gyfrifol am ddiflaniad rhannau bychan ond pwysig yma o'n hanes neb yn gweld gwerth yn y garreg, a'r garreg ei hunan yn ddi-anghenrhaid i bob pwrpas yn sgil cyflymder y ceir, yn ogystal a'r ffaith fod tu mewn cysurus y car yn ein ynysu i raddau o'r byd tu allan.
Mae un o'r cerrig gyferbyn a mynedfa Eglwys y Gelli, Tregarth; un arall rhwng Felin Hen a Phant y Cyff; a'r drydedd rhwng Rhyd y Groes a Phentir.
O'u cymharu â cherrig milltir Telford, mae'r dair yma'n llawer mwy distadl.
Llechfaen sydd wedi ei ddefnyddio, ac mae siŵr, arweiniodd dro'n ôl at ddifrod sylweddol i'r garreg rhwng Felin Hen a Phant y Cyff.
Injan torri gwair ddaeth heibio ar ran Adran Priffyrdd y Cyngor Sir, y gyrrwr mae'n siŵr heb weld y garreg fechan yn llechu yn y tyfiant, ac mewn eiliad difrodwyd ochr chwith y garreg.
Sylwyd ar y difrod gan aelodau Cyngor Cymuned Llandygai, a cychwynwyd llythyru gyda'r Adran Priffyrdd.
Derbyniodd yr Adran honno ei chyfrifoldeb, a chytunwyd i weld beth dylid ei wneud er mwyn adfer y sefyllfa.
Doedd dim modd trwsio'r garreg wreiddiol, ac mi roedd y darnau a dorrwyd oddi arni gan y peiriant wedi eu colli.
Y cam mwyaf priodol, felly, oedd gadael y garreg wreiddiol fel ag yr oedd; ond mynd ati hefyd i gynhyrchu carreg newydd sbon, i'r un cynllun a'r gwreiddiol, gan osod honno ochr-yn-ochr â'r garreg wreiddiol.
Dyna sydd wedi digwydd, bellach, ac mae'r ddwy garreg bellach i'w gweld ar ochr y briffordd.
Mae un camgymeriad ar y garreg newydd. Cyfeirir arni at "Caernarvon" - ond, o edrych ar y garreg ger Rhyd y Groes, gellir gweld mai "Carnarvon" sydd wedi ei gerfio ar honno, ac mae'n bur sicr mai dyma fyddai'r sillafiad hefyd ar y garreg ger Felin Hen.
Gobeithio'n wir y caiff y ddwy garreg, yr hen a'r newydd, eu parchu gan y peiriannau torri gwair, ac y byddant o ddefnydd i genhedlaeth newydd o ddefnyddwyr y lôn, sydd yn beicio neu'n cerdded heibio.
Dafydd Roberts