Bloedd yr Hosanna Mai 2008 Noson arbennig iawn oedd nos Sul 20 Ebrill 2008 yn Nyffryn Ogwen.
Daeth doniau'r dyffryn ynghyd o dan arweiniad Menai Williams i lwyfannu gwaith pwysicaf Handel, sef y Meseia.
Union gan mlynedd cyn codi capel Jerusalem perfformiwyd Y Meseia
am y tro cyntaf yn Nulyn. Roedd Handel (1685-1759) yn cydoesi am gyfnod gyda William Williams, Pantycelyn (1717-1742) ond ar gyfer cyfarfodydd gweddol fychan y seiat yr oedd ef yn cyfansoddi, er i Howel Harries ymfalchio bod nifer dda wedi ymgasglu yn fferm ddiarffordd Y Wernos yn Sir Frycheiniog.
Yn ddiweddarach y codwyd yr addoldai mawr ac yn sicr roedd y torfeydd yn tyrru iddynt ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Braf oedd gweld adeilad hardd Jerusalem yn llawn ar gyfer y perfformiad modern hwn o'r Meseia.
Gobeithio mai dechrau adfer hanes diwylliannol a chrefyddol Y dyffryn oedd hyn.