Pwy, ble a sut medde chi? Wel darllenwch ymlaen!Llongyfarchiadau cynnes i Lowri Watcyn Roberts ac Elfed Morgan Morris ar ddod yn ail yn y gystadleuaeth Cân i Cymru 2005, gyda'u cân Mewn Ffydd. Mae Lowri yn un o olygyddion y Llais ac yn byw yn Nhregarth. Mae Elfed yntau a chysylltiadau â'r Dyffryn gyda'i fam, Meira Sherlock, yn dod o Fethesda.
Elfed oedd yn gyfrifol am yr alaw a Lowri yn gyfrifol am y geiriau. Yr hyn yr oeddent yn ei obeithio oedd na fyddai'r gân yn cyfyngu ei hun i un dehongliad. Mae yna wahanol ystyron iddi. Gall fod yn gân wladgarol, yn gân serch neu yn gân emosiynol iawn i berson unigol. Caiff pwy bynnag sy'n gwrando arni ei dehongli'n bersonol.
Cafwyd perfformiad pwerus, ystyrlon a theimladwy gan Elfed a bu cymeradwyaeth fyddarol iddo ar y diwedd.
A'r newydd gorau oll i'r ddau? Tair mil o bunnau o wobr!
Llongyfarchiadau hefyd i Lleuwen Steffan o Sling, Tregarth, ar ei pherfformiad gwefreiddiol hi yn yr un gystadleuaeth. Dyma'r trydydd tro i'r ferch dalentog yma sy'n canu gyda'r grŵp jazz, Acoustique, gystadlu yn y gystadleuaeth Cân i Gymru, ac wedi cystadlu â'i chyfansoddiad ei hun ar un achlysur.
Y tro yma roedd yn canu cân dan y teitl Hapus - yr alaw gan Dafydd Saer a'r geiriau gan Gwyneth Glyn. Geiriau hafaidd cariadus syml oedd y rhain meddai Gwyneth Glyn, i gyd-fynd â'r alaw. Roedd hi a Dafydd Saer yn hynod fodlon gyda dehongliad unigryw Lleuwen.
"Mae ganddi dalent arallfydol bron," meddai Gwyneth, "a phan gerddodd hi i mewn i'r stiwdio, roedden ni'n gegrwth."
Yn sicr, roedd perfformiad unigryw Lleuwen wedi gwneud cyfiawnder â'r gân yma, a byddwn yn clywed llawer mwy am y ferch dalentog yma.
Llongyfarchiadau y tro yma i Elliw Mai Hughes o Rhiwlas ar gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth 'Musical Theatre Young Singer of the Year 2005'. Cynhelir y gystadleuaeth yma yn flynyddol ac fe'i noddir gan Bryn Terfel.
Yn ôl tystiolaeth y beirniad roedd safon y gystadleuaeth yn arbennig o uchel eleni, gyda 60 wedi cystadlu yn y categori oedran 14-16, ble roedd Elliw yn cystadlu. Pedwar o'r 60 ddaeth i'r IIwyfan, ac Elliw yn un ohonynt.
Y gân a ddewisodd ganu oedd 'Yn dy Iygaid di', allan o'r sioe gerdd 'The Scarlet Pimpernel'. O'r holl gantorion yn yr holl gategorïau, dim ond Elliw ac un ferch arall ddewisodd ganu yn Gymraeg. Da iawn chdi Elliw!
Cynhaliwyd y gystadleuaeth derfynol yn Theatr y Pafiliwn, Rhyl, nos Sadwrn, 5 Mawrth, pryd y rhoddodd Elliw berfformiad proffesiynol o safon uchel.
Dyma lun o Beti Rhys - arweinyddes, a Delyth Vaughan - cyfeilyddes côr merched sydd newydd gael ei ffurfio yn Nyffryn Ogwen.
Mewn ymateb i hysbys am aelodau, a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror o'r Llais, daeth 25 o ferched ynghyd i'r cyfarfod cyntaf ac mae sôn fod llawer mwy â diddordeb. Meddai Beti Rhys: "Mae hyn yn gyffrous iawn, ac mae ymateb o'r fath yn argoeli'n dda."
Bydd y côr yma yn cystadlu yn ogystal ac adlonni, ac maent yn anelu i lwyfannu cyngerdd yn lleol, yn fuan. Ond prif amcan y côr, meddai'r arweinyddes, yw rhoi cweir i Gôr Meibion y Penrhyn yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen eleni. Gwyliwch eich cefnau hogia!
Ar nos Fawrth, 8 Chwefror croesawyd Gruff Rhys, Alun Tan Lan a DJ lleol - sydd bellach wedi ymgartrefu ym Mryste - sef Geraint Northam - i Neuadd Ogwen. Barn pawb oedd fod yr awyrgylch yn drydanol wrth groesawu Gruff Rhys - eilun cerddorol Bethesda a'r genedl - adre ac i lwyfan Neuadd Ogwen.
Hon oedd noson gyntaf taith hyrwyddo albym newydd Gruff Rhys, Yr Atal Genhedlaeth o amgylch Cymru yng nghwmni Alun Tan Lan, cerddor hynod boblogaidd sy'n prysur wneud enw iddo'i hun.
Roedd Neuadd Ogwen dan ei sang ac yn ôl Delyth Vaughan, Swyddog Datblygu Tabernacl (Bethesda) Cyf. a oedd yn trefnu'r gweithgaredd: "Does dim ond un gair i ddisgrifio'r noson - gwych!"
Sylw Tony Schiavone oedd: "Dwi heb weld sioe o'r fath ers amser maith. Hiwmor, cerddoriaeth o'r safon uchaf a gwreiddioldeb."