Yr achlysur oedd dadorchuddio'r ffenestr liw yng Nghapel Bethania wedi dwy flynedd o waith caled a chyson arni gan yr arlunydd preswyl hynaws Chris Bird-Jones o Langollen mewn cydweithrediad 芒 Cefyn Burgess. Yn 么l Cefyn, ffrwyth prosiect aelodau Clwb Celf Ogwen ac Ysgol Sul Bethania ydi'r ffenestr. Y bwriad yw iddi fod yn deyrnged in gorffennol yn y dyffryn drwy goffau Streic Fawr y Penrhyn a hefyd, ar ddechrau milflwydd newydd, i fod yn cynrychioli dechrau newydd, yn sicr dechrau gwell nag a gafwyd yn yr ardal hon ganrif yn 么l! Roedd y sicrwydd a'r gobaith i'r dyfodol sydd yn Salm 121, Dyrchafaf fy llygaid ir mynyddoedd . . . yn ystyriaeth bwysig iawn wrth fynd ati i lunio'r ffenest.
Nid ffenestr liw yn y dull traddodiadol mo hon, ac mae hi, felly, yn hollol wahanol i'r hyn yr oedd rhai ohonom wedi disgwyl ei gweld. Wedi dweud hynny, mae hi'n ffenestr hardd, liwgar a golau iawn, yn arbennig felly pan oedd yr haul yn disgleirio drwyddi fore Sadwrn. Yr hyn sydd yn hynod ynglyn 芒'r ffenestr hon yw bod y gymuned gyfan wedi cael cyfle i gymryd rhan yn ei datblygiad - ysgolion y fro, cymdeithasau ac eglwysi'r ardal, plant ac oedolion, i gyd wedi bod a rhan yn ei chynhyrchu.
Mae nifer fawr wedi ysgythru negeseuon o bob math ar y ffenestr drwyddi draw - ambell i englyn, pennill, emyn neu gwpled, rhai ohonynt er cof am anwyliaid gynt. Hefyd ambell neges o obaith i'r dyfodol. Yn 么l Chris Bird-Jones mae hyn yn atseinio un o hen arferion yr ardal, sef yr arferiad o gerfio enwau a negeseuon ar lechi, crawiau, pileri, pontydd a hyd yn oed ar seddi capeli ac eglwysi. Roedd Chris wedi sylwi eu bod yn britho'r fro, a dyna sut cafodd hi'r syniad i wneud rhywbeth tebyg hefo'r ffenest.
Wrth gwrs, mae'n rhaid i chi fod yn agos iawn at y gwydr i fedru darllen y negeseuon, ac mae'r hyn a ddarllenwch chi yn dibynnu hefyd ar y goleuni sydd yn llifo drwyddi o'r tu allan. Mae hwnnw'n gallu amrywio o funud i funud bron, h.y. rhan o swyn y ffenest yw eich bod yn medru gweld a darllen pethau gwahanol ar adegau gwahanol.
Roedd y capel dan ei sang ar y bore Sadwrn pryd y cafwyd cyfarfod gwerth chweil dan lywyddiaeth Cefyn Burgess. Yn cymryd rhan roedd ieuenctid Bethania, rhai o blant ysgolion y fro, C么r Ysgolion Cynradd Dyffryn Ogwen, C么r Ysgol Dyffryn Ogwen, Ysgol Sul Carmel Llanllechid, Manon Llwyd a'i thelyn, lochen yn cyfeilio, Debbie Allen a Jaquie Marshall (Genod Gospel o Gaerdydd) a Ch么r Gospel Dyffryn Ogwen. Pam dod 芒 dwy ferch tywyll eu croen i achlysur o'r math hwn? Pam dod 芒 blas y Carib卯 i Fethesda? Fe'n goleuwyd gan Cefyn. Y cysylltiad oedd y caeau siwgr yn Jamaica, ble gwnaeth teulu'r Penrhyn eu ffortiwn ar gefnau'r brodorion tlawd dros ganrif yn 么l!
I gloi'r Wyl gofiadwy hon cynhaliwyd Cymanfa Ganu lwyddiannus yng nghapel Bethania, gyda Mr Trystan Lewis, BA o Ddeganwy yn arwain a Mr D Wyn Williams wrth yr organ. Cafwyd darlleniadau gan Sioned Pearce a Sioned Jeffries, Bethania, ac offrymwyd gweddi gan Mair Owen Pearce. Mwynhawyd eitemau gan G么r Meibion y Penrhyn, Manon Llwyd, a Debbie, Jaquie a'r C么r Gospel. Y Parchedig Gwynfor Williams oedd yn llywyddu. Recordiwyd y Gymanfa ar gyfer Caniadaeth y Cysegr ar Radio Cymru.Braint oedd bod yn y ddau gyfarfod, a diolch i bawb yng nghapel Bethania ac i Bwyllgor Gwyl Goffau Streic Fawr y Penrhyn.