Ond mae cost cael yr hoffyrddiant i wneud y cwrs sy'n angenrheidiol i gael Trwydded Peilot Masnachol (CPL) yn arwswydus o ddrud. Fel y dywed Jon ar ei wefan yn 'Facebook' mae'n costio oddeutu £65,000 i wneud yr hyffroddiant o'r ddechrau i'r diwedd ond mae Jonathan yn benderfynol o gyrraedd ei nod oherwydd mae eisoes yn derbyn hyfforddiant ym Maes Aywr Caernarfon i gael Trydded Peilot Preifat (PPL). Punt gan bawb Yr hyn sy'n gwneud uchelgais Jon ychydig yn wahanol i'w ffaith ei fod yn apelio am gymorth gan bobl sy'n ddiarth iddo er mwyn cwbwlhau'r cwrs. "Fy nod yw cael 10,000 o aelodau i ymuno yn y ymgyrch a wedyn cael y bobl hynny i gyfrannu punt yr un i'r achos," meddai. Er mwyn ceisio perswadio pobl i wneud cyfraniad mae Jon yn addo rhoi o leiaf £20,000 i elusen gyda'r posibilrwydd o roi £15,000 - £20,000 arall unwaith iddo gyrraedd ei nod. Rhyddid "Nyrs staff yn adran Damweiniau ac Argyfwng Ysbyty Gwynedd ydw i ar hyn o bryd," meddai Jonathan, "ac rydw i'n gweithio bob awr o'r nos a'r dydd bron i geisio ennill digon o arian er mwyn i mi fedru talu yr hun alla i am y cyrsiau hedfan." Ychwanegdd, "Hedfan dros Bethesda a gweld tŷ mam o'r awyr a chael y teimlad o ryddid oedd y peth gorau i gyd, ac rôn i'n meddwl y buasai cael gweithio mewn 'swyddfa' sy'n edrych dros y cymylau yn swydd grêt ac mi fydda hi'n bleser cael codi yn y bora i fynd i'r gwaith."
Sialens Fel un o blant y Dyffryn a dderbyniodd ei addysg yn Ysgol Llanllechid ac yn Ysgol Dyffryn ogwen mae gan Jonathan ffydd mawr yn haelioni pobl yr ardal hon ac mae'n gwybod, "eu bod yn falch o weld rhywun lleol yn ceisio gwneud rhywbeth newydd ac yn gosod sialens iddyn nhw eu hunain."
|