Roedd hi'n hanner canrif a mwy ers y gwelwyd cymaint o siacedi lledr, brylcreem, gwalltiau "beehive" a sodlau uchel yn y Dyffryn, ond o mor braf oedd teithio'n 么l mewn amser a mwynhau orig fach yn asbri'r cyfnod a anfarwolwyd mewn un gair - "Grease"!
Penllanw tymor y Nadolig yn Ysgol Dyffryn Ogwen oedd llwyfannu cynhyrchiad o'r sioe gerdd 'Grease' yn ystod wythnos olaf y tymor. Mrs Linda Brown o'r Gerlan oedd yn cyfarwyddo ac o dan ei harweiniad hi bu criw o ddisgyblion talentog yn ymarfer yn galed gyda'r nosau ac ar benwythnosau am wythnosau i sicrhau fod y cynhyrchiad yn un i ymfalch矛o ynddo.
Yn ogystal a'r disgyblion oedd yn actio a chanu'r prif rannau yn y sioe, roedd bron i gant o rai eraill - staff a disgyblion yr ysgol yn gysylltiedig a'r sioe mewn rhyw fodd - yn y corws, yn helpu gyda pharatoi a pheintio'r set, yn gofalu am y gwisgoedd, yn gweithio ar y sain neu'r goleuo neu yng nghefn y llwyfan neu'n rhan o'r band.
Mae'n rhaid enwi Beca Roberts o Dregarth yn arbennig ymhlith y criw yma am ei gwaith pwysig iawn yn trefnu pawb tu 么l i'r llenni.
Bois y Band
Mr Hefin Evans, Pennaeth Cerdd Ysgol Dyffryn Ogwen, oedd yn gyfrifol am ochr gerddorol y gwaith, yn hyfforddi'r cantorion ac yn arwain y band. Roedd nifer o staff a disgyblion yn y band: Mr Alun Llwyd, y Prifathro, Ms Ann George, Pennaeth Gwyddoniaeth, Mr Dewi Gwyn, Cemeg, Jessica Callahan ac Alex Jones, blwyddyn 11.
Ms Eleri Mitchelmore oedd yn gyfrifol am y coreograffi a hyfforddi'r dawnswyr gyda Mr Dafydd Roberts a Mrs Rhiannon Thomas hefyd yn helpu efo'r cyfarwyddo a'r cynhyrchu. Mrs Julie Jones a Mr Richard Smith oedd y ddau athro a fu'n gyfrifol am y set wych.
Mrs Ellen Jones oedd yn bennaf gyfrifol am y gwisgoedd gyda Mrs Glenda Roberts a Mrs Margaret Williams-Roberts yn ei chynorthwyo. Mrs Manon Pritchard, mam Emily Pritchard, blwyddyn 8, oedd yn gyfrifol am y coluro a'r gwalltiau a Dr Francine Thomas, Ffiseg, oedd yn gofalu am y goleuo.
Y Neuadd Dan ei Sang
Cafwyd y perfformiad cyntaf ar brynhawn Llun, Rhagfyr 17eg, ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd y dalgylch ac yna cafwyd perfformiadau i'r cyhoedd ar nos Fawrth, Rhagfyr 18fed, a nos Fercher, 19eg.
Roedd y neuadd dan ei sang ar gyfer y ddwy noson a chafwyd ymateb gwych i'r sioe gan bawb a'i gwelodd - gymaint felly nes i'r ysgol dderbyn nifer helaeth o negeseuon yn canmol yr actio, y canu a'r dawnsio yn fawr iawn.
Ac wrth gwrs roedd y rhan fwyaf o'r diolch am hynny i'r cast o brif
actorion y sioe a roddodd gymaint o amser ac ymroddiad i'r cynhyrchiad dan gyfarwyddyd Linda Brown.