³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Cerflun eira Eira yma ac acw
Mawrth 2006
Cafodd cwpl o Fethesda eu dewis i wneud cerflun allan o eira mewn cystadleuaeth ryngwladol mewn Gwyl Eira (SnowFest) yn Lapland, Gogledd Sweden yn ddiweddar.

Dewiswyd Emyr a Christine Roberts, Bryn Derwen Isaf i gynrychioli Cymru yn y gamp ryfeddol hon (nhw oedd yr unig dîm o Brydain i gael eu dewis).

Yn y lle cyntaf bu'n rhaid i'r beirniaid ddewis dyluniad o gerflun gan ddeg tîm yn unig.

Apeliodd dyluniad Mr a Mrs Roberts o fam a'i phlentyn yn dwyn yr enw 'Gofal Tyner Cariadus (TLC) ac fe gawsant eu dewis ynghyd â thimau o Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen, Sbaen, Dinas Prâg a Sweden.

Y cerflunio eira yw uchafbwynt yr Wŷl ac mae pob tîm yn cael ciwb deg troedfedd o eira i wneud cerflun ohono mewn tri diwrnod a hanner.

Maent yn gorfod defnyddio gwahanol fathau o arfau wedi'u haddasu i'r pwrpas gan gynnwys teclyn weiran bigog arbennig a wnaed gan Mr Dafydd Cadwaladr.

Mae Mrs Christine Roberts eisoes wedi cerflunio eira a rhew mewn cystadlaethau yng Nghanada, y Ffindir a Moscow ond dyma'r tro cyntaf i Mr Emyr Roberts gystadlu.

Llongyfarchiadau i chi'ch dau am lwyddo i greu cerflun hynod o gelfydd ac effeithiol mewn amgylchiadau anodd tu hwnt.

Yn ystod eu hamser yng ngogledd Sweden, cafodd Mr a Mrs Roberts ynghyd a'r cerflunwyr eraill wahoddiad i ymweld a'r Gwesty Iâ byd-enwog yn Jukkasjärvi.

Pob mis Tachwedd, adeiladir gwesty newydd sbon allan o rew yn Jukkasjärvi, gogledd Sweden. Gan ddefnyddio peiriannau arbennig, tynnir y rhew allan o'r afon mewn blociau mawr.

Eir ati wedyn i godi gwesty anferth gyda 50 ystafell wely ynghyd ag eglwys lle cynhelir 150 o briodasau pob gaeaf a sawl bedydd. Mae aros noson yn y gwesty yma yn costio £1,000.

Bydd y gwesty'n toddi ym mis Ebrill a rhaid mynd ati i ail-adeiladu gwesty arall bob mis Tachwedd.

Ceir fframwaith o goed fel gwely a chroen carw ar ben hwnnw ynghyd a sach gysgu.

Mae hyd yn oed y goleuadau a'r gwydrau wedi'u gwneud allan o rew. Tymheredd y gwesty yw -6°C.

Gwahoddwyd. Mr a Mrs Roberts a gweddill y cerflunwyr i'r gwesty oherwydd bod angen cerflunwyr rhew i godi gwesty newydd bob gaeaf. Pwy a Wyr y flwyddyn nesaf . . .


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý