³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Mrs Marian Jones gyda disgyblion Ysgol Llanllechid a'r llyfrau Llwyddiant Cyhoeddi Deuddeg Llyfr
Rhagfyr 2004
Ni all hyd yn oed J K Rowling frolio cyhoeddi cymaint o lyfrau ag athrawes Ysgol Llanllechid.
Cymaint oedd brwdfrydedd y rhai a welodd storïau Marian Jones fel yr aethpwyd ati i gomisiynu deuddeg llyfr efo'i gilydd.

Bellach mae'r copïau cyntaf wedi gadael y wasg ac o fewn y mis nesaf bydd y deuddeg llyfryn am anturiaethau amrywiol Ceri a Huw yn cyrraedd pob ysgol gynradd yng Nghymru.

Mae disgyblion Ysgol Llanllechid wedi mwynhau darllen am Ceri, Huw a'r ci drwg ers nifer o flynyddoedd bellach, ac wrth eu boddau'n trafod y darluniau a darllen y storïau. Cawsant gyfle i actio'r cymeriadau mewn sawl sioe, canu'r caneuon, a pheintio lluniau Ceri a Huw.

Profwyd yn Ysgol Llanllechid, fod y storïau nid yn unig yn boblogaidd gyda'r plant a'u rhieni, ond hefyd yn llwyddiannus iawn fel cymorth i ddysgu iaith yn ei holl agweddau, yn nosbarthiadau'r Babanod.

Mae'n debyg mai llwyddiant y llyfrau yw eu symlrwydd - mae'r storïau'n fyr, y darluniau'n lliwgar, a dydi'r brawddegau ddim yn gymhleth. Mae'r eirfa sy'n y llyfrau wedi dod o 'fyd' plentyn.

Dydi'r llyfrau ddim ar werth yn y siopau eto, ond fel tamaid i aros pryd - gallwch weld perfformiad o 'Coeden Nadolig Ceri a Huw' gan blant Dosbarth Derbyn Ysgol Llanllechid ar 10 Rhagfyr.

Noddwyd y cyhoeddi a'r dosbarthu gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a chefnogwyd y fenter gan Gyngor Gwynedd. Gwasg y Bwthyn fu'n gyfrifol am yr argraffu, ac maent i'w canmol yn fawr am ddiwyg hyfryd y llyfrau.

Llongyfarchiadau i Mrs Marian Jones am ei champwaith!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý