³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Y parchedig Nia Catrin Williams Ficer ifanc
Rhagfyr 2008
Aeth bron i flwyddyn heibio ers i'r Barchedig Nia Catrin Williams ddod i Ddyffryn Ogwen yn ficer Bywoliaeth Glanogwen a Llanllechid gyda St Ann a Phentir.

Yn ddiweddar bu gohebydd Llais Ogwan draw yn Eglwys Crist Glanogwen i gael ychydig o'i hanes.

Ganed Nia yn Johnstown ger Wrecsam, ble treuliodd ei blynyddoedd cynnar, cyn i'r teulu symud i Fachynlleth pan oedd yn 11 mlwydd oed. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Ponciau, Rhosllanerchrugog, ac Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi, Machynlleth.

Ar ôl gwneud ei lefel A, aeth Nia i'r Swisdir am 2 flynedd i weithio fel "Nanny", cyn dychwelyd i Gymru a Choleg Diwinyddol Aberystwyth am 3 mlynedd ble'r enillodd radd mewn Diwinyddiaeth yn 1992.

Roedd 1992 yn flwyddyn fawr yn ei hanes gan iddi briodi Nigel (sydd yn ficer ym Mae Colwyn) a symud i Goleg Mihangel Sant, Llandaf, am 2 flynedd, i gael ei hyfforddi i fynd yn Offeiriad.

Y n dilyn cyfnod o fagu dwy ferch, Catrin a Dwynwen, ordeiniwyd Nia yng Nghadeirlan Llanelwy yn 1998.

Bu'n Swyddog Plant ac ieuenctid yr Esgobaeth yn Gurad Plwyfi Llanrhos a Bae Colwyn ac yn Ficer Towyn a Llan San Siôr, Sir Ddinbych, cyn dod i Fethesda yn Ionawr 2008.

Mae Nia yn wraig ifanc egniol a brwdfrydig ac ymhlith ei diddordebau, pa fo amser yn caniatáu, mae'n beicio a cherdded, trwsio hen geir a thractorau, a chwarae'r corned a tharo'r drymiau. Ie taro'r drymiau - a gwneud hynny yn yr eglwys pan ddaw'r cyfle i fywiogi pethau gydag emyn addas!

Mae'r Barchedig Nia Catrin Williams yn gweld ei hunan fel bugail i ardal gyfan ac fe hoffai weld yr Eglwys yn agor ei drysa i bawb sydd yn teimlo'r angen.

Mae'n credu bod cydweithio gyda'r holl enwada yn bwysig iawn ac mae'n edrych ymlaen at wneud mwy yn y cyfeiriad hwn yn y dyfodol.

Dymunwn ninnau'n dda iddi yn ei gwaith pwysig!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý