³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Arddangosfa gan Hogyn o Pesda
Chwefror 2006
Bydd amryw ohonoch chi, ddarllenwyr selog y Llais, yn cofio David Vincent Davies (Dafydd Vince) o Adwy'r Nant, Bethesda.
Efallai y byddwch yn cofio hefyd, bod Dafydd yn unig fab i Alice a William Arthur Davies, ac yn nai i David Davies, Siop Pantglas. Bydd rhai yn ei gofio yn ddisgybl yn Ysgol Sir Bethesda ('Y Cownti') ac efallai'n cofio mai Dafydd oedd y disgybl cyntaf yn Sir Gaernarfon i ennill ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg Celf Lerpwl.

Ond tybed faint ohonoch sy'n gwybod beth fu ei hanes wedyn? Mae'n bleser gan y Llais adrodd ychydig o'i hanes ac yntau bellach yn arlunydd o fri, ac ar fin cynnal arddangosfa o'i waith yn Llanberis.

Wedi gorffen ei gyfnod o 'Wasanaeth Cenedlaethol' ei swydd gyntaf oedd gyda'r Daily Mail yn Llundain, ble bu'n aelod o dîm oedd yn gyfrifol am ddylunio ac adeiladu'r 'Ideal Home Exhibition' yn Olympia, Llundain. Symudodd wedyn i gymryd swydd fel Prif Ddylunydd gyda chwmni Marley Tile yn Swydd Caint.

Yr Aran a Llyn Gwynant gan David Vincent Davies Yn 29 mlwydd oed dychwelodd i ogledd Cymru, ac am y 13 mlynedd ef oedd y prif ddylunydd yn Bernard Wardle, Peblig, Caernarfon. Yn ystod y cyfnod yma bu'n byw yn Eithinog, Bangor, ac fe fu'n aelod o Gôr Meibion Ferodo, Caernarfon. Gadawodd ardal Bangor gan ymgartrefu yn Wilmslow, Sir Caer pan apwyntiwyd ef yn Gyfarwyddwr Gwerthiant gyda Standex International yn Stockport.

Mae Dafydd yn briod â Stella, ac mae ganddynt ddwy ferch, Gwyneth a Karen, ynghyd â 5 o wyrion a wyresau. Mae Dafydd bellach wedi ymddeol ac yn byw yn Biddenham ger Bedford.

Treulia Dafydd y rhan fwyaf o'i amser yn paentio tirluniau o ogledd Cymru. Mae'n arbenigo mewn gweithiau acrylic, ac wedi cynnal llawer o arddangosfeydd o'i waith mewn gwahanol fannau, gan gynnwys Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug.

Gwelir enghreifftiau o'i waith mewn aml i gasgliad personol erbyn hyn yn ogystal ag ar gardiau cyfarch a werthir ledled Cymru.

Dymunwn bob llwyddiant i Dafydd gyda'i arddangosfa nesaf o dirluniau gogledd Cymru a gynhelir yn Oriel y Mynydd Gwefru, Llanberis o Ebrill 12 hyd Mai 16.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý