Mae'r gyfres yn rhoi cyfle i bobl enwebu unrhyw un sydd yn haeddu clod a sylw am resymau arbennig; am gyfraniad i gymdeithas efallai, am ddylanwadu ar fywyd personol mewn unrhyw ffordd, neu hyd yn oed am achub bywyd. Cyfle sydd yma i gydnabod dyled, i fynegi gwerthfawrogiad, i ddweud Diolch o Galon! A dyma Cefyn yn bachu ar y cyfle i fynegi ei ddiolch wrth Thelma, a fu'n dysgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen am 24 mlynedd. Mae hi wedi ymddeol bellach ers naw mlynedd. Mae hi wedi cadw mewn cysylltiad efo Cefyn ers iddo adael yr ysgol, ac mae yntau yn gwerthfawrogi ei chefnogaeth iddo yn ystod ei gyfnod yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Ogwen a'r cyfeillgarwch sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd ers hynny. 'Fe frwydrodd i gael fi trwy'r arholiadau', meddai Cefyn, 'ac mae'n fraint i mi ei chyflwyno gyda thlws Diolch o Galon
|