³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Carwyn Owen Llais y Mis
Mai 2006
Holi Carwyn Owen, Aberogwen ...
Mae Carwyn Owen, 34 oed, yn cadw fferm laeth yn Aberogwen. Cafodd ei eni ar y fferm a mynychodd Ysgol Tryfan cyn treulio blwyddyn yng Nglynllifon. Wedi hynny cymerodd yr awenau ar y fferm. Mae ganddo 110 o fuchod godro a 130 o stoc ifanc.

Mae'n briod â Rhian ers 1999 ac mae ganddynt dri o blant: Llio (6) a Gwion (4) sy'n mynychu Ysgol Llanllechid, a Gethin (2).

Maent newydd gychwyn busnes 'livery', sef gwasanaeth cadw ceffylau i bobl, ac mae wedi cychwyn yn addawol iawn.

Beth fyddwch yn mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden? Crwydro'r caeau wrth fynd trwy'r stoc. Rwyf hefyd yn mwynhau mynd allan am bryd o fwyd.

Oes gennych hoff le yng Nghymru? Traeth Llanddwyn - bod yno fel bod ar eich gwyliau er mai dim ond tafliad carreg i ffwrdd ydyw.

Enwch eich hoff le y tu allan i Gymru. Prag - wedi bod yno ar wyliau byr efo Rhian - tref hudol a bythgofiadwy.

Pwy yw eich hoff actor neu actores Gymraeg? Tudur Owen - yn enwedig pan mae'n actio rhan y plismon hoyw.

Pwy yw eich hoff berfformiwr cerddorol neu grŵp o Gymru? Cerys Mathews a Catatonia - wedi eu gweld mewn cyngerdd yng Nghaerdydd.

Beth yw eich hoff raglen Gymraeg ar S4C? Cefn Gwlad - yn enwedig pan fo cymeriadau lleol ar y rhaglen.

Beth yw eich hoff fwyd? Bwyd môr - mae gan ein ffrindiau gwch hel cregyn gleision, a byddwn yn cael gwahoddiad yno am swper a chael cimwch, cregyn gleision a 'King Prawns'. Hollol ffres - bendigedig!

Oes gennych arwr neu arwres? Dad - er i mi ei golli'n ifanc, rwy'n dal i'w edmygu'n fawr.

Beth sy'n eich gwneud yn hapus? Fy nheulu - a gweld y plant yn tyfu. Eu geiriau cyntaf oedd Mam, Dad a John Deer!! A chael troi'r gwartheg allan yn y gwanwyn ar ôl gaeaf hir.

Beth sy'n eich gwylltio'n gacwn? Buwch yn rhoi cic amser godro, a'r holl amodau newydd gan yr Adran Amaeth yng Nghaernarfon.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý