Dyma symudiad cadarnhaol i gefnogi ein pobl ifanc, a bydd y ganolfan yn siŵr o ddatblygu'n fan ymgynnull gwerth chweil iddynt. Bydd yno gyfle i ennill a meithrin sgiliau newydd yn hytrach na chrwydro'r stryd yn ddiamcan fin nos, a'r bwriad yw darparu cyrsiau amrywiol yn y Gwe-Gaffi maes o law. Mae'r ymateb cychwynnol yn galonogol, gyda'r ieuenctid yn tyrru i'r Gwe-Gaffi ac yn treulio amser hamdden pwrpasol yno yng nghwmni ei gilydd. Defnyddir y lleoliad hefyd gan Gymdeithas Addysg y Gweithwyr ar gyfer cynnal cyrsiau. Ar hyn o bryd mae cwrs Technoleg Cerddoriaeth bob nos Fawrth rhwng 6.30 a 9.30 o'r gloch, a chwrs ar Chwedlau Cymreig dan ofal Mr Gwynne Wheldon Evans bob pnawn dydd Gwener rhwng 12.00 a 2.00 o'r gloch. Gobeithir hefyd gychwyn cwrs Ffotograffiaeth Ddigidol yn fuan. Mae croeso cynnes iawn i bawb o bob oed yn y Gwe-Gaffi, a'r oriau agor ar hyn o bryd yw: Nos lau 6.00 - 9.30 Nos Wener 6.00 - 10.00 Dydd Sadwrn 2.00 -10.00 Dydd Sul 2.00 - 5.00 Mae croeso i unrhyw un alw i mewn am sgwrs yn ystod yr oriau agor efo Rheolwr y Gwe-Gaffi, Dion Hughes o Lanllechid a Delyth Vaughan, Swyddog Datblygu'r Cwmni.
|