Ar y cyfan, bu'n flwyddyn lwyddiannus, yn enwedig o safbwynt Cymru, y dalaith drafferthus honno. Mae Llywelyn, tywysog Cymru wedi marw, a'i frawd Dafydd hefyd, felly mae rheoli'r wlad hon yn mynd i fod yn eithaf rhwydd, er efallai braidd yn ddrud, er bydd y trethi a gesglir oddi wrth y Cymry yn fodd i dalu am y rhan fwyaf o'r costau.
Mae yna, fodd bynnag, un broblem fach ar 么l, sef beth i'w wneud a Gwenllian, merch fach Llywelyn. Mae hi'n gyfnither i'r Brenin o ochr ei mam, Eleanor de Montfort, merch i fodryb Edward a briododd Simon de Montfort. Bu farw Eleanor pan gafodd Gwenllian ei geni, ond yn awr gall y ferch fach hon, sydd ar drugaredd Edward, fod yn fodd i ailddechrau'r rhyfeloedd Cymreig unwaith yn rhagor. Gallasai'r Cymry yn hawdd ei hystyried fel arweinydd, a phe byddai'n priodi a chael mab, byddai hwnnw yng ngolwg y Cymry yn dod yn arweinydd ei hun ac achosi ychwaneg o boen a thrafferth i'r Brenin, heb s么n am gost ychwanegol. Rhaid iddo gael gwared ohoni. Dim ond dau beth sy'n bosib. Un ai rhaid i'r ferch fach hon farw, neu mae'n rhaid iddi ddiflannu o olwg y Cymry am byth.
Yn ystod y Canol Oesoedd doedd hi ddim yn beth anghyffredin i ferch gael ei hanfon i fyw mewn abaty am resymau yn ymwneud a chrefydd, ac yn fan honno roedd pob merch yn sicr o fod yn saff, a chael bwyd, dillad ac o bosib tipyn o addysg hefyd. Roedd y pethau hyn yn rhyw fath o ad-daliad am golli rhyddid, ac wrth gwrs i'r Brenin roedd y pethau hyn yn bwysig iawn. Dyma'r ateb perffaith i'r broblem oedd ganddo. Byddai'n rhoi'r baban mewn lle saff, lle byddai'n cael ei thrin yn unol 芒'i statws, ond heb allu achosi dim trafferth. Dewisodd y Brenin yn ddoeth. Roedd Abaty Sempringham yn Swydd Lincoln yr adeg honno, fel heddiw, yn bell iawn o Gymru.
Mae yna gofnod bod y baban Gwenllian wedi cael ei chymryd o Gymru yn y flwyddyn 1283, o bosib ar draws y m么r, i Abaty Sempringham yn Swydd Lincoln.
Ychydig iawn o fanylion eraill sydd ar gael amdani, ar wah芒n i'r faith ei bod hi wedi marw yno yn y flwyddyn 1337 pan oedd yn 55 mlwydd oed, heb unwaith adael yr Abaty. Roedd yn adnabod ei hun a'r enw Wencilian, oherwydd bod y clercod Seisnig ddim yn gallu sillafu ei henw'n gywir, ac yn sicr oedd hi'n ymwybodol nad lleian gyffredin oedd hi. Ond ni fyddai pobl Cymru wedi dod i wybod beth oedd wedi digwydd iddi. Diflannodd yn union fel yr oedd y Brenin wedi ei ddymuno, ac anghofiwyd amdani.
Nid anghofiodd pobl Gwynedd, fodd bynnag, am eu harweinydd Llywelyn. Ar ryw adeg yn y gorffennol fe aethon nhw ati i enwi mynydd er cof amdano ac enwi mynyddoedd eraill er cof am ei wraig ac am ei frawd.
Yno y maen nhw heddiw, yn adnabyddus i ni fel y Carneddau, yn gof bythol o deulu trasig o frodyr a frwydrodd mor ddewr i gynnal annibyniaeth Cymru. Carnedd Llywelyn, yr Elen a Charnedd Dafydd - mynyddoedd gyda stori i'w hadrodd. Ond nid yw Gwenllian yn cael ei chofio.
Awgryma Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian, sydd a'i nod i adfer i ymwybyddiaeth y cyhoedd fywyd ac amseroedd Gwenllian, y dylai hithau hefyd gael ei dwyn yn 么l yn symbolaidd at ei theulu yn y Carneddau, a'i hadfer i'w mamwlad, trwy gael mynydd wedi ei enwi er cof amdani. Mae Carnedd Uchaf wedi ei leoli'n agos at yr Elen ac nid yw nepell o Garnedd LIywelyn. Mae enw Carnedd Uchaf yn fwy o ddisgrifiad cyffredin o leoliad nag ydyw o emosiwn ac felly hawdd y gellid ystyried ei alw'n Carnedd Gwenllian, fel y gall y wir Dywysoges frodorol gael ei choffau yn ei mamwlad a sefyll ochr yn ochr a'i theulu yn y wlad hardd hon.
Byddai Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian yn falch o dderbyn sylwadau ar y cynnig canlynol:
'A ddylai'r Dywysoges gael ymuno 芒'i theulu yn y Carneddau?'
Janet Elson a'r Parch. Tegid Roberts
(Anfonwch eich sylwadau at Janet Elson, Dengrove Springs, Donhead St Andrew, Shaftesbury, Dorset, SP7 9EW neu e-bost: dengrove@tinyworld.co.uk)