Mae'r cynllun, sydd wedi'i ddatblygu gan Menter Iaith Gwynedd, wedi llwyddo denu 拢350,000 o Gronfa Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd. Daw gweddill yr arian cyfatebol o'r cwmni datblygu economi gwledig Gwynedd, Cymad; Bwrdd yr laith Gymraeg; Bwrdd Croeso Cymru a Chyngor Gwynedd.Bydd y buddsoddiad yn creu o leiaf pum swydd llawn amser gyda swyddogion maes yn gweithio mewn ardaloedd allweddol drwy'r sir i gyd. Mae'r cynllun yn cynnwys datblygu'r defnydd o'r iaith Gymraeg gan fusnesau lleol, meddai Cydlynydd Menter Iaith Gwynedd, Iddon Edwards, yn ogystal 芒 hybu'r iaith ar lefel gymunedol mewn ardaloedd penodol.Dengys ymchwil ddiweddar bod 60% o siaradwyr Cymraeg yn fwy tueddol o gefnogi busnesau lle mae nhw'n gweld a chlywed yr iaith. Bydd swyddogion y prosiect, fydd yn cael eu penodi ddechrau'r flwyddyn nesaf, yn defnyddio canlyniadau arolygon barn diweddar er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg pobl busnes o fanteision arddel yr iaith Gymraeg gyda'u cwsmeriaid. Bydd gweithgareddau diwylliannol a chymunedol hefyd yn derbyn cefnogaeth a bydd cynlluniau'n cael eu mabwysiadu i hyrwyddo'r iaith Gymraeg ymysg pobl ifanc Gwynedd,' ychwanegodd Iddon Edwards. Bydd hyn yn sicr o roi lle canolog i'r iaith yng ngwead cymdeithasol ac economaidd Gwynedd, meddai. Yn 么l Cyfrifiad 1991 roedd y canran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd gyda 73% o'r boblogaeth yn siarad yr iaith.Dros y ddegawd diwethaf bu cynnydd sylweddol yn y bygythiadau sy'n wynebu'r Gymraeg, meddai Iddon Edwards. Ein gobaith yw y bydd y prosiect yma'n ein galluogi i gryfhau rhai o'r ardaloedd gwanaf a thrwy hynny warchod cymeriad diwylliannol a ieithyddol y sir, ychwanegodd. Mae Cadeirydd Bwrdd yr laith Gymraeg, Rhodri Williams, wedi llongyfarch Menter Iaith Gwynedd ar ei llwyddiant yn denu arian Amcan Un tuag at hyrwyddo'r iaith Gymraeg yng nghymunedau'r sir. Bydd yr arian yma'n hwb sylweddol i waith menter sydd eisoes yn gweithredu'n effeithiol ac yn gadarnhaol yn yr ardal,' meddai.(Am ragor o fanylion cysylltwch ag Iddon Edwards ar 01766 512300 neu UTGORN ar 01766 514505.)
|