Treuliodd flynyddoedd wedyn yn dysgu crochenwaith a phethau cysylltiol yn Ysgol Uwchradd Llangefni gan fyw yn Llangaffo, Ynys M么n. Wedi ymddeol dychwelodd i fyw ym Methesda o fewn tafliad carreg i'r lle y cafodd ei eni.Un o'r pethau yr ydym yn falch ei fod wedi ail-afael ynddo wedi dychwelyd yw arlunio. Cynhelir Arddangosfa Flynyddol yr Haf yng Nghonwy bob blwyddyn. Eleni newidiwyd peth ar y drefn. Rhannwyd yr arddangosfa yn ddwy ran y tro hwn. Agorwyd Arddangosfa Aelodau'r Academi Frenhinol Gymreig, Gorffennaf 5 a bydd yn parhau tan Awst 10. Bydd yr ail ran o'r arddangosfa o waith artistiaid dethol ar fynd o Awst 16 hyd Medi 14. Derbyniwyd tri llun gan R C Ward i'r arddangosfa hon. Llongyfarchwn ef yn fawr ar ei lwyddiant. Y mae Cyril Ward yn paentio rhai pethau penodol o'n cwmpas. Dau o'r tri llun a gafodd eu derbyn oedd - Twll defaid yn wal y mynydd, ac Afon Ffrydlas yn llifo drwy wal y mynydd. Wrth fynd heibio nid yw dwr rhedegog yn hawdd i'w baentio na gwneud cerrig yn fyw. Mae'n hawdd iawn cymryd waliau a chreigiau'n ganiataol heb sylwi ar eu gogoniant yn y cylch hwn. Ond y maent yn gymaint rhan o'r lle ag yw cloddiau yn Llyn neu wrychoedd ym Mrycheiniog. Dywedodd Syr Kyffin Williams mewn cyswllt arall mai llygad y Cymro yw'r aelod mwyaf diog. Cymwynas fawr a ni feidrolion yw cael arlunydd i alw sylw at ogoniant m芒n bethau yn ein hamgylchfyd. Y mae Cyril Ward yn hoff iawn o baentio Giat Mochyn, Llidiardau, Llwybrau, Pileri a Phontydd. Daeth Keith Andrew i Sir F么n a phaentio pethau cyffredin iawn a'r amser hwnnw y gwelodd pobl Ynys M么n eu harbenigrwydd a'u hynodrwydd. Gall y lluniau hyn fod yn gymorth i ni i adnabod ein hamgylchfyd a'i werthfawrogi. Ein gwerthfawrogiad mwyaf o luniau R C Ward fyddai mynd i weld yr Arddangosfa sydd ymlaen o Awst 16 i Medi 14. Mae'r Oriel ar agor 11-5 yn ddyddiol ag eithrio dydd Llun. (Dydd Sul 1-4.30) John Owen
|