Ar ôl blynyddoedd o gyfarfod er mwyn ceisio datblygu y safle gwag a adnabyddir fel "Llys
Dafydd" ynghanol y Stryd Fawr, mae Cwmni Llys Dafydd wedi llwyddo hyd yn hyn i sicrhau bron i £70,000 o gefnogaeth ariannol er mwyn cychwyn ar y gwaith o greu gofod cymunedol a fydd o ddefnydd i'r pentref i gyd.
Bydd y gwaith cychwynnol o dirlunio'r safle yn cychwyn ddiwedd mis Mai eleni.
Mae'r chwarel yn garedig iawn yn cyflenwi'r holl lechi sydd eu hangen i gwblhau'r safle fel rhodd tuag at y prosiect cymunedol.
Bwriad y Cwmni a'r Cyngor Cymuned yw cydweithio i greu
gofod yng nghanol y pentref a fydd yn ffocws ar gyfer bywyd cymunedol a hefyd yn fan amlwg i ddarparu gwybodaeth i ymwelwyr i
Ddyffryn Ogwen.
Bydd y gofod yn ardaloedd cynnwys ardaloedd i eistedd a chymdeithasu, byrddau dehongli ar
gyfer ymwelwyr i Ddyffryn Ogwen gyda gwybodaeth ynglÅ·n a hanes a threftadaeth y Dyffryn, llwybrau beicio a cherdded a gwasanaethau
lleol.
Bydd yno hefyd ardal ar gyfer perfformiadau awyr agored (hynny yw, llwyfan ar gyfer corau a grwpiau lleol pan fydd digwydd¬iadau achlysurol ar y safle yn ogystal a stondinau lle efallai y gellid cynnal marchnad fwyd leol, ffair Nadolig ac yn y blaen.)
Mae'r Cwmni hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o godi canopi dros ran
o'r safle ac adeilad bach i gynnig
lluniaeth a gwasanaethau sylfaenol yn achlysurol ar gyfer digwyddiadau cymunedol.
Mae'r pensaer Maredudd ab Iestyn eisoes wedi creu cynlluniau ar gyfer y safle ac mae cais cynllunio ffurfiol wedi ei gymeradwyo gan Gyngor Gwynedd.
Gobeithir y bydd y gwaith ar y safle wedi ei orffen erbyn diwedd y flwyddyn.
Er mwyn i bobl ifanc yr
ardal gymryd rhan yn y prosiect, bydd Fferm Moelyci yn cydweithio gyda disgyblion o Ysgol Dyffryn Ogwen ar brosiect plannu ar y safle a bydd plant ysgolion cynradd yr
ardal hefyd yn cael y cyfle i wneud gwaith celf a fydd yn canolbwyntio ar weithio efo llechen ac yn cael ei arddangos ar y safle ei hun.
Pam na wnewch chi felly ymuno a ni yn ein bore coffi yn Neuadd Ogwen ar y 4ydd o Orffennaf er mwyn gallu taro golwg manylach ar y cynlluniau yma a rhoi syniadau inni am sut y byddech chi'n hoffi gweld y gofod yn cael ei ddatblygu a'i ddefnyddio.
Os am wybodaeth bellach, mae croeso i chwi gysylltu gydag ysgrifennydd y Cwmni ar 602509. Caren Brown
|